Trigolion yn dechrau mynd adref wedi llyncdwll
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion rhai o'r tai ger llyncdwll mawr ar ystâd dai ar gyrion Merthyr Tudful wedi cael dychwelyd i'w cartrefi.
11 diwrnod wedi i'r twll agor ar stad Nant Morlais ym mhentref Pant, mae'r cyngor sir yn dweud ei bod yn ddiogel i bobl ddychwelyd i saith o'r tai.
Rhai o'r cyntaf i ddychwelyd oedd Sheila a Meurig Price, ar ôl treulio 10 diwrnod yng nghartref eu merch.
"Fe fydd yn braf bod adref, " meddai Mr Price, wrth i'w wraig ychwanegu: "A rhoi'r gwres a'r teledu ymlaen."
Ychwanegodd Mr Price: "Roedden ni'n poeni ond fe gawson ni gyfarfod neithiwr gyda'r awdurdod lleol ac maen nhw wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd yn fwy diogel nawr nag erioed."
Mae'r cwpl yn falch hefyd ei bod yn ymddangos y bydd pawb yn gallu mynd adref cyn y Nadolig.
Dywed Cyngor MerthyrTudful eu bod yn obeithiol y bydd pobl adref erbyn ganol wythnos nesaf.
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
Erbyn hyn, mae'r twll oddeutu 40 troedfedd o ddyfnder a 10 metr o ddiamedr, ac yn ôl peirianwyr mae'r safle bellach yn ddiogel.
Mae pibell enfawr chwe throedfedd o ddiamedr wedi ei gosod yn y twll i ddal dŵr.
Y bwriad yw llenwi'r twll â charreg dros dro cyn cymryd camau mwy parhaol yn y flwyddyn newydd.
Mae'r garreg yn cael ei gosod gyda chludfelt enfawr a gyrhaeddodd y safle ddydd Mercher.
Ni fydd tarmac yn cael ei roi dros y twll, ond mae gobaith y bydd modd gyrru cerbyd hyd at ochr y twll.
"Mae trigolion wedi bod yn wych ac yn wirioneddol gefnogol," dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Brent Carter.
"Mae pawb yn ysu am fynd adref ar gyfer y Nadolig.
"Mae'r safle mor ddiogel ag y gallai fod. Mae'r ffos mewn cyflwr da iawn. Mae popeth yn edrych yn dda."