34 artist i dderbyn cefnogaeth wrth i Gorwelion ddathlu 10
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect Gorwelion wedi cyhoeddi'r 34 o artistiaid fydd yn derbyn cefnogaeth ariannol yn 2025 - degawd ers lansio'r cynllun.
Ymhlith y cerddorion fydd yn derbyn cyfran o gronfa gwerth £60,000 eleni mae; Buddug, Cyn Cwsg, Marged a Talulah.
Mae eleni'n flwyddyn arbennig i Gorwelion gan eu bod yn dathlu degawd ers lansio'r cynllun sydd a'r nod o roi llwyfan ehangach i gerddoriaeth o Gymru.
Dywedodd Buddug, un o'r artistiaid fydd yn derbyn arian gan y Gronfa Lansio eleni, fod cefnogaeth o'r fath yn "bwysig iawn i artistiaid Cymraeg, yn enwedig rhai ifanc".
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae dros 450 o artistiaid wedi bod yn rhan o wahanol brosiectau Gorwelion.
Ymhlith y'r artistiaid amlycaf i gael cymorth dros y blynyddoedd mae Adwaith, Melin Melyn, Buzzard Buzzard Buzzard a LEMFRECK.
Yn ôl Gorwelion, mae'r cyllid yma wedi bod yn "hollbwysig" wrth roi cyfle i artistiaid ddatblygu eu gyrfaoedd.
Mae arian o'r Gronfa Lansio yn aml yn cael ei ddefnyddio i fynd i recordio, hyrwyddo deunydd, prynu offer neu greu fideos cerddorol.
Y Loteri Genedlaethol sy'n rhoi cyllid i Gronfa Lansio Gorwelion, a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n dyrannu'r arian.
Mae Buddug, artist ifanc o Lanrug yng Ngwynedd, ymhlith y rhai sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o'r cynllun eleni.
Mae hi eisoes wedi rhyddhau dwy gan, 'Dal Dig' ac 'Unfan' ar label Recordiau Cosh, a'r gobaith nawr yw mynd ati i weithio ar ei halbwm gyntaf.
"O'n i'n really excited pan nes i glywed bo' fi 'di cael fy newis, ma'n compliment mewn ffordd, a fydd o'n lot fawr o help," meddai.
"Dwi ar flwyddyn allan eleni ac yn gobeithio gallu recordio dipyn, felly bydd y pres yma yn lot o help.
"Os dwi'n gallu defnyddio'r pres yma i recordio, mae'n golygu, gobeithio, y byddai'n gallu cael mwy o bres allan ohono fo fy hun - sy'n bwysig iawn, yn enwedig pan ti'n dechrau."
Ychwanegodd fod cynlluniau fel Gorwelion yn bwysig i artistiaid sydd yn dal i ddatblygu: "Does gan lot ddim y means i fynd ati i recordio, ac mae'r ffaith bo' 'na lot o fandiau ifanc yn cael eu dewis yn grêt.
"Gobeithio fydda i'n gwneud contacts a bydd 'na wastad gyfle i ofyn am gyngor os oes angen hefyd."
Dywedodd Llinos Emanuel o Gaerfyrddin, un arall o'r artistiaid fydd yn derbyn arian eleni: "Rwy' ar ben fy nigon fy mod i'n un o'r rheiny sy'n cael arian gan y Gronfa Lansio yn 2025.
"Bydd hyn yn hwb a hanner i fy ngyrfa, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd i'r stiwdio i recordio fy mhrosiect newydd."
Ychwanegodd LUVLY, un arall o'r artistiaid ymhlith y casgliad o 34, ei fod am ddefnyddio'r arian i ddatblygu cynllun cerddorol yng Nghaerdydd.
"Drwy Gronfa Lansio Gorwelion, rwy'n edrych ymlaen at ddod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd fel rhan o brosiect ar y cyd sy'n hybu doniau lleol, yn dathlu diwylliant, ac yn rhoi siâp i'r sŵn mawr nesaf o'r Deyrnas Unedig."
Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion - sydd wedi bod wrth y llyw ers y dechrau - ei bod yn gyfnod cyffrous iawn.
"Ar ôl dathlu degawd o raglen Gorwelion yn ddiweddar, mae'n hyfryd gallu dechrau'r calan hwn drwy ddathlu a darganfod pob mathau o ddoniau newydd," meddai.
"Mae hwn yn teimlo'n gyfnod hynod o gyffrous yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu cefnogi'r grŵp hwn o artistiaid eleni mewn ffordd ymarferol a phenodol.
"Mae ein diolch, fel wastad, i'n partneriaid yn BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Maen nhw wedi annog cymaint o greadigrwydd cynnar yn y celfyddydau drwy'r gronfa hon, ac wedi cefnogi Gorwelion i ddatblygu doniau dros y 10 mlynedd anhygoel ddiwethaf."
Yr artistiaid fydd yn derbyn arian yn 2025:
Bau Cat, Ben Ellis, Blue Amber, Bruna Garcia, Buddug, Charlie J, Cyn Cwsg, Dan's People, em koko, Freyja Elsy, Guilty Party, Jessika kay, Klust / UNTRO, Korrupted, lemongel, LICO, Llinos Emanuel, LOYD, LUVLY, Malgola No, Malika blu, Marged, Moletrap, Monet, Nancy Williams, Nathan Misra, Ofnus, Plastic Estate, Pseudo Cool, Shale, SHLUG, Sleep Outside, Source, Talulah.