Pum munud gyda… y newyddiadurwr Sian Lloyd
![Sian Lloyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/b1a5/live/694b76b0-e930-11ef-9892-4b7641e79162.jpg)
- Cyhoeddwyd
Yn ystod ei gyrfa mae'r newyddiadurwr Sian Lloyd wedi gohebu ar nifer o straeon yn ymwneud gyda rai o droseddau mwyaf tywyll Cymru.
Mewn cyfres newydd ar S4C, Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd, bydd hi'n ailymweld â rai o'r achosion hynny, gan daflu mwy o olau ar y straeon cymhleth a thrist.
Bu Sian yn sôn am ei phrofiad o weithio ar y gyfres newydd gyda Cymru Fyw.
Beth yw'r syniad tu ôl eich cyfres newydd am drosedd yng Nghymru?
Bwriad y gyfres oedd cael siawns i ailymweld â rai o'r achosion hynny yng Nghymru sy' wedi bod yn y penawdau ac i edrych yn ddyfnach arnynt. Mae genna'i ddiddordeb yn y gyfres achos dwi wedi gohebu ar sawl achos llys yn ystod fy ngyrfa i – ac ar y pryd does dim cyfle i edrych yn fanwl mewn i'r cefndir a'r hanes.
Syniad y gyfres yw i gwrdd â rhai o'r bobl oedd yng nghanol y storm ar y pryd ac hefyd i ddysgu mwy am sut wnaeth ymchwiliad yr heddlu ddatblygu.
Ydych chi'n edrych ar effaith hir-dymor y troseddau ar deuluoedd a'r gymuned?
Ydyn, oherwydd mae rhai o'r rhaglenni yn sôn am ddigwyddiadau oedd wedi digwydd yn yr 1970au ond hefyd y bwriad oedd dangos sut mae'r heddlu yn gweithio heddiw.
Mae'r bennod Llinellau Lladd yn taflu goleuni ar achos llinellau sirol sy'n broblem yng nghymdeithas heddiw. Mae'n achos arloesol lle llwyddodd Heddlu Gogledd Cymru i gyhuddo gang o werthwyr cyffuriau o fasnachu plentyn. Felly yn y bennod yma ni'n clywed fod hyn yn ffordd anarferol i heddlu ddelio gyda hogyn oedd wedi cael ei arestio yn delio cyffuriau yn y Rhyl.
Dwi'n clywed a dysgu pam a sut wnaethon nhw ddefnyddio'r ddeddf caethwasiaeth modern yn yr achos yma. Ac hefyd gweld sut oedd ffonau symudol yn chwarae rhan allweddol yn ymchwiliad yr heddlu.
![Sian Lloyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/4df2/live/83846a50-e930-11ef-9892-4b7641e79162.jpg)
Pa drosedd wnaeth yr argraff fwyaf arno chi?
Oedden nhw gyd yn bwysig yn eu ffordd eu hunain. Mae'n fraint i allu helpu rhannu'r straeon yma.
Fel gohebydd pan chi'n siarad gyda rhywun o deulu person sy' wedi dioddef mae hynny bob amser yn gwneud argraff mawr oherwydd maen nhw'n rhannu pethau mor bersonol gyda chi.
Yn y rhaglen am hanes Janet Commins, oedd yn 15 oed o'r Fflint ac wedi cael ei lladd wrth gerdded adre o'r pwll nofio yn 1976, mae ewythr Janet, Derek Ierston, yn siarad.
Mae'r stori 'na'n mynd yn ôl dros 40 mlynedd achos yn 1976 roedd yr heddlu yn ffyddiog bod nhw wedi ffeindio pwy oedd wedi lladd Janet.
Ond dyn diniwed aeth i'r carchar a gyda datblygiadau DNA 40 mlynedd yn hwyrach ddaru nhw ffeindio mai dyn hollol wahanol oedd y troseddwr, sef Stephen Hough. Felly mi oedd 'na ail ymchwiliad ac achos llys yn y Wyddgrug yn 2017.
