Gemau Olympaidd: Medal aur i'r Gymraes Emma Finucane

Y Gymraes Emma Finucane (chwith) yn dathlu gyda Katy Marchant a Sophie Capewell wedi'u buddugoliaeth ym Mharis
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes, Emma Finucane wedi ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, fel rhan o dîm seiclo Prydain yn y ras wib i dimau.
Dyma'r tro cyntaf i Finucane gystadlu yn y Gemau Olympaidd, a hi yw'r seithfed Gymraes erioed i ennill medal aur.
Fe wnaeth Emma Finucane, Sophie Capewell a Katy Marchant guro tîm Seland Newydd, ddaeth yn ail, o lai na hanner eiliad.
Fe wnaethon nhw gwblhau'r ras mewn 45.186 eiliad, gan osod eu trydedd record byd mewn tair ras.
Dyma fedal gyntaf Prydain yn y ras wib i dimau merched.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2024
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024