Treth etifeddiant: 'Bydd yn cymryd 19 mlynedd i fi dalu'r bil'
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr wedi dod at ei gilydd mewn mannau ar draws Cymru fel rhan o ddiwrnod o brotestiadau gan ffermwyr, wrth i'r ffrae ynglŷn â newidiadau i'r dreth etifeddiant barhau.
Dywedodd un arweinydd undeb ei bod yn wynebu bil treth posib "o dros £370,000" o dan y drefn newydd, gan rybuddio bod dyfodol ei fferm yn y fantol.
Cafodd digwyddiadau eu cynnal yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Y Fenni a Bangor - ac ar draws gweddill y DU.
Mynnu mai Llywodraeth San Steffan bod yn rhaid diwygio treth etifeddiant er mwyn "ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ffermwyr a theuluoedd mewn cymunedau gwledig yn dibynnu arnyn nhw".
Dywedodd Abi Reader, dirprwy lywydd undeb NFU Cymru bod y newidiadau yn bygwth dyfodol ei fferm ym Mro Morgannwg.
"Mae'r opsiynau ar gyfer fy nheulu yn gyfyngedig iawn - mae fy nhad yn 80 ac mewn iechyd gwael, felly does ganddo ddim amser i gynllunio," meddai.
Fe honnodd bod y teulu wedi derbyn cyngor eu bod yn wynebu bil treth etifeddiant posib "fyddai dros £370,000" unwaith bod y newidiadau i'r modd y mae eiddo amaethyddol yn cael ei drethu yn dod i rym yn Ebrill 2026.
"Does gen i ddim yr arian yna yn eistedd mewn banc, fe fyddai'n cymryd dros 19 mlynedd i mi dalu'r bil - a hynny heb gymryd unrhyw gyflog o'r fferm," esboniodd.
"Allai gofio pan ddes i mewn i'r busnes fel y genhedlaeth nesa' - y cyngor ges i gan y cyfrifydd oedd mai'r ffordd orau o basio'r fferm ymlaen oedd yn dilyn marwolaeth - a dyna sut ry'n ni wedi adeiladu ein cynlluniau ni dros y 15 mlynedd diwethaf... ond mae hynny wedi'i chwalu'n llwyr nawr," eglurodd.
"Mae'r pwysau mae hyn yn ei roi ar bob math o deuluoedd mewn sefyllfa debyg yn enfawr, yn enwedig i'r genedlaeth hŷn sy'n teimlo nawr eu bod wedi methu rhywsut."
Fe ymunodd Ms Reader â'r brotest yng Nghaerdydd a welodd res o dractors a cherbydau amaethyddol eraill wedi'u haddurno â baneri yn cael eu gyrru drwy ganol y ddinas.
Cafodd digwyddiad arall ei gynnal ym maes parcio archfarchnad Tesco, Bangor.
Ymhlith y ffermwyr yno yr oedd Elliw Griffith, merch fferm yn wreiddiol o Benisarwaun, ond sydd bellach yn byw ar fferm gyda'i phartner yn Ynys Môn.
"Mae'r hyn da ni'n ei wynebu yn newid byd go iawn i ni," meddai.
"Mae cenedlaethau o ffermwyr wedi bod ar y tiroedd yma a nawr yn gorfod wynebu talu'r dreth 'ma a gwerthu tiroedd er mwyn talu'r dreth.
"Mae'n ein gorfodi ni i newid ein bywoliaeth sydd yn drychinebus tu hwnt.
"A be 'di pobol ddim yn sylwi ydi fod hynny yn mynd i gael effaith ar lle ma' ei bwyd nhw'n dwad, a sydd wedyn yn mynd i gael effaith ar brisiau bwyd."
Dywedodd Hedd Pugh, ffermwr o Ddinas Mawddwy ei fod wedi teithio i Fangor ddydd Sadwrn i "ddangos i'r llywodraeth bo ni ddim yn hapus o gwbl efo'r tax olyniaeth 'ma".
"Da ni wedi cael ymateb da iawn gan y cyhoedd yma heddiw.
"Ma nhw yn dallt ac yn gefnogol iawn a dweud y gwir ac yn methu dallt be ma'r llywodraeth yn drio ei neud.
"Mae be ma nhw'n mynd i 'neud [y llywodraeth] yw andwyo cefn gwlad Cymru, dyfodol yr iaith Gymraeg , cynhyrchu bwyd.
"Mae o'n mynd i neud llanast go iawn ar gefn gwlad."
Mae Elwyn Evans yn denant ar fferm ym Modorgan, Ynys Môn a dywedodd: "Y rheswm ma' lot o landlords bach yn gosod y tir ydi i gadw y tir yn y teulu. Ac os ydyn nhw'n colli'r rheswm i gadw'r tir yn y teulu fydd 'na neb i rentio i ni fel tenantiaid.
"Dio'm yn rhoi cyfle i neb blanio ymlaen nadi?"
Ar strydoedd Caerdydd roedd y farn yn gymysg ymysg siopwyr a stopiodd i siarad gyda BBC Cymru Fyw.
Dywedodd Victoria, 34 bod ffermwyr "yn gyfrifol am y bwyd ar ein bwrdd".
Ond mae'n credu "y dylen nhw fod yn talu treth yn yr un modd â'r gweddill ohonon ni," gan ddadlau bod gan nifer "lot fawr o dir".
Roedd Ruth, 58 yn credu bod llywodraeth y DU yn bod "ychydig bach yn annheg".
"Mae'n rhaid iddyn nhw weithio rhywbeth allan achos ar ddiwedd y dydd mae ffermwyr yn gwneud gymaint droston ni," meddai.
Ers cael ei gyflwyno ym 1984, mae ryddhad eiddo amaethyddol (APR) wedi caniatáu i dir fferm ac adeiladau gael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf heb orfod talu treth etifeddiant. Mae lwfans arall - rhyddhad eiddo busnes (BPR) - yn golygu yr un fath i beiriannau fferm, da byw ac offer.
Yn ei chyllideb ym mis Hydref, cyhoeddodd y canghellor Rachel Reeves y byddai APR a BPR yn cael eu capio ar gyfanswm o £1m gydag unrhyw beth dros hynny yn cael ei drethu ar 20%, hanner cyfradd arferol y dreth etifeddiant.
Dywedodd llywodraeth y DU bod disgwyl i'w diwygiadau "effeithio ar ddim ond 500 o stadau ar draws y DU yn 2026-27 gyda nifer llawer llai yng Nghymru".
Dadlau'n erbyn y dadansoddiad yma y mae'r undebau amaeth - gydag ymchwil yr NFU yn awgrymu y gallai "hyd at 75% o ffermydd gweithredol gael eu heffeithio, gyda rhai yn wynebu biliau treth o gannoedd o filoedd.
Maen nhw wedi cyflwyno deiseb wedi ei llofnodi gan dros 270,000 o aelodau'r cyhoedd i 10 Downing Street, gan annog gweinidogion i oedi ac ymgynghori ar eu cynlluniau.
Buddsoddi £5m yn ystod y ddwy flynedd nesaf
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae ein hymrwymiad i ffermwyr yn parhau'n gadarn.
"Bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi £5 biliwn yn y byd amaeth dros y ddwy flynedd nesaf - y gyllideb fwyaf yn hanes y DU ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy.
"Byddwn hefyd yn cyflwyno diwygiadau a fydd yn hybu elw i ffermwyr drwy gefnogi cynnyrch Prydeinig a diwygio rheolau cynllunio er mwyn cefnogi cynhyrchu bwyd.
"Bydd ein newid i Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes yn golygu y bydd ystadau'n talu cyfradd treth etifeddiant o 20%, yn hytrach na 40% , a gellir lledaenu taliadau dros 10 mlynedd, yn ddi-log.
"Mae hwn yn ddull teg a chytbwys, sydd o gymorth i'r gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, gan effeithio ar tua 500 o ystadau'r flwyddyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024