Medal efydd arall i Emma Finucane ar y trac seiclo

Emma FinucaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Finucane eisoes wedi ennill aur yn y ras wib i dimau ac efydd yn y Keirin

  • Cyhoeddwyd

Mae Emma Finucane o Gaerfyrddin wedi sicrhau ei thrydedd fedal ar y trac seiclo yng Ngemau Olympaidd Paris.

Enillodd Finucane efydd yn y ras wib unigol ar ddiwrnod olaf y gemau ddydd Sul, gan drechu Hetty van der Wouw o'r Iseldiroedd yn yr ornest am y trydydd safle.

Ellesse Andrews o Seland Newydd enillodd aur, a Lea Friedrich o'r Almaen yr arian.

Mae gemau Paris wedi bod llwyddiannus iawn i Finucane, wedi iddi ennill aur yn y ras wib i dimau ddydd Llun ac efydd yn y Keirin ddydd Iau.

Dyma'r tro cyntaf i Finucane, 21, gystadlu yn y Gemau Olympaidd, a hi yw'r seithfed Gymraes erioed i ennill medal aur.

Hi yw'r Gymraes gyntaf erioed i ennill tair medal mewn un gemau, a'r fenyw gyntaf o Brydain i wneud hynny ers Mary Rand yn 1964.

Dyma'r gemau mwyaf llwyddiannus erioed i athletwyr o Gymru, sydd wedi sicrhau 13 medal i Brydain - tair aur, tair arian a saith efydd.

Pynciau cysylltiedig