Elfyn Evans yn ymestyn ei fantais ym Mhencampwriaeth y Byd

Roedd Evans yn rasio gyda'i gyd-yrrwr Scott Martin fel rhan o dîm Toyota
- Cyhoeddwyd
Enillodd y Cymro Elfyn Evans Rali Safari Kenya i ymestyn ei fantais ar frig Pencampwriaeth Rali'r Byd (WRC) i 36 pwynt ar ôl tair rownd.
Fe wnaeth Evans, 36, lwyddo i ennill dwy ras o'r bron am y tro cyntaf, gan orffen fwy na munud o flaen Ott Tanak o Estonia.
Dyma'r tro cyntaf i Evans ennill yn Kenya ond y pumed tro yn olynol i dîm Toyota.
"Da iawn i'r tîm, fe wnaethon nhw waith gwych ac rwy'n falch o fod yn rhan fach iawn o hanes Toyota yn y rali arbennig hon," meddai Evans.
"Hoffwn ddiolch i bawb yn Kenya am groeso cynnes iawn a rali anhygoel."
Ar ôl ennill y cymal agoriadol ddydd Iau a dau gymal ddydd Sadwrn, roedd Evans a'i gyd-yrrwr Scott Martin ar y blaen o ychydig llai na dau funud cyn dechrau'r ras ddydd Sul.
Er iddyn nhw ildio 47 eiliad yn y cymal olaf, fe lwyddon nhw i groesi'r llinell un munud a naw eiliad o flaen Tanak.
Mae Evans bellach ar gyfanswm o 88 o bwyntiau yn y bencampwriaeth, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Sweden fis diwethaf.
Dyma'r fantais fwyaf erioed yn y bencampwriaeth ar ôl tair rownd.
Fe fydd y rownd nesaf - Rali Islas Canarias - yn cael ei gynnal rhwng 24-27 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Ionawr