Sian Thomas: 'Mae'n rhaid i chi gael cythraul'
- Cyhoeddwyd
Yn ystod brwydr y cyn is-bostfeistr Noel Thomas am gyfiawnder, un sydd wedi bod wrth ei ochr, o'i weld yn cael ei ddedfrydu ar gam i naw mis o garchar i'w weld yn cael ei anrhydeddu i Orsedd Cymru, yw ei ferch Sian.
Yn ôl Noel, mae yna gythraul yn Sian sydd ddim ynddo fo. Ac fel mae Sian yn egluro wrth Beti George, roedd yn rhaid iddi feddu ar y cythraul hwnnw i gwffio dros gam ei thad am 18 o flynyddoedd.
Does dim yn dal y cythraul hwnnw yn fwy na'r lluniau o'r ddau y tu allan i'r llys yn Llundain ar ôl y dyfarniad i ddiddymu euogfarn Noel yn 2021.
Ond yn dilyn y frwydr hir am gyfiawnder, sut y buodd pethau i Sian? Sian sy'n adlewyrchu ar y cyfnod gyda'i thad mewn dau rifyn o Beti a'i Phobol.
Galwad gan Dad
Ar fore 13 Hydref 2005 derbyniodd Sian alwad gan ei thad yn ei hysbysu bod dau auditor wedi dod i'r swyddfa bost yng Ngaerwen yn holi lle roedd y £48,000 'coll' cyn i gar heddlu lanio, gan ddweud wrthi i ddod yno ar unwaith. Sian sy'n cofio'r diwrnod:
"O'n i'n digwydd bod ar y stad ddiwydiannol yn fan'ma [Gaerwen] yn gweithio i gwmni adeiladu, a dwi'm yn gwbod sut landish i. Oedd o fel carnij acw mewn ffordd.
"Oedd gen i Mam a'i ffrind yn beichio crio yn y gegin, oedd gen i'n modryb a Dad yn crio yn y stafall arall ac o'n i'n trio gweithio allan be' oedd yn mynd ymlaen.
"Nai fyth anghofio nhw yn dod i mewn a deud bod nhw isio handcuffio fo, a chwarae teg nath y ddau heddwas ddoth acw ddeud 'no wê', so neshi gytuno i fynd â fo erbyn amsar i Gaergybi efo'n modryb.
"Fel oeddan ni'n dod allan o'r car nathon nhw handcuffio fo tu allan i'r police station strêt awê.
"Dwi'n cofio wedyn, oedd hi tua un o'r gloch bora arna fi yn mynd nôl i Gaergybi, oedd yr heddlu yn dod atan ni a deud 'He's getting fingerprinted' a dwi'n cofio'r investigator a'i geiria' hi i mi oedd 'you can fight this if you've got the money' a mae hynna di hitio fi ar hyd fy oes.
"Mi oedd be' udodd hi yn brifo. Toedd na'm pres, mond fy nghyflog i a pensiwn Mam i drio cadw y tŷ i fynd i ni gyd. Mae y geiria' yna'n dal i chwara yn fy mhen i de."
Dim cyfle i ffarwelio
Cafwyd Noel yn euog ar gam o ddwyn £48,000 o arian y swyddfa bost yn Llys y Goron Caernarfon ar 13 Tachwedd 13 2006, dros flwyddyn ar ôl ymweliad yr heddlu ym mis Hydref 2005.
Chafodd Sian ddim ffarwelio a'i thad cyn y cafodd ei hebrwng i gell:
"Y peth ola oedd geiriau'r barnwr, 'take him down'. Dwi'n cofio nhw'n mynd â ni i stafall fach wedyn a dyma fi'n gofyn i Mr Wyn Lloyd Jones, [y cyfreithiwr] os gawn ni fel teulu jest mynd i ddeud ta-ta. Doedd ganddon ni fel teulu ddim clem sut oedd y system yn gweithio. 'Mae 'na ddiogelwch' medda fo, 'fedrwch chi'm mynd'."
Bu Noel yng ngharchar Walton am wythnos cyn cael ei symud i garchar Kirkham ger Blackpool. Ond doedd gan Sian, ei mam Eira, na'i brodyr Arfon ac Edwin ddim syniad i le anfonwyd Noel.
"Doedd gynnon ni ddim clem. Dwi'm yn gwbod sawl gwaith ffonish i'r twrna i ofyn lle oedd o.
"Oedd hi'n gyfnod ansicr fel oedd o'n deud. Oedd Dad yn y carchar ond mi oeddan ni'n teimlo fel bo' ni mewn carchar hefyd.
"Adra roedd pobl yn gweiddi, tynnu eich gwallt chi, poeri arnach chi. Fe ddigwyddodd hynny i fi. Oedd hynny'n brifo.
"Ac wrth gwrs, roedd y Daily Post efo ei lun o yn ei handcuffs yn mynd i mewn. Fo yn mynd i mewn i'r fan. Ond faswn i heb fod yn prowdiach ohono fo, natho ddim rhoi ei ben i lawr, mi sbiodd o i fyw y camera.
"Gymerodd hi chwe wythnos tan gathon ni'r visiting order i'n nhŷ fi yn Malltraeth i ddeutha ni lle oedd o, a wedyn aeth Arfon fy mrawd a Mam a fi, y tri ohonan ni i'w weld o am y tro cynta."
Ymweliadau carchar
"Dyna'r tro cynta i mi ei weld o mewn jîns. Dyna'r un peth da sydd 'di dod ohono fo – mae o'n gwisgo jîns hyd heddiw.
"A mi nes i ofyn os faswn i'n cael dwad â chacan i mewn ar ei ben-blwydd o yn 60.
"'Listen,' medda fi 'my father's 60 next time I come, do you mind if I bring him a cake.'
"Sa chi'n meddwl bo fi am ei ladd o. Dyma wynab y swyddog yn troi. 'No,' medda fo.
"'Pardon, arglwydd why?' medda fi. 'You might put razor blades or something in it.' medda fo wrtha fi. O'n i'n meddwl 'are you serious?'.
"Felly be nathon ni yn diwadd, oedd 'na fachine vending yno felly gafon ni far o siocled a rhoi hwnnw yn ganol y bwrdd a canu pen-blwydd hapus iddo fo ffor'na. Oedd rhywun mor gullible, erioed 'di bod yn rhan o'r system yma. Oedd yna lot o grio."
Gwerthu'r tŷ
Ar ôl tri mis yng ngharchar Kirkham rhyddhawyd Noel. Ond roedd yr hunllef iddo fo a'i deulu'n parhau, a Sian yn gorfod aberthu ei thŷ i warchod ei thad dieuog:
"Mi werthish i fy nhŷ yn Malltraeth neu fasa Dad wedi gorfod mynd yn ôl i'r carchar.
"Oedd raid i ni dalu'r proceeds of crime. Mi es i at fy rhieni wedyn i Gaerwen a dwi yno fyth efo nhw, craduriaid.
"Doedd Dad ddim yn hapus 'mod i'n gneud hynny ond ar ddiwadd y dydd plant ydi plant, wnawn nhw wbath i'w Tad a'u Mam gwnawn."
Bywyd heddiw
 hithau wedi gorfod treulio dau ddegawd yn cefnogi ei thad yn ei frwydr am gyfiawnder, sut mae Sian yn gweld pethau erbyn hyn?
"Ers i bethau gael ei setlo, mae'n od rŵan, mae rhywun yn teimlo ar goll achos bo' chi wedi gwario 20 mlynedd o'ch bywyd a 'dach chi 'di mynd yn obsessed efo'r peth.
"Mi gymrith flynyddoedd mae'n siŵr... mae gen i dros 43,000 o ebyst, dydi hynny ddim yn cyfri be' arall. Oedd raid i fi brofi efo ei lecsiwns o a sut oedd o'n mynd i gario 'mlaen efo'r cyngor.
"'Dan ni wedi gorfod profi bob dima goch, ond mae gynnon ni bobl eraill rwan fydd raid i ni drio helpu a phwsio petha' 'mlaen iddyn nhw.
"Mae yna lawar un wedi deud wrtha i y baswn i'n gwneud twrna achos hyn i gyd. Dwi wedi gorfod dysgu yn sydyn ar fy nhraed, jest i helpu 'neud petha i Dad druan, a faswn i yn neud o drosodd fory hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Gwrandewch ar sgwrs Noel a Sian ar Beti a'i Phobol
- Adran y stori