Cyngres UEFA: Y Seintiau Newydd 0-2 Panathinaikos

Giorgos Vagiannidis a Ben ClarkFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Clark (dde) yn ceisio atal rhediad gan Giorgos Vagiannidis wrth i'r Seintiau Newydd wynebu Panathinaikos yn Yr Amwythig nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes Y Seintiau Newydd yn erbyn y cewri o Wlad Groeg, Panathinaikos, nos Iau ym mhumed rownd Cyngres UEFA, er perfformiad da.

Dwy gôl i ddim oedd y sgôr terfynol yn stadiwm The Croud Meadow, yn Yr Amwythig.

Daeth gôl gyntaf yr ymwelwyr wedi chwarter awr o chwarae, diolch i ergyd droed dde Filip Djuricic i waelod gornel dde'r rhwyd.

Gyda 60 munud ar y cloc fe droseddodd Harrison McGahey i ildio cic gosb ac fe sgoriodd Fotis Ioannidis o'r smotyn.

Roedd pencampwyr Cymru eisoes wedi cael eu trechu gan Fiorentina o'r Eidal, Shamrock Rovers o Werinieth Iwerddon a Djurgårdens o Sweden, ond fe gawnson nhw fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Astana o Kazakhstan.

Fe fydd eu gêm olaf yn rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - oddi cartref yn erbyn Celje yn Slofenia nos Iau nesaf.

Pe tasai'r Seintiau'n ennill y gêm yna, mae yna dal posibilrwydd o sicrhau lle yn y gemau ail gyfle trwy orffen yn 24 uchaf y tabl.

Fel y mae pethau'n sefyll mae'r Seintiau yn safle 32 gyda thri phwynt a Celje yn safle 24 gyda phedwar o bwyntiau.

Pynciau cysylltiedig