5 artist cerddorol i'w gwylio yn 2025
- Cyhoeddwyd
A dyna ni, blwyddyn arall o gerddoriaeth wedi hedfan heibio! Ond pwy fydd sêr 2025? Tegwen Bruce-Deans, bardd, adolygydd cerddoriaeth, ac un o gydlynwyr casgleb greadigol Kathod sy'n ein rhoi ni ar ben ffordd.
Un o fy hoff bethau i wneud wrth agor plisgyn y flwyddyn newydd ydy cymryd y cyfle i fyfyrio ar y flwyddyn gerddorol a fu.
Llynedd, ar wahoddiad caredig BBC Cymru Fyw, fe awgrymais ambell enw i'w gwylio yn 2024, a buodd hi'n flwyddyn lwyddiannus iawn o gigio ac ennill gwobrau i'r enwau hynny.
Yn wir, roedd 2024 yn teimlo fel blwyddyn gyffrous o gerddoriaeth i Gymru gyda llwyth o enwau newydd yn egino ar y sin, a da oedd gweld cymaint o gefnogaeth i'r artistiaid hyn gan wyliau cerddorol sefydledig fel Gŵyl Sŵn a Sesiwn Fawr Dolgellau.
Ar yr un pryd, bu ambell enw cyfarwydd bytholwyrdd yn mentro gyda phrosiectau â gwedd newydd.
Blwyddyn o arbrofi oedd i'r rhan helaeth, blwyddyn o drio pethau newydd fydd yn dwyn ei ffrwyth yn y flwyddyn newydd, gobeithio.
Dyma awgrymu, felly, rhai o'r enwau y dylech chi gadw llygaid arnyn nhw yn 2025!
1. Lleucu Non
Efallai bod Lleucu yn enw cyfarwydd i rai fel animeiddiwr ifanc o Ddyffryn Nantlle, â'i gwreiddiau bellach yng Nghaerdydd. Ond eleni cafodd gyfle am y tro cyntaf i ryddhau sengl newydd sbon trwy gydweithio gyda'r cynhyrchydd Sywel Nyw i blethu'n ddiwnïad ei sgiliau animeiddio gyda cherddoriaeth.
Mae melodïau hudolus Lleucu ar 'Dwi ar Gau' yn plethu'n berffaith gyda myfyrion cerddorol breuddwydiol Sywel Nyw yng nghefndir y trac. Yn ysgafn a chwareus ar y gwrandawiad cyntaf, mae'r sengl yn mynnu sylw gyda'i geiriau torcalonnus sy'n tynnu'r gwrandäwr nôl tro ar ôl tro.
Rhyddhawyd y sengl ar label newydd sbon, 'UNTRO'. Dyma gydweithrediad cyffrous rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp S4C a Klust sydd eisoes wedi rhoi llwyfan i enwau fel Cyn Cwsg a Ffion Campbell-Davies hefyd.
Fues i'n ddigon ffodus i weld Lleucu yn perfformio'i barddoniaeth fel rhan o ddigwyddiad Creiriau yng ngŵyl Sŵn 2024, ac mae'n debyg bod mwy o gerddoriaeth ar y gweill ganddi yn 2025.
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
2. Taran
Band ifanc o Gaerdydd ydy Taran. Er eu bod yn enw newydd i'r sin, maent yn sicr wedi dechrau creu argraff yn barod ar gynulleidfaoedd ar draws Cymru gyda gigio cyson yn 2024.
Yn gymysgedd o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Glantaf, ffurfiodd y band roc fel rhan o brosiect 'Yn Cyflwyno' Tafwyl a Menter Caerdydd yn 2023. Llynedd, dechreuodd y band ddod o hyd i'w traed gyda label JigCal, gan ryddhau eu sengl début a'u EP cyntaf o fewn ychydig fisoedd i'w gilydd dros yr haf. Mae'r EP, 'Dyweda, Wyt Ti....', yn gasgliad o ganeuon sy'n ymfalchïo yn ieuenctid y band.
Ond er eu bod nhw dal yn ifanc, mae'n bleser gweld y band yn perfformio ar lwyfan. Yn wir, dyma ble mae'r prif-leisydd Rose Datta ar ei gorau; yn arllwys ei henaid i bob alaw, a swyno'r gynulleidfa gyda'r meicroffon yn ei llaw. Dw i'n rhagweld pethau cyffrous ar y gweill i'r pump yn y flwyddyn sydd i ddod, ac yn edrych ymlaen at ddilyn eu taith gerddorol nhw yn 2025.
3. Don Leisure
Yn wahanol i weddill ei gwmni ar y rhestr yma, nid enw newydd mo Don Leisure. Yn wir, mae'r cynhyrchydd a DJ o Gaerdydd wedi bod yn creu clytweithiau o hip hop, seicadelia a ffync ers degawd a mwy, a hyd yn oed wedi cael cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig mwy nag unwaith.
Felly pa beth newydd ddylai mynnu ein sylw ni yn 2025? Wel, mae'r label eiconig Sain wedi agor eu cist trysorau cerddorol i Don Leisure gael tyrchu drwy'r archif ac ail-weithio rhai traciau cyfarwydd a gyhoeddwyd dan y label flynyddoedd yn ôl. Cawsom flas ar yr hyn sydd ar y gweill ganddo yng Nghaffi Maes B y llynedd diolch i lansiad Stafell Sbâr Sain gan Klust, pan gafodd Don Leisure y cyfle i droelli ei arbrofion yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
Ers hynny, mae wedi rhyddhau sengl gyda'r cerddor Carwyn Ellis, 'Cynnau Tân', sy'n samplo dau glasur gwerin-seicadelig o archif Sain. Dyma drac sydd wedi bod ar lŵp gen i ers ei ryddhau, ac yn codi'r awydd i glywed mwy o'r casgliad hwn o waith sydd ar y gweill yn 2025.
4. Llinos Emanuel
Eto ddim yn un anghyfarwydd i lwyfan mawr, mae Llinos Emanuel yn gerddor sesiwn sydd wedi perfformio'n rhyngwladol gydag enwau fel Tom Odell a Paris Paloma. Ond wrth ddychwelyd i'w mamwlad wedi cyfnod ym mhrysurdeb Llundain, mae Llinos wedi cydio yn y cyfle i gamu allan i ganol y llwyfan am y tro cyntaf a dechrau rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol.
Mae Llinos yn rhan o don gyffrous o artistiaid unigol benywaidd yn y sin cerddoriaeth Gymreig ar hyn o bryd. Yn wir, mae Llinos yn enwi artistiaid fel Mared yn ddylanwad mawr arni hi'n dewis rhyddhau ei cherddoriaeth yn ddwyieithog, fel ei sengl début 'Golden / Unlle'.
Gyda llais melys sy'n cyfareddu o'r nodyn cyntaf tan yr harmoni olaf un, mi fydd 2025 yn gyfle i weld Llinos yn datblygu a chyfoethogi ei phortffolio cerddorol.
5. TewTewTennau
Doedd 'na ddim llawer o fandiau'n fwy prysur na hogiau TewTewTennau y llynedd, ac o ganlyniad wedi sefydlu eu hunain fel enw i'w wylio'n eiddgar yn 2025.
Daeth y band o Lansannan i amlygrwydd am y tro cyntaf wrth gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau ym Moduan yn 2023, ac wedi atynnu nifer o wrandawyr brwd trwy gigio'n gyson byth ers hynny.
Rhyddhawyd senglau ac albwm cyntaf y band y llynedd, ac mae'n amlwg bod y pedwar wedi bod yn arbrofi gyda sŵn eclectig gan amrywio rhwng bangyrs indie fel 'Ras Y Llygod', a llafarganu hwyliog ar 'Y Don o Tan y Fron'. Gyda phrif-leisydd y band, Eban Elwy, hefyd yn prysur sefydlu ei hun fel artist unigol beiddgar, mae 2025 yn argoeli'n un prysur a ffurfiannol i TewTewTennau fel band wrth iddyn nhw arbrofi gyda'u hunaniaeth sonig.
Oedd, mi oedd 2024 yn flwyddyn gyffrous, ac yn teimlo fel sail gref ar gyfer blwyddyn arbennig eleni yn ogystal. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth sydd i ddod gan yr enwau uchod, gan gadw llygaid agos ar nifer o artistiaid cyffrous eraill fel Tokomololo, Adjua, keyala, Emyr Sion ac Ifan yn 2025 hefyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024