Cyn-arweinydd Plaid Cymru yn wynebu her am sedd yn y Senedd

Mae Adam Price, Nerys Evans a'r AS Cefin Campbell yn ceisio cael eu dewis am yr un sedd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-aelod Cynulliad Plaid Cymru Nerys Evans yn bwriadu sefyll yn etholaeth newydd Sir Gaerfyrddin yn yr etholiadau Senedd nesaf, mae BBC Cymru yn deall.
Fe allai hynny wneud hi yn anoddach i gyn-arweinydd y blaid Adam Price ennill y sedd eto - fyddai o bosib yn golygu diwedd ar ei yrfa wleidyddol.
Mae Adam Price, Nerys Evans a'r AS Cefin Campbell yn ceisio cael eu dewis am yr un sedd.
Roedd cyn-arweinydd y blaid yn etholiadau Senedd 2021 wedi addo cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn pum mlynedd pe bai yn ennill.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Fe ymddiswyddodd fel arweinydd yn 2023 wedi adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth o fewn y blaid.
Roedd yr adolygiad a'r adroddiad hwnnw wedi ei gomisiynu gan Blaid Cymru yn fis Rhagfyr 2022 a Nerys Evans wnaeth arwain y gwaith.
Roedd Adam Price wedi ei ddisgrifio fel gwleidydd "unwaith mewn cenhedlaeth" oedd gyda'r gallu i arwain y blaid i rym yn y Senedd.
Ond yn 2021 fe ddaeth Plaid Cymru yn drydydd y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr Cymreig, gydag Adam Price yn arwyddo cytundeb ar y cyd gyda'r arweinydd Llafur ar y pryd Mark Drakeford.

Roedd Nerys Evans yn aelod Senedd Cymru o 2007 tan 2011
Yn yr etholiad nesaf mae Nerys Evans yn bwriadu sefyll yn etholaeth newydd Sir Gaerfyrddin, etholaeth sydd yn cynnwys talp o'r etholaeth bresennol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Mae proses dewis ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad nesaf yn un mwy cystadleuol nag i Lafur a'r Ceidwadwyr, oherwydd yn wahanol iddyn nhw, dyw'r blaid ddim am roi triniaeth ffafriol i aelodau presennol Senedd Cymru.
Mae'r blaid hefyd yn anelu am gydraddoldeb rhyw ar sut mae'n dewis ble mae ymgeiswyr yn ymddangos ar restrau'r blaid.
Yn Sir Gaerfyrddin fe fyddai hynny yn golygu pe bai dynes yn dod i'r brig gydag aelodau'r blaid yn lleol, byddai dynes hefyd yn dod yn ail ar restr y blaid o'r wyth ymgeisydd ar y papur pleidleisio.
Pe bai dyn ar y brig, fe fyddai angen gosod dynes yn yr ail safle.

Mae disgwyl i Cefin Campbell hefyd sefyll ar gyfer yr un rhestr
Mae disgwyl i aelod Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru Cefin Campbell hefyd sefyll ar gyfer yr un rhestr.
Pe bai e'n ymddangos o flaen Adam Price ar y rhestr, byddai hynny yn golygu mai yn y trydydd neu'r pedwerydd safle y byddai Mr Price.
Mae disgwyl i Blaid Cymru ennill dwy o'r chwe sedd yn Sir Gaerfyrddin, fe allai tair sedd fod yn her.
Roedd Nerys Evans yn aelod Senedd Cymru o 2007 tan 2011.
Yn yr etholiad nesaf mae etholaethau Cymru ar gyfer y Senedd yn newid, gyda 16 sedd yn ethol chwe aelod yr un.
Bydd yna drefn newydd o ethol gwleidyddion hefyd o restrau plaid, gyda'r Senedd yn ehangu o 60 i 96 aelod.
'Cyffrous iawn'
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Adam Price ei fod yn "gyffrous iawn at y cyfle i ethol tri aelod Senedd dros Blaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin."
Ychwanegodd: "Mae gen i berthynas waith da gyda Cefin Campbell ac yn awyddus iawn i'w weld yn y Senedd nesaf."
"Mae ganddon ni sawl ymgeisydd benywaidd gwych hefyd fel Nerys Evans a Mari Arthur, ac fe fydd yna ymgeiswyr gwych eraill hefyd."
"Mae ganddon ni gyfle go iawn i anfon y tîm mwyaf erioed o Blaid Cymru i'r Senedd, a gobeithio byddai yn cael cyfle i fod yn rhan o hynny," ychwanegodd.