Leisa Mererid: 'Colled aruthrol' wedi marwolaeth Mam 'fytholwyrdd'

Mae Leisa Mererid yn actores, hyfforddwr yoga ac yn rhoi sesiynnau trochfa sain i helpu gyda iechyd a lles
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Leisa Mererid wedi son am y sioc o golli ei mam yn sydyn, dim ond ddwy flynedd wedi marwolaeth ei thad.
Bu farw Margaret Edwards, oedd yn gyn-arweinydd Côr Betws Gwerful Goch ac yn un o hoelion wyth y byd cerdd dant, fis Rhagfyr 2019.
Daeth teyrngedau lu ar y pryd gan y byd cerddoriaeth Cymraeg a'r gymuned leol.
Dywedodd Leisa Mererid bod y golled yn un enfawr iddi hi a gweddill y teulu mor fuan ers profedigaeth fawr arall.

Roedd Margaret Edwards yn wyneb cyfarwydd yn y byd diwylliannol Cymraeg
"Doedd prin dwy flynedd wedi pasio [ers colli Dad] ac o'n i'n meddwl fasa Mam yn byw am byth," meddai mewn cyfweliad ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Roedd hi'n fytholwyrdd, yn llawn egni, yn iach iawn, felly dim anhwylder arni, felly roedd o'n andros o sioc i'r teulu.
"O'n i'n ffrindia mawr efo Mam. Roedda ni'n agos iawn ond ro'n i hefyd yn ddibynnol iawn arni hi.
"Mae hi wedi'n helpu fi - wel, hi a Dad, roedden nhw'n gefn aruthrol i mi yn ystod cyfnod anodd iawn yn fy mywyd i ac roedden nhw'n parhau i fod yn gefn i mi felly dydi bywyd ddim wedi bod 'run fath ers hynny mewn ffordd.
"Mae rhywun jest yn gorfod cario 'mlaen dydi a dysgu byw efo fo… ond roedd o'n golled aruthrol nid yn unig i fi ag i'r teulu ond i'r gymuned leol hefyd ag i'r byd cerddoriaeth yn gyffredinol."
'Dad efo gofal mawr at ei anifeiliaid'
Roedd Margaret Edwards, o ardal Betws Gwerful Goch, yn adnabyddus fel cantores, cyfansoddwraig, hyfforddwr partïon ac arweinydd Côr Bro Gwerfyl.
Fe ganodd a chyfansoddodd nifer o ganeuon gyda'r tenor Trebor Edwards, a hi oedd yn gyfrifol am gyfieithu'r geiriau ar gyfer ei gân amlycaf, Un Dydd Ar Y Tro.
Bu farw wedi iddi gael trawiad ar y galon wrth yrru car ar yr A5 ger Pentrefoelas ar 28 Rhagfyr.
Roedd hynny yn fuan wedi iddi golli ei gŵr, Ronald Edwards, oedd yn amaethwr ym Mrithdir, Betws Gwerful Goch, lle wnaethon nhw fagu eu teulu.
Dywedodd Ms Mererid, sy'n adnabyddus fel actores mewn rhaglenni fel Cei Bach, Tipyn o Stad ac Amdani a sydd bellach yn hyfforddwr yoga, bod ei thad wedi marw o niwmonia yn 2017.
Roedd wedi bod yn wael am gyfnod cyn hynny er nad ydyn nhw'n siŵr iawn hyd heddiw beth yn union oedd yn bod arno, meddai.
"Chafodd o ddim llawer o lwc efo iechyd yn anffodus felly mi fuodd o'n wael iawn am gyfnodau hir iawn yn ei fywyd," meddai.
"Roedd hynny'n beth trist iawn i'w wylio achos dyn y pridd oedd Dad, roedd o wrth ei fodd yn bod allan efo'i anifeiliaid, roedd o'n arddwr bendigedig yn tyfu llysiau, yn ennill mewn sioeau.
"Roedd o'n berson oedd efo parch mawr a gofal mawr at ei anifeiliaid a'i gynnyrch ac roedda nhw'n werth eu gweld."
Gallwch wrando ar gyfweliad llawn gyda Leisa Mererid ar Beti a'i Phobol am 18:00 ddydd Sul 13 Gorffennaf ac ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd27 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017