Wrecsam i ddechrau'r tymor newydd yn erbyn Southampton

Fe fydd Wrecsam yn wynebu Southampton yn eu gêm gyntaf yn ôl yn y Bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r pedwar clwb o Gymru ym mhrif gynghreiriau Lloegr wedi cael gwybod trefn eu gemau ar gyfer tymor 2024/25.
Cafodd y rhestrau llawn eu cyhoeddi gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr fore Mercher.
Yn y Bencampwriaeth, fe fydd Wrecsam yn dechrau'r tymor oddi cartref yn Southampton - oedd yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf - am 12:30 ar 9 Awst.
Am 15:00 yr un diwrnod bydd Abertawe yn teithio i Middlesbrough.
Ar ôl disgyn i'r drydedd haen y tymor diwethaf, fe fydd Caerdydd yn dechrau eu hymgyrch yn Adran Un wythnos ynghynt, gan groesawu Peterborough United am 12:30 ar 2 Awst.
Yn Adran Dau, fe fydd Casnewydd yn dechrau gyda gêm gartref yn erbyn Notts County ar yr un diwrnod.
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Mai
West Bromwich Albion fydd y clwb cyntaf i deithio i'r Cae Ras yn y Bencampwriaeth, a hynny ddydd Sadwrn, 16 Awst, ac ar yr un diwrnod y bydd gêm gartref gyntaf Abertawe, yn erbyn Sheffield United.
Fe fydd Wrecsam yn wynebu Abertawe yn Stadiwm Swansea.com ar 20 Rhagfyr, cyn i'r Elyrch deithio i'r Cae Ras ar 14 Mawrth.
Bydd tymor Wrecsam yn dod i ben ym Middlesbrough ar 2 Mai, tra bod Abertawe yn croesawu Charlton Athletic.
Fe fydd gêm gyntaf oddi cartref Caerdydd yn Port Vale ar 9 Awst, ac fe fydd eu tymor nhw yn dod i ben oddi cartref ym Mansfield.
Bydd trip oddi cartref cyntaf Casnewydd yn Crawley, gyda'u gêm gynghrair olaf yn Barrow ar 2 Mai.
Mae modd gweld trefn yr holl gemau yn eu cyfanrwydd ar wefan BBC Sport: