Mali Harries: Llai o waith fel dynes 'sydd yn llwyd a 49'

Mali Harries
Disgrifiad o’r llun,

Mali Harries, fu'n chwarae rhan Mared Rhys yng nghyfres Y Gwyll

  • Cyhoeddwyd

Dywed yr actores Mali Harries ei bod yn cael llawer llai o waith actio ers iddi gyrraedd canol oed.

Ychwanegodd bod gwahaniaeth mawr rhwng sefyllfa merched o'i gymharu â dynion ac nad yw hynny wedi effeithio ar ei gŵr, yr actor Matthew Gravelle, er eu bod nhw'r un oed.

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru dywedodd yr actores, sydd wedi ennill Bafta Cymru am ei rôl yn Y Gwyll/Hinterland ac sy'n chwarae rhan Natasha yn The Archers ar BBC Radio 4, nad ydi hi mewn sefyllfa i fedru "pigo a dewis gwaith".

"Dim o gwbl - dwi bron yn 49 ac i fod yn fenyw sydd yn llwyd ac yn 49 mae gwaith yn lleihau, mae hwnna'n anodd i'w dderbyn," meddai.

"Mae Math fy ngŵr yr un oedran - wyth wythnos yn hŷn na fi - ac mae o'n gweithio fel y boi o hyd, so mae discrepancies fi'n credu.

"Os wyt ti dal yn actor fel menyw a ti yn dy 60au ti byddai'r hen fenyw mewn stwff ond fi'n gallu gweld gap mawr yn dechre agor lan.

"Pan ti yn dy 20au, 30au, 40au - grand, ti'n gweithio, gweithio, gweithio a ti'n bwrw 50 a ma'r galwadau yn mynd yn llai."

Disgrifiad o’r llun,

Matthew Gravelle (chwith) fel Rob a Gareth Jewell fel Owen yn Baker Boys

Ychwanegodd bod y sefyllfa yn waeth ar hyn o bryd gan fod y diwydiant mor fregus yn gyffredinol gyda llawer llai o waith ar gael.

Mae hi wedi dechrau gwneud swyddi heblaw actio ac erbyn hyn yn cyfarwyddo ac yn dysgu actorion ifanc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Dywedodd ei bod hi'n onest gyda'r myfyrwyr am realiti gyrfa yn y diwydiant - bod actio yn 'ffantastig' ond bod nifer yn cael cyfnodau hir yn ddi-waith.

Gormod o actorion 'ysgol fonedd'

Yn sgil cymaint o gostau ynghlwm ag addysg bellach dywed ei bod hi'n poeni nad oes digon o amrywiaeth o actorion i'w gweld ar y sgrin.

Meddai: "Mae lot ohonyn nhw'n dod o ysgolion fonedd - y Cumberbatches of the world - a ma' hynny'n ddiflas i fi.

"Fi moyn gweld pobl sