Medal efydd i Emma Finucane ar y trac seiclo

Emma FinucaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Finucane yn drydydd yn ffeinal y Keirin nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae Emma Finucane wedi ennill ei hail fedal i Brydain ar y trac seiclo yng Ngemau Olympaidd Paris.

Y seiclwr o Gaerfyrddin sicrhaodd efydd yng nghystadleuaeth y Keirin nos Iau.

Ellesse Andrews o Seland Newydd enillodd aur, tra mai Hetty van de Wouw sicrhaodd yr arian.

Daw wedi i Finucane ennill aur ddydd Llun fel rhan o dîm Prydain yn y ras wib i dimau, ac mae ganddi gyfle am fedal arall ddydd Sul yn y ras wib unigol.

Dyma'r tro cyntaf i Finucane gystadlu yn y Gemau Olympaidd, a hi yw'r seithfed Gymraes erioed i ennill medal aur.

Pynciau cysylltiedig