Cyflwyno system graddio cartrefi gofal

Bydd cartrefi preswyl yn cael sgôr am safon y gofal a llesiant preswylwr
- Cyhoeddwyd
Bydd cartrefi gofal yn cael eu graddio o dan system newydd.
Nod y cynllun yw helpu teuluoedd i asesu safon y gofal sy'n cael ei ddarparu mewn cartrefi preswyl i blant a rhai i bobl hŷn.
Bydd pob cartref yn cael eu sgorio ar bedair elfen: llesiant, gofal a chefnogaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn ogystal ag amgylchedd.
Arolygiaeth Gofal Cymru fydd yn gyfrifol am weinyddu'r system newydd o 1 Ebrill.
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
Fe fydd y broses o archwilio a rhoi sgôr i bob un cartref preswyl a gwasanaeth cymorth cartref yng Nghymru yn cymryd dwy flynedd.
Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf ddangos eu graddau ar y safle ac ar-lein.
Fe fydd pob un yn cael ei ddyfarnu yn rhagorol, da, angen gwella neu angen gwella'n sylweddol.
Mae system debyg yn bodoli eisoes yn Lloegr.

Aneurin Brown yw prif weithredwr cwmni Hallmark Care Homes, sy'n rhedeg 23 o gartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr
Mae Aneurin Brown, prif weithredwr cwmni Hallmark Care Homes, sy'n rhedeg 23 o gartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr, yn dweud y bydd y newid yn hwb i ymddiriedaeth pobl.
"Dan ni'n meddwl ei bod e'n syniad da ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl sy'n prynu gofal," meddai, gan ychwanegu "ac ry'n ni'n gweld falle ei bod e'n mynd i ddylanwadu ar safon gofal ar draws Cymru".
"Fi'n meddwl bod e'n mynd i roi pwysau ar bobl sy'n rhedeg cartrefi gofal i wella safonau," meddai.
"Mae pob un o'n cartrefi ni wedi graddio'n naill ai'n dda neu'n rhagorol, ond i gwmnïau eraill sydd falle ddim yn cyrraedd y safon mae hyn yn beth da i wella gofal."
'Gwneud penderfyniadau gwybodus'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn fod angen i'r wybodaeth fydd ar gael i'r cyhoedd fod "yn glir ac yn drylwyr".
"Mae penderfyniad i roi aelod o deulu neu i ddewis cartref gofal ar gyfer aelod o deulu yn ddewis mawr ac yn bwysig," meddai Rhian Bowen-Davies.
"A dwi'n credu'r fwyaf o wybodaeth sydd ar gael i deuluoedd ac unigolion dyna dwi'n croesawu.
"O ran y wybodaeth ei hun, mae'n bwysig bod e'n glir ond hefyd yn drylwyr ynglŷn â'r y fath o ddarganfyddiadau yn yr arolygiadau, a'r pedwar grŵp fydd yn cael eu harolygu.
"Ma'r holl wybodaeth 'ma yn mynd i 'neud e'n haws i unigolion wneud penderfyniadau gwybodus."
Ychwanegodd bydd y system graddio hefyd o werth i'r cartrefi gofal eu hun.
"I'r cartrefi gofal falle sydd angen gwelliannau, ac mae'n dangos iddyn nhw lle ma' cryfderau nhw, ond hefyd ble ma rhaid iddyn nhw wella."
Mae hi hefyd o'r farn, wrth i'r cyhoedd ddewis cartrefi gofal ar sail y graddfeydd hyn, y bydd hyn yn "gyrru gwelliannau o ran ansawdd a hefyd ymarfer o fewn y sector."
Dawn Bowden AS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi lansio'r system raddio
Gobaith Llywodraeth Cymru ydi y bydd y system newydd yn codi safonau ar draws y sector gofal.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: "Syniad hyn yw i roi hyder i'r bobl sy'n gwneud dewisiadau am ddod i gartrefi gofal.
"Mae'n benderfyniad mawr i chi ei wneud, fel rhiant neu berthynas, felly rydych chi angen gwybodaeth sy'n hawdd i'w ddarganfod ac i'w ddeall," meddai.
Fe fydd y system arolygu a graddio newydd yn cychwyn 1 Ebrill a bydd y graddau yn cael eu dangos mewn adroddiadau arolygon ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Fydd hi ddim yn ofynnol i gartrefi plant a chartrefi sydd â llai na phedwar o bobl yn byw ynddynt ddangos eu gradd ar eu hadeiladau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024