Galw am newid canllawiau ar ôl marwolaeth babi newydd-anedig

Bu farw Liliwen Iris Thomas yn Hydref 2022, 20 awr ar ôl cael ei geni
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi galw am dynhau canllawiau cenedlaethol ar ôl i ferch fach newydd-anedig farw wedi i'w mam gael ei gadael mewn coma heb oruchwyliaeth.
20 awr ar ôl iddi gael ei geni bu farw Liliwen Iris Thomas yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 10 Hydref 2022.
Clywodd cwest yn gynharach yn y mis fod "methiant i gymryd gofal digonol" o'r fam Emily Brazier ac na chafodd ei harchwilio am awr ar ôl cael dosau sylweddol o boenladdwyr.
Mae'r crwner, Rachel Knight, bellach wedi cyhoeddi Adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol sy'n galw ar Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn ystod y cwest.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Mai
Dywed y crwner ei bod hi'n credu nad yw canllawiau presennol NICE ar esgor a genedigaeth yn ymdrin yn benodol â lefelau analgesia a goruchwyliaeth.
Rhaid i Brif Weithredwr NICE ymateb i'r adroddiad erbyn y 3 Medi.
Clywodd y cwest sut y cafodd Ms Brazier 100mg o bethidin, 60 mg o godin yn ogystal o 'gas and air'.
Ond, fe fethodd bydwraig â sylweddoli ei bod mewn esgor gweithredol, oedd yn golygu y dylai fod wedi cael ei symud i gael gofal un i un.
Clywodd y cwest bod y ward yn eithriadol o brysur ar y pryd.
Aeth neb i edrych ar Ms Brazier rhwng 01:15 a 02:14 y bore canlynol.
Pan gafodd "gwaedd wan am gymorth" ei chlywed rhuthrodd bydwragedd i helpu.
Cafodd y babi Liliwen ei chanfod mewn "cyflwr gwael" a bu farw 20 awr yn ddiweddarach.
Rhoddwyd asffycsia neu ddiffyg ocsigen yn ystod genedigaeth fel achos marwolaeth Liliwen.
'Newidiadau dwys'
Dywedodd adroddiad gan arbenigwr meddygol ei bod yn debygol bod Ms Brazier wedi dioddef "ymateb ffarmacolegol gormodol a arweiniodd at goma".
Mae pennaeth bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Abigail Holmes, wedi ymddiheuro i'r teulu, a dywedodd fod "newidiadau dwys" wedi'u gwneud yn dilyn marwolaeth Liliwen.
Dywed y crwner fod y bwrdd iechyd wedi cymryd camau sylweddol i gyfyngu'n sylweddol ar y defnydd o analgesia yn ystod ysgogiad ac esgor, gan gynnwys lleihau dosau rhagnodedig, gan ganiatáu mynediad cyfyngedig yn unig at analgesia ar y wardiau.
Mae yna hefyd lefelau uwch o oruchwyliaeth o famau o dan analgesia.
Mae copi o'r adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol hefyd wedi'i anfon at y teulu ac at Brif Weithredwr GIG Cymru.
Awgrymodd y crwner y gellid anfon y casgliadau at fyrddau iechyd eraill ledled Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.