Y Seintiau'n colli yn erbyn Djurgårdens yng Nghyngres UEFA

Tobias Gulliksen a chefnogwyr DjurgårdensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tobias Gulliksen a chefnogwyr Djurgårdens yn dathlu unig gôl y gêm

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Y Seintiau Newydd eu trechu 0-1 mewn gêm agos yn erbyn Djurgårdens o Sweden yng Nghyngres UEFA yn Amwythig nos Iau.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn haeddiannol ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda gôl gan Tobias Gulliksen.

Roedd yr ail hanner yn fwy cyfartal, ond roedd cyfleoedd da yn brin, ac ni llwyddodd yr un o'r ddau dîm i ychwanegu at yr un gôl or hanner cyntaf.

Mae Djurgårdens yn un o'r timau mwyaf llwyddiannus yn hanes cynghreiriau Sweden, ac fe ddaethon nhw yn bedwerydd y tymor hwn - tymor a ddaeth i ben ddechrau Tachwedd.

Roedd y Seintiau wedi ennill un a cholli dwy yng Nghyngres UEFA cyn y gêm yn Amwythig - ble mae'r Seintiau yn chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth - nos Iau.

Fe gafon nhw eu trechu gan Fiorentina o'r Eidal a Shamrock Rovers o Werinieth Iwerddon, ond sicrhaon nhw fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Astana o Kazakhstan.

Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Mae gan bencampwyr Cymru ddwy gêm yn weddill yn y rownd yma - gartref yn erbyn Panathinaikos o wlad Groeg, ac oddi cartref yn erbyn Celje o Slofenia.

Pynciau cysylltiedig