140 blynedd o dyfu llysiau yn Cae Pawb

Rhys RowlandsFfynhonnell y llun, Rhys Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Rowlands yn Cae Pawb Porthmadog

  • Cyhoeddwyd

Ers 140 o flynyddoedd mae llysiau a ffrwythau wedi cael eu tyfu ar randir ym Mhorthmadog.

Mae Cae Pawb wedi bod yno ers y 1880au, gyda llysiau a ffrwythau'n cael eu tyfu yno ar gyfer trigolion y dref.

Mae Rhys Rowlands yn berchen ar ddau randir ar blot Cae Pawb. A hithau'n fis annog pobl i fwyta'n fwy organig, bu'n siarad am y rhandir ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Dwi'n Cae Pawb ers tua 15 mlynedd bellach. Roedd y ddau daid yn garddio rhyw 'chydig, ac mi nes i ddechrau tyfu ambell beth yn ardd gefn Mam," meddai Rhys.

Cae PawbFfynhonnell y llun, Rhys Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 50 o randiroedd yn Cae Pawb

Mewn mis ble mae anogaeth i bobl droi eu cefn ar brydau parod ac i fwyta'n fwy organig, pa mor bwysig yw rhandiroedd cymunedol fel hyn?

"Dwi'n bwyta rhywbeth o Cae Pawb pob dydd o'r flwyddyn. Pethau fel tatws, dwi'n tyfu nhw yn yr haf a dwi'n bwyta nhw drwy'r flwyddyn.

"Dwi'm yn meddwl mod i wedi prynu tatws ers dwy i dair blynedd, rydan ni'n tyfu digon i fod yn self-sufficient."

Mae cymaint o lysiau yn cael eu tyfu ar y rhandir, mae Rhys yn gallu cynllunio a pharatoi bwydydd ar gyfer unrhyw achlysur.

Mae'n hoffi gwneud jamiau o'r hyn mae'n tyfu ac mewn un tŷ gwydr mae ganddo tsili y bydd yn defnyddio i wneud rhai o'r jamiau.

"Mae tsili Cayenne a Jalapeño. Efo'r Cayenne dwi'n gwneud saws sweet chili, mae'n siŵr mod i'n neud 45 i 50 jar o sweet chili pob blwyddyn ac mae hynny yn para blwyddyn gyfan i mi.

"Dwi hefyd yn gwneud rhyw 30 jar o jalapeño wedi'i biclo, mae eu blas nhw yn hurt," meddai.

'Garddio'n Ifanc'

Mae Rhys hefyd yn hoffi arbrofi ar y rhandir ac mae'n tyfu ffrwyth ciwi.

"Maen nhw fatha bwledi ar y funud - tydyn nhw ddim yn barod. Eleni ydi'r flwyddyn gyntaf iddyn nhw flodeuo. Mae'n siwr fod yna fis arall o dyfu ac aeddfedu iddyn nhw. Gawn ni weld mewn rhyw fis os fydden nhw'n fwytadwy neu beidio."

Mae Porthmadog yn le delfrydol i dyfu llysiau oherwydd ei leoliad, gyda'r gwynt yn cynhesu wrth ddod dros y mynyddoedd i ochr orllewinol Cymru ac mae 'na lot o law hefyd yn disgyn yn y dref, sy'n arwydd gwych i unrhyw arddwr.

Dechrau garddio'n ifanc iawn wnaeth Rhys drwy blannu ambell botyn yn yr ardd gefn,

"Dyma'n fi'n sylwi yn fuan iawn – os dwi eisiau tyfu lot o fwyd fyddai angen tir. Gan fod gynnon ni ddim pridd yn yr ardd gefn, dod i'r rhandir oedd y dewis gorau gan fod Cae Pawb mor agos i dŷ Mam.

"Mae gen i ddau blot erbyn rŵan ac yn tyfu llwyth o lysiau pob blwyddyn.

"Syniad rhandir, wrth gwrs, yw i rywun sy'n byw mewn tref neu ddinas sydd heb ddarn o bridd yn eu gardd cefn, ond mae rhandir yn rhoi'r cyfle yna i bobl dyfu llysiau ac mae Cae Pawb wedi bod yma ers y 1880, felly 140 o flynyddoedd o dyfu llysiau yma.

"Mae hi mor bwysig i fwyta pethau organig a llysiau o'r ddaear sydd heb gael eu prosesu, er mwyn lles eich hunan fwy na dim, ond dwi'n gwerthfawrogi 'sgen pawb ddim yr amser i dyfu llysiau eu hunain.

"Dwi hefyd yn sylwi fod 'na ambell berson yn ddihyder pan mae hi'n dod i dyfu llysiau. Dwi dal i ddysgu rhywbeth pob dydd, ac mae'n iawn i fethu. Dwi wedi tyfu llysiau gwych a rhai ofnadwy dros y blynyddoedd –mae o'n lot o trial and error." meddai.

Rhys RowlandsFfynhonnell y llun, Rhys Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Rhys yn rhoi dŵr i'r llysiau

Yn ogystal â pharatoi ei brydau bwyd i gyd gyda llysiau o Cae Pawb, mae Rhys hefyd yn falch fod rhandir o'r fath ar gael.

"Mae dros 50 o randiroedd yma yn Cae Pawb ac mae'n adnodd mor bwysig i ni yma'n Port.

"Mae rhaid i chi fyw o fewn ardal cod post arbennig er mwyn gallu cael un yma, ond mae beth mae o'n ei gynnig yn wych os nad oes gennych chi'r adnoddau neu gerddi addas i blannu llysiau.

"Dwi wrth fy modd yma a does dim teimlad gwell na bwyta platiad o ginio dydd Sul sy'n cynnwys rhyw 10 darn o lysiau yr ydych chi wedi ei dyfu eich hun," meddai.