Yn y gyfres yma dwi'n cael amser i gael sgwrs dyfnach gyda Derek ac mae amser wedi mynd heibio ers hynny hefyd. Felly roedd yn fraint siarad efo fo ac roedd yn emosiynol iawn.
Ydy clywed hanes rai o'r troseddau yma'n effeithio arno chi yn bersonol?
Chi byth yn anghofio beth mae rhywun wedi rannu gyda chi, yn enwedig pan mae'r ffeithiau mor erchyll ond y peth pwysig dwi wedi trio 'neud yw trio cofio, os fyddwn i yn yr un sefyllfa sut fyddwn i eisiau cael fy delio gyda.
Mae'n bwysig rhoi platfform i rywun a rhoi'r cynnig i bobl siarad os ydyn nhw eisiau gwneud.
Beth sydd wedi'ch synnu chi fwyaf wrth ffilmio'r gyfres?
O'n i wedi syfrdanu ar sut mae data rŵan yn gallu dweud y stori ac mae'r bennod Llinellau Lladd yn dangos hynny.
Yn yr ymchwiliad mae'r tîm yn gallu adeiladu darlun o symudiadau pobl jest o data ffôn symudol a gallu creu darlun o beth ddigwyddodd heb unrhyw beth arall.
Mae'r gyfres yn dangos cryfder teuluoedd a phobl sy'n delio gydag effaith troseddau – pa stori sy'n aros yn eich cof chi?
Mae rhaglen Janet Commins yn dangos cryfder y teulu drwy Derek sy'n siarad gyda ni a 'dan ni'n gweld ei gryfder o a theulu Janet Commins dros y blynyddoedd.
Ac hefyd y tîm wnaeth wneud yr ail ymchwiliad, oeddan nhw eisiau dysgu pwy oedd ar fai ac oeddan nhw eisiau dal y person a chafodd Stephen Hough ei garcharu am ddynladdiad.
Beth ddigwyddodd oedd cafodd Stephen Hough ei arestio am rywbeth arall yn 2016 ac fel rhan o'r ymchwiliad yma cafodd DNA ei gymryd ganddo a'i roi yn y basdata cenedlaethol.
Roedd samplau wedi cael eu cymryd o gorff Janet Commins er nad oedd lot o fforensigs ar y pryd. Ac roedd 'na match pan gafodd DNA Stephen Hough ei roi mewn i'r bas-data.
Ddaru'r heddlu ailagor yr ymchwiliad a 'da ni'n dilyn y stori i gyd dros y 40 mlynedd.
Mae 'na elfen sy'n dangos cryfder pobl yn y rhaglenni i gyd – yn y rhaglen babi ar goll dwi'n siarad gyda dau gyn blismon a doedden nhw byth wedi rhannu eu stori o'r blaen.
Cafodd babi ei chipio o Ysbyty Glan Clwyd yn 1995. Roedd yn achos enfawr ac roedd y stakes yn uchel achos oedd babi ar goll ac roedd y cloc yn tician. Felly roedd pobl yn trio neud gwahaniaeth a 'da ni'n dysgu am bobl, yn enwedig y ddau heddwas, yn ystod y rhaglen.
Ydy ffilmio'r gyfres wedi newid sut chi'n meddwl am drosedd?
Dwi wedi dysgu lot wrth weithio ar y gyfres yma yn enwedig achos oedd gennym ni dîm o arbenigwyr oedd yn gallu esbonio rhai o'r cymhlethdodau a sut mae'r gyfraith a'r system gyfiawnder wedi newid.
Ac hefyd wrth i rai o'r achosion fynd yn ôl i'r 1970au, sut mae cymdeithas ond hefyd y system gyfreithiol wedi newid ers hynny felly dwi wedi dysgu am sut mae pethau wedi newid yn ystod y blynyddoedd.
Gwyliwch Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd ar BBC iPlayer.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd11 Ionawr