Morgan yn cwestiynu 'cynaliadwyedd' Ysgol Gymraeg Llundain

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod yn "rhaid ni fod yn realistig"

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol Gymraeg Llundain ar "dir sigledig" ac mae'n rhaid "codi cwestiynau ynglŷn â chynaliadwyedd" yr ysgol, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn derbyn grant o £90,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ond roedd disgwyl i'r cymorth yna ddod i ben ym mis Mawrth 2026.

Fe gyhoeddodd Eluned Morgan ddydd Mawrth bod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer "y flwyddyn academaidd lawn", a bod y grant nawr wedi'i ymestyn hyd at Awst 2026.

Ond mynegodd bryder am nifer y disgyblion sydd yn mynychu'r ysgol.

"Y flwyddyn nesaf dim ond 10 disgybl fydd yna, ac wrth gwrs mae gennym ni gyfrifoldeb fel llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig y gwerth arian mwyaf posib o ran arian cyhoeddus.

"Dwi yn meddwl bod rhaid ni fod yn realistig, a'r ffaith yw pam mai dim ond 10 o ddisgyblion... mae'n rhaid codi cwestiynau ynglŷn â chynaliadwyedd".

Ystyried beth sydd 'fwyaf effeithiol'

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford wrth y Senedd bod rhaid ystyried beth yw'r ffordd "mwyaf effeithiol" o wario arian ar hyrwyddo'r Gymraeg yn Llundain.

Fe allai hynny olygu bod yr arian yn cael ei wario ar brosiectau gwahanol yn Llundain, nid dim ond yr ysgol.

Yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog, gofynnodd yr aelod annibynnol Rhys ab Owen ar y llywodraeth i ail ystyried y penderfyniad, gan ddweud mai'r ffordd orau i fuddsoddi yn y gymuned Gymraeg yn Llundain yw drwy'r ysgol.

"Does dim byd yn fwy effeithiol i sicrhau siaradwyr rhugl Cymraeg nag addysg Gymraeg llawn amser, ac mae'r ysgol Gymraeg yn Llundain wedi gwneud hynny am bron i 70 o flynyddoedd," meddai.

Llun o Ysgol Gymraeg Llundain. Mae ceir wedi parcio y tu allan.
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Ysgol Gymraeg Llundain ei sefydlu yn 1958

Dywedodd yr aelod Llafur Julie Morgan ei bod yn poeni'n fawr am ddyfodol yr ysgol.

"Unwaith mae wedi mynd, gawn ni byth mohoni eto," meddai.

Fe alwodd ar y llywodraeth i ystyried parhau gyda'r grant, gan ddweud ei bod wedi cael sicrwydd gan yr ysgol bod ganddyn nhw gynlluniau i gynyddu nifer y disgyblion ac y bydd yr ysgol yn dychwelyd i'r niferoedd yr oedd ganddyn nhw yn y gorffennol.

Ond dweud wnaeth y prif weinidog bod yr ysgol "ar dir sigledig o fis Medi" a bod angen iddyn nhw "feddwl yn ddifrifol am beth mae model cynaliadwy yn edrych fel, wrth symud ymlaen".

'Blaenoriaeth ar ddisgyblion Cymru'

Mae rhieni yn talu £4,300 y flwyddyn i'w plant fynychu'r ysgol, ac mae capeli Cymraeg Llundain hefyd yn cyfrannu yn ariannol.

Galwodd llefarydd y Ceidwadwyr ar y Gymraeg, Tom Giffard, ar y Prif Weinidog i "weithio gyda'r ysgol i sicrhau bod dyfodol i'r iaith yn Llundain "gan ddweud ei fod o'n credu bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "sicrhau bod mwy o blant a rhieni yn dewis yr ysgol Gymraeg".

"Mae'n blaenoriaeth ni ar ddisgyblion yng Nghymru. Dyna ble y'n ni'n mynd i ganolbwyntio ein gwaith ni," meddai'r Prif Weinidog.

Dywedodd Ms Morgan bod y llywodraeth yn buddsoddi arian mewn unedau trochi iaith yng Nghymru, felly os yw pobl yn Llundain yn dychwelyd i Gymru "ac eisiau i'w plant i fynd i ysgol Gymraeg, mae 'na gyfle iddyn nhw wneud hynny, os nag ydyn nhw wedi cael cyfle yn Llundain i siarad Cymraeg, trwy'r canolfannau trochi yma".

"Dwi'n meddwl dyna'r ffordd well i ni fynd ati o ran sicrhau bod cyfle gan bobl sy'n mynd i fyw yn Llundain, i fynd i ysgolion Cymraeg pan maen nhw'n dod gartref."