Dafydd Iwan yn paratoi i berfformio gyda'r band am y tro olaf

Dafydd Iwan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dafydd Iwan yn canu gyda'r band yn Llanuwchllyn nos Sadwrn - a hynny am y tro olaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd hi'n ddiwedd cyfnod yn Llanuwchllyn nos Sadwrn wrth i Dafydd Iwan berfformio am y tro olaf gyda'i fand.

Bydd yn parhau i ganu fel unigolyn i gymdeithasau, meddai, er mwyn cadw cysylltiad â gwahanol rannau o Gymru.

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd: "Fedrith rhywun fynd ymlaen i ganu tra bod e'n fyw a mae galwadau yn dod i mewn, ond o'n i'n teimlo erbyn hyn bod angen rheoli'r diwedd - felly dwi am roi'r gorau i ganu gyda'r band.

"Mae'n mynd yn anodd weithiau i drefnu pethau a threfnu trafnidiaeth - a chyrraedd adre' yn hwyr y nos neu'n gynnar yn y bore - a dwi'n ailadrodd fy hun ers blynyddoedd maith yn canu'r un caneuon!"

Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu Dafydd Iwan yn perfformio ar lwyfan y maes yn EIsteddfod Genedlaethol Wrecsam yn ddiweddar

Wrth iddo gael ei holi am uchafbwyntiau ei yrfa canu dywedodd ei bod yn anodd dewis, ond bod cyfnod y 1990au yn "gyffrous iawn" ac fe ddywedodd bod sawl uchafbwynt wedi bod mewn Eisteddfod Genedlaethol, Y Sioe Fawr a gwyliau fel y Cnapan.

Heb os 'Yma o Hyd' yw'r gân y mae'r rhan fwyaf yn gwybod amdani gan ei bod hi'n ddiweddar wedi dod yn anthem answyddogol tîm pêl-droed Cymru.

"Fe wnaeth Cwpan y Byd 2022 ehangu'r gynulleidfa ac mae cynulleidfa ddi-Gymraeg wedi dod mewn i'r darlun," meddai.

"Dwi wedi cael mynd i ysgolion mewn ardaloedd di-Gymraeg a gweld y gwaith sy'n mynd ymlaen mewn ysgolion Cymraeg.

"Mae'r gân wedi bod o gymorth i gyflwyno pobl a phlant o ardal di-Gymraeg i gân Gymraeg newydd ac maen nhw wedi cymryd ati yn rhyfeddol."

'Wedi cael cam fel Cymry'

Ychwanegodd: "Mae'r syniad yn y gân yn syml a dwi'n falch bo fi wedi rhoi cyd-destun arbennig i'r ymadrodd 'Yma o Hyd' sy'n taro deuddeg gyda'r Cymry.

"'Dan ni wedi cael cam fel Cymry ar hyd y blynyddoedd ond er gwaethaf pawb a phopeth ry'n ni yma o hyd.

"Fe ysgrifennwyd hi mewn cyfnod anodd yn y 1990au - o'dd Thatcher yn brif weinidog ac ro'dd hi'n benderfynol, wrth gwrs, o newid pethe - cau'r pyllau glo a nifer fawr o ffatrïoedd a gweithfeydd dur.

"Mi oedd hi'n ddyddiau anodd a doedd hi ddim yn gyfnod arbennig o dda i fi'n bersonol chwaith.

"Dwi'n falch bod y gân bellach yn symbol o'r penderfyniad sydd gan y Cymry i gadw i fynd."

Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Iwan wedi perfformio ambell waith yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau rhyngwladol Cymru

Mae caneuon Dafydd Iwan yn ganeuon protest ymgyrchol, a dywed ei fod yn teimlo'n rhwystredig weithiau "nad yw'r genhedlaeth iau yn ymrwymo i wleidyddiaeth ac ymgyrchu fel yr oedden ni yn y 1970au, ond bod hynny yn ddealladwy gan ein bod wedi ennill cymaint o dir".

"Ma' gynnon ni Senedd - mae angen mwy o bwerau arnon ni - ond mae pethau yn symud i'r cyfeiriad iawn a ni wedi cael statws i'r iaith," ychwanegodd.

"Dydyn ni ddim wedi cyrraedd Canaan, ond mae 'na deimlad ein bod mewn lle cryfach a sicrach a dwi'n teimlo bo' fi wedi cael byw mewn hanner canrif sydd wedi gweddnewid Cymru."

Yn sicr bydd nifer o'r hen ffefrynnau yn cael eu canu yn Llanuwchllyn nos Sadwrn - man y treuliodd Dafydd Iwan ei gyfnod tra'n yr ysgol uwchradd.

"Yn Llanuwchllyn y bydda i'n canu'r gân olaf gyda'r band ac mae Llanuwchllyn yn enghraifft wych o ardal wledig sydd yn llwyddo i gadw a denu pobl ifanc, ac yn llwyddo i gadw pob math o ddiwylliant cerddorol," meddai.

"Dwi'n gweld Llanuwchllyn fel meicrocosm o be' all ddigwydd yng nghefn gwlad Cymru os 'da chi'n cael y bobl i gyd-dynnu - ac mae sawl ardal arall lle mae pethau tebyg yn digwydd."

Ffefrynnau Dafydd Iwan?

Heb os bydd 'Yma o Hyd' ac 'I'r Gad' yn sicr o gloi'r noson fawr yn Llanuwchllyn ond beth yw ffefrynnau y canwr ei hun tybed?

O ran y caneuon eraill mae'n cyfeirio at rai tawelach fel 'Pam fod eira'n wyn?' 'Ai am fod haul yn machlud?', 'Esgair Llyn' a 'Hawl i Fyw'.

"Mae'n biti bod neges 'Hawl i Fyw' dal yn berthnasol, ond mae'n berthnasol o hyd fel nifer o ganeuon heddwch sy'n gwrthwynebu rhyfel a gwariant ar arfau."

O ran ef ei hun dywed Dafydd Iwan y bydd yn colli ymateb y gynulleidfa yn fawr.

"Mae pob perfformiwr yn byw ar ymateb y dorf yn naturiol, ac weithiau pan nad wyf yn perfformio ar nos Sadwrn a finnau'n teimlo fel cadach fydda i'n meddwl sut dwi'n gallu codi stêm am 22:00!"

Ond fe fydd yn parhau i ganu fel unigolyn.

Mae hefyd yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda'r teulu, ysgrifennu, gwylio chwaraeon - rygbi a chriced yn benodol - a garddio.

"Mae gweld os yw'r tomatos wedi cochi yn rheswm i godi yn y bore!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig