Pan oedd Cynan yn sensora dramâu Cymraeg

Cynan
  • Cyhoeddwyd

Rydyn ni'n cofio Albert Evans Jones, neu Cynan, fel bardd, gweinidog, academydd ac Archdderwydd – ond wyddoch chi ei fod hefyd yn sensor?

Am dros 200 mlynedd ym Mhrydain, roedd rhaid i bob drama fynd drwy broses sensora er mwyn cael ei thrwyddedu i gael ei pherfformio'n gyhoeddus. Ac yn yr 20fed ganrif, 'Jones the Censor' oedd wrthi yng Nghymru, a hynny am 36 o flynyddoedd.

Jones y Sensor

Roedd rhaid i bob drama gael ei gwirio'n ofalus, er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â'r safonau 'derbyniol' oedd wedi eu gosod gan yr Arglwydd Chamberlain, a hynny ers Deddf Trwyddedu Llwyfan 1737.

Cyn i Cynan gael y swydd, roedd rhaid i ddramodwyr neu gwmnïoedd drama a oedd am berfformio drama Gymraeg, anfon cyfieithiad Saesneg at Archwilwyr Drama yn Lloegr er mwyn cael trwydded.

Ond, fel yr eglurodd yr Athro Gerwyn Williams ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru, roedd y drefn yn un "anghyson ac anfoddhaol", ac fe newidiodd un ddrama bopeth ddechrau'r 1930au.

"Mi fuodd 'na berfformiad o ddrama o'r enw Y Grocbren gan Gwilym R Jones, Cwmni Drama Talysarn, tua 1931, ac mi ofynnwyd yn y perfformiad os oedd 'na drwydded, a doedd yna ddim trwydded, felly roedd 'na achos llys.

"Aeth yr achos llys yn erbyn Gwilym R Jones a'i gyd-actorion, ond roedd yn achos pwysig iawn. Mi ddywedodd cadeirydd y fainc y byddai hi'n fwy boddhaol bod rhywun sydd â gwybodaeth o'r Gymraeg i roi sensor arnynt.

"Mae'r Aelod Seneddol Goronwy Owen, AS Rhyddfrydol Arfon ar y pryd yn ymddiddori yn y mater ac mae o a'i gyd ASau Cymreig yn cynnig enw Cynan fel sensor Cymraeg."

"Dewis ysbrydoledig" yn ôl Gerwyn, awdur y cofiant Cynan: Drama Bywyd Albert Evans Jones (1895-1970).

Gan fod Cynan yn weinidog, doedd yna ddim amheuaeth am ei foesau, ac roedd yn annibynnol ei farn.

"Roedd Cynan yn ŵr eangfrydig a rhyddfrydig iawn. O'dd o'n fentrus ac yn radical ar y pryd - roedd fel chwa o awyr iach.

Yr Orsedd yn Arwisgo'r Tywysog Charles yn 1969Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cynan (chwith) yn gefnogol o benderfyniad yr Orsedd i fod yn rhan o Arwisgiad y Tywysog Charles yn 1969

"At hynny, roedd y swydd yn golygu ei fod yn was brenhinol; Yr Arglwydd Chamberlain, pennaeth y tŷ brenhinol oedd ei reolwr llinell o.

"Wrth gwrs, roedd gan Cynan feddwl y byd o'r frenhiniaeth. Roedd yn gyfle iddo fo hobnobio gyda'r pwysigion a'r brenin a'r frenhines."

Sensor llym ond teg

Roedd yna feini prawf llym roedd rhaid i ddramâu gadw atyn nhw, er mwyn cael ei barnu yn 'weddus' ar gyfer cynulleidfa.

Doedd dramâu ddim yn cael portreadu Crist a'r Duwdod, aelodau o'r teulu brenhinol neu bobl go iawn oedd yn llygad y cyhoedd. Roedd yn rhaid osgoi bod yn anweddus, tramgwyddo ar dir crefyddol, annog troseddu, amharu ar berthynas gyda gwladwriaeth dramor neu fod yn debyg o darfu ar yr heddwch.

Ac roedd Cynan yn cymryd y swydd yma o ddifri'.

Y ddrama gyntaf a achosodd iddo ddefnyddio ei bwerau sensora, oedd y ddrama Yr Arch Olaf roedd cwmni drama o Aberdâr am ei pherfformio, eglurai Gerwyn.

"Yn hwyr yn y dydd, chawson nhw wybod bod ganddyn nhw ddim yr hawl i'w pherfformio, gan fod yna gyfeiriad tramgwyddys at glwy gwenerol (venereal disease) – roedd hwnnw'n bwnc roedd swyddfa'r Lord Chamberlain wedi bod yn andros o nerfus amdani ers blynyddoedd wrth ei thrin.

"Roedd rhaid cydymffurfio a thynnu'r cyfeiriad o'r ddrama, neu chai hi mo'i pherfformio."

Cwmni drama Kitchener Davies
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Kitchener Davies (canol y rhes flaen) gwmni drama at ei gilydd er mwyn perfformio ei ddrama ddadleuol - Cwm Glo. Yn y cast hefyd oedd Kate Roberts (rhes flaen, dde). Er fod y ddrama yn trafod pynciau 'anweddus', roedd Cynan yn gweld pwysigrwydd cyhoeddus iddi

Ond roedd Cynan yn sensor teg a doedd ddim ofn dadlau ei farn pan oedd yn teimlo fod y ddrama o bwysigrwydd cyhoeddus:

"Erbyn 1934, mae 'na ddrama llawer mwy o ddifri sy'n cyffwrdd â phynciau fel puteindra yn dod i law, ac mae Cynan yn gweld pwysigrwydd hon yn syth bin – Cwm Glo gan Kitchener Davies.

"Roedd hon eisoes yn destun trafod cyhoeddus, achos yn Steddfod 1934 fe'i dyfarnwyd hi yn ddrama orau'r Steddfod, ond beth wnaeth y beirniaid oedd atal y wobr am eu bod nhw'n teimlo bod hi ddim yn deg i roi'r cyfrifoldeb ar y Steddfod i lwyfannu'r ddrama fuddugol.

"Mae 'na gwmnïau am lwyfannu'r ddrama ddadleuol hon, ac mae Cynan yn derbyn y sgript. Mae o'n ysgrifennu adroddiad pum ochr manwl o'r ddrama, ac yn y pen draw yn dod allan yn gwbl glir o blaid rhoi trwydded iddi.

"Mae'n dweud 'prostitution and villainy are attributed to economic causes, no less than to individual vice'."

'Cachwrs' a 'tin-boeth'

Ar y cyfan, roedd dramâu Cymraeg yn cydymffurfio â'r rheolau, er fod yna ambell i enghraifft wedi achosi i Cynan gynhyrfu.

Doedd ddim yn hapus o gwbl pan oedd hwyl wedi ei wneud am ben yr Orsedd – sefydliad agos at ei galon – yn y ddrama Deryn Diarth, na 'chwaith ymgais i berfformio sgets yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 1967, a oedd yn gwneud hwyl am ben yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Cledwyn Hughes.

Cynan yn ArchdderwyddFfynhonnell y llun, Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cynan ddau dymor fel Archdderwydd, ac roedd yn gyfrifol am ddiwygio a ffurfioli rhai o elfennau seremonïau'r Orsedd

Roedd yn ymddwyn fel "dehonglydd moesol y genedl", meddai Gerwyn.

"O'dd 'na bethau oedd yn tramgwyddo ar dir crefyddol; roedd Cynan yn weinidog yr efengyl, felly pan roedd o'n gweld cyfeiriad at rywbeth fel Ann Griffiths yn 'din-boeth', wel no wê fyddai sensor yn caniatáu hynny! 'The remark would both shock and disgust a Welsh audience' meddai.

"A'r hogiau drwg, mae'n siŵr, oedd Wil Sam a Gwenlyn Parry; efo'r rhain ga'th Cynan y mwya o drafferth ar y pryd.

"Dywedodd Cynan y byddai'n rhaid tynnu dau gyfeiriad tramgwyddus o Y Dyn Swllt gan Wil Sam os oedd hi am gael ei pherfformio'n gyhoeddus; 'cachwrs' a 'mi gicia i dy din di o fan hyn i Buenos Aires!'."

Daeth yr arfer o drwyddedu dramâu drwy'r broses yma i ben gyda Deddf Theatrau 1968. Cynan oedd un o'r Archwilwyr Drama oedd wedi bod yn y swydd hiraf ers i'r rôl gael ei chreu gyntaf.

"Sensor rhyddfrydig, call oedd o," yn ôl Gerwyn Williams. "Mae'n werth cofio geiriau Wil Sam – 'dyn yn gneud ei waith' oedd o – roedd rhaid i rywun neud y job.

"Diolch byth mai Cynan oedd o, achos roedd o'n ddyn cytbwys, roedd ganddo fo gydymdeimlad â'r artist, felly pan oedd o'n gweld drama bwysig, o'dd o mor awyddus â phosib i weld honno'n cael ei thrwyddedu."

Pynciau cysylltiedig