Dynes yn cyfaddef dynladdiad pedwar padlfyrddiwr Afon Cleddau

Nerys Bethan Lloyd y tu allan i'r llys ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-swyddog heddlu wedi pledio'n euog i ddynladdiad pedwar o bobl ar sail esgeulustod difrifol, yn dilyn taith padlfyrddio yn 2021.
Bu farw Paul O'Dwyer, 42, Andrea Powell, 41, Morgan Rogers, 24 a Nicola Wheatley, 40 yn y digwyddiad ar Afon Cleddau yn Sir Benfro ar 30 Hydref 2021.
Fe wnaeth Nerys Bethan Lloyd, 39 o Bort Talbot, oedd yn berchen ar gwmni padlfyrddio Salty Dog, bledio'n euog i un drosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith hefyd.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ddi-amod ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 15 Ebrill.
Roedd Llys y Goron Abertawe yn orlawn fore Mercher, gyda theulu'r rhai fu farw, a theulu'r diffynnydd yn bresennol.

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley
Ms Lloyd oedd yn cynnal y daith badlfyrddio ar Afon Cleddau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 ar fore Sadwrn 30 Hydref wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.
Bu farw Mr O'Dwyer o Aberafan, Ms Rogers o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley o Bontarddulais yn yr afon.
Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dyw cwmni Salty Dog ddim yn weithredol ers mis Mawrth 2024.
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
Yn 2022, fe wnaeth adroddiad swyddogol, dolen allanol feirniadu'r ffordd y cafodd y daith ei threfnu.
Fe wnaeth arolygydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) ddweud bod y ddamwain yn "drasig ac y gellir fod wedi ei hosgoi".
Roedd naw o bobl yn rhan o'r daith. Aeth pedwar ohonynt i drafferthion mewn cored ar Afon Cleddau Wen tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd.
Dywedodd yr adroddiad eu bod yn sownd yno, "gyda dim modd dianc".
Ychwanegodd, er bod yr arweinwyr yn badlfyrddwyr profiadol, doedd ganddyn nhw "ddim profiad o ddysgu pobl amhrofiadol ar afonydd sy'n llifo'n gyflym".