Cymru'n gorfod bodloni ar gêm gyfartal yng Ngwlad yr Iâ

Harry Wilson yn erbyn Gwlad yr IâFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Harry Wilson helpu i greu gôl gyntaf Cymru cyn sgorio'r ail ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gorfod bodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, er hanner cyntaf ardderchog oddi cartref yn Reykjavik.

Roedd y tîm mewn coch, yn eu trydedd gêm Cymru dan Craig Bellamy, yn ymddangos mewn sefyllfa gref yn dilyn goliau Brennan Johnson (11) a Harry Wilson (29).

Ond fe drodd y fantol yn llwyr yn yr ail hanner - y tîm cartref oedd ar dân a Chymru oedd yn chwarae'n fratiog.

Fe sgoriodd Logi Tomasson (69) i gau'r bwlch ac roedd yn ganolog i'r gôl a unionodd y sgôr wedi i'r bêl ddod oddi ar golwr Cymru, Danny Ward, i'w rwyd ei hun (72).

Mae'r Cymru yn dal yn ail safle Grŵp 4 ail haen y gystadleuaeth - Cynghrair B - a Thwrci'n dal ar y brig ond maen nhw wedi agor bwlch o ddau bwynt ar ôl trechu Montenegro o gôl i ddim nos Wener.

Roedd Johnson ymhlith pedwar newid i'r tîm a drechodd Montenegro yn eu gêm ddiwethaf.

Roedd Danny Ward, Jordan James a Sorba Thomas hefyd yn eu holau yn absenoldeb Karl Darlow, Ethan Ampadu, Chris Mepham a Lewis Koumas.

Yn dilyn 10 munud o chwarae gofalus gan y ddau dîm fe darodd Nico Williams y bêl yn gelfydd o'i hanner ei hun ac fe wibiodd Harry Wilson i'w chyrraedd a'i tharo tua'r gôl.

Llwyddodd y golwr Hakon Rafn Valdimarsson i atal y bêl rhag croesi'r llinell ond fe syrthiodd i lwybr Johnson a mater hawdd oedd ei tharo i'r gôl o agos.

Yr un cyfuniad - ergyd hir ardderchog gan Williams o hanner Cymru a rhediad gan Wilson - arweiniodd at ail gôl Cymru, ond y tro hwn, Wilson ei hun oedd y sgoriwr.

Fe reolodd y bêl yn gampus i roi amser i weld lle roedd y golwg cyn rhwydo gyda'i ail gyffyrddiad.

Cymru oedd y tîm mwyaf cyfforddus weddill yr hanner, yn enwedig yng nghanol y cae, a'r gobaith oedd y bydden nhw'n llwyddo i adeiladu ar eu perfformiad yn yr ail hanner.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru nawr wedi ennill unwaith a chael dwy gêm gyfartal ers penodiad Craig Bellamy fel rheolwr

Fe newidiodd y gêm yn gyfan gwbl wedi'r egwyl. Roedd y tîm cartref yn llawer mwy bywiog ac fe gawson nhw ambell i gyfle addawol.

Roedd angen arbediad da gan Danny Ward i atal ymgais ar y gôl gan Orri Oskarsson - ac un well fyth i stopio ergyd nerthol gan Johann Gudmundsson.

Ond mater o dri chynnig i Ynyswyr yr Iâ oedd hi. O symudiad a ddechreuodd gyda chic gornel fe sgoriodd Tomasson i gau'r bwlch - ac roedd y tîm cartref yn haeddu gôl.

Tomasson, a oedd heb sgorio i'w wlad o'r blaen, oedd yn bennaf gyfrifol am yr ail gôl hefyd.

Fe fanteisiodd ar gamgymeriad amddiffynnol gan Connor Roberts ar yr ystlys chwith i fynd am y gôl o ongl agos ger y postyn. Fe darodd y bêl ben-elin Ward ac i mewn i'r rhwyd.

Oni bai bod y bêl wedi taro'r postyn sawl tro yn yr ail hanner fe fyddai Gwlad yr Iâ wedi cipio'r fuddugoliaeth a bu'n rhaid i'r ymwelwyr fodloni ar bwynt.

Bydd Cymru'n wynebu Montenegro am yr eildro yng ngêm nesaf yr ymgyrch, yng Nghaerdydd nos Lun.

Ni fydd Brennan Johnson na Jordan James ar gael wedi iddyn nhw weld cardiau melyn nos Wener.