Y Seintiau allan o Gyngres UEFA ar ôl colli yn Slofenia

Daniel DaviesFfynhonnell y llun, Sam Eaden/CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Davies, sgoriwr gôl gyntaf y Seintiau nos Iau, yn cymeradwyo cefnogwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd allan o Gyngres UEFA ar ôl cael eu trechu o dair gôl i ddau gan bencampwyr Slofenia, Celje.

Aeth tîm Craig Harrison ar y blaen ddwywaith yn ystod yr hanner cyntaf, dim ond i ildio gôl ben arall y cau bron yn syth wedi iddyn nhw orffen dathlu.

Ac er ymdrechion da yn yr ail hanner, Celje wnaeth sgorio trydydd gôl allweddol i selio'r fuddugoliaeth a sicrhau lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Un cysur i'r tîm o Gymru yw na fydden nhw wedi darfod yn y 24 safle uchaf i barhau yn y gystadleuaeth beth bynnag, hyd yn oed pe tasen nhw wedi ennill nos Iau yn Stadiwm Z'dezele gan fod canlyniadau eraill y noson heb fynd o'u plaid.

Ryan Brobbel wnaeth greu'r ddau gyfle i'r Seintiau Newydd, arweiniodd at beniad Daniel Davies i'r rhwyd (19) ac ergydiad Rory Holden (42).

Yr ymosodwr o Frasil, Edmilson, a fanteisiodd ar gamgymeriadau'r amddiffyn i sgorio'r goliau a ddaeth â'r tîm cartref yn gyfartal wedi 20 a 43 o funudau.

Roedd popeth yn dal yn y fantol i'r ddau dîm felly ar ddechrau'r ail hanner.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Craig Harrison yn gwybod bod angen i'w dîm ennill yn Slofenia nos Iau os am gael unrhyw obaith o barhau yn y gystadleuaeth

Cafodd Adam Wilson gyfle da i sgorio eto ond fe aeth ei ymdrech ochor jest heibio'r postyn.

Roedd yna apêl aflwyddiannus am gic o'r smotyn gan Celje - eu hail o'r noson - gafodd ei wrthod wedi golwg ar y VAR.

Yna, wedi 70 o funudau, fe sgoriodd Celje gan fynd ar y blaen am y tro cyntaf - fe darodd David Zec y bêl i waelod cornel chwith y rhwyd, ac fe gadarnhaodd VAR bod y gôl yn sefyll er amheuaeth o gamsefyll.

Roedd angen arbediad rhagorol gan Connor Roberts i atal Aljosa Matko rhag estyn y bwlch gydag ergydiad o agos.

Bu ond y dim i'r eilydd Sion Bradley a Josh Pask sgorio wrth i'r Seintiau wneud popeth posib i ddod yn gyfartal.

Llwyddodd Celje i wrthymosod gan anelu at gôl wag gan fod pob aelod o'r tîm o Gymru allan o'u hanner eu hunain, ond fe wnaethon nhw wastraffu'r cyfle er mawr ryddhad i gefnogwyr y Seintiau.

Ond roedd gôl Zec yn ddigon i ennill y gêm ac i symud i gam nesa'r gystadleuaeth gyda saith o bwyntiau yn y 21ain safle.

Roedd y Seintiau wedi ennill un a cholli pedair yng Nghyngres UEFA cyn y gêm olaf yn erbyn Celje.

Fe gafon nhw eu trechu gan Fiorentina o'r Eidal, Shamrock Rovers o Werinieth Iwerddon, Djurgårdens o Sweden a Panathinaikos o wlad Groeg.

Ond fe sicrhaon nhw fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Astana o Kazakhstan.

Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Pynciau cysylltiedig