Mark Williams yn colli yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Mark Williams wedi colli yn erbyn Zhao Xintong yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Mewn gêm a ddaeth yn fyw yn ystod y sesiwn olaf nos Lun, fe drechodd y gŵr o China'r Cymro o 18 ffram i 12.

Williams, 50, yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd y rownd derfynol - gan dorri record y Cymro Ray Reardon a gyrhaeddodd y ffeinal ym 1982 yn 49 oed.

Ar ôl curo John Higgins mewn gêm hynod gyffrous yn rownd yr wyth olaf, fe drechodd Williams rif un yn netholion y byd - Judd Trump - yn y rownd gynderfynol o 17 ffrâm i 14.

Ond roedd y rownd derfynol yn un gêm yn ormod i'r Cymro. Fe gafodd sesiwn gyntaf siomedig dros ben brynhawn Sul gan ei adael 7-1 ar ei hôl hi.

Brwydrodd yn ôl rywfaint, ond wrth i'r sesiwn olaf gychwyn nos Lun dim ond un ffram oedd ei hangen ar y gŵr o China i gipio'r bencampwriaeth am y tro cyntaf.

Er hynny, enillodd Williams bedair ffram yn olynol gan wneud y sgôr yn 12-17 a chodi gobeithion y dorf yn Theatr y Crucible.

Ond roedd y dasg yn ormod i Williams gyda Zhao Xintong yn ennill 18-12 yn y pen draw.

Pynciau cysylltiedig