Gambl dewis Allen i gychwyn yn erbyn Montenegro - Bellamy
- Cyhoeddwyd
Mae Craig Bellamy wedi cyfaddef y byddai’n gambl dewis Joe Allen i gychwyn y gêm yn erbyn Montenegro nos Lun.
Fe ddaeth Allen, 34, allan o'i ymddeoliad rhyngwladol i gael ei ddewis yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd y mis yma, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y gêm gyfartal yn erbyn Gwlad yr Ia nos Wener.
Yn sgil trafferthion ffitrwydd, chwe gwaith yn unig y mae wedi ymddangos fel eilydd i dîm Abertawe'r tymor hwn, gyda Chymru yn brin o chwaraewyr canol cae fel Ethan Ampadu, Aaron Ramsey a Jordan James.
"Mae’n amlwg y bydd yn gambl ei gynnwys i gychwyn y gêm oherwydd cyn lleied y mae wedi chwarae eleni," meddai’r prif hyfforddwr, Craig Bellamy.
"Mae hynny'r un mor wir am nifer eraill o'n chwaraewyr hefyd. Mae nifer ohonyn nhw yn gwneud job dda iawn er nad ydyn nhw'n chwarae’n rheolaidd."
"Gobeithio y bydd mewn sefyllfa i chwarae i mi fory. Hyd yn oed os na fydd hynny’n bosib, mae wedi cael wythnos wych i ni ac mae wedi bod yn bositif iawn i ni."
- Cyhoeddwyd11 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Medi
- Cyhoeddwyd2 Hydref
Fe sefydlodd Allen ei hun fel un o gewri pêl-droed Cymru cyn dod â'i yrfa ryngwladol i ben yn 2023, wedi iddo ennill 74 o gapiau a chynrychioli ei wlad mewn dwy bencampwriaeth Ewropeaidd a Chwpan y Byd.
Dywedodd Bellamy, a gafodd ei benodi i’w swydd fis Gorffennaf diwethaf, y byddai wedi dewis Allen ar gyfer ei garfan gyntaf fis Medi petai wedi bod yn holliach - ond mae'r angen am y chwaraewr canol cae wedi bod yn fwy yn sgil absenoldeb Ampadu, James a Ramsey.
Mae'r broblem yma wedi bod yn un gyson i Gymru wrth iddyn nhw fethu â sicrhau cryfder yng nghanol cae, yn enwedig ers Euro 2016 wrth i chwaraewyr fel Joe Ledley, Andy King a Dave Edwards ymddeol.
Ampadu a James yw'r dewis cyntaf erbyn hyn, ond gyda'r ddau yna’n absennol yn sgil anaf a gwaharddiad, unig opsiwn pendant Bellamy ar gyfer y gêm yn erbyn Montenegro nos Lun yw Allen, Ollie Cooper a Josh Sheehan.
"Os byddech wedi trafod fy nghynlluniau ar gyfer y garfan pan wnes i gychwyn hyn, byddai digon o opsiynau gen i o ran yr ymosod. Dyw hynny ddim mor wir am ambell safle arall.”
"Rydym ni'n genedl sy'n gorfod bod yn greadigol weithiau ac mae hynny'n ychwanegu at ein cryfderau. Rydyn ni wedi gweld cenhedloedd tipyn yn fwy na ni yn dioddef yn yr un ardal [canol cae].
"Mae'n ardal o’r cae sy’n bwysig i ni o ran ein dull chwarae. Bydd yn rhaid i ni fwrw ati, doed a ddelo. Rwy'n edrych ymlaen i weld sut hwyl y caiff un neu ddau chwaraewr arall yn y safle hwnnw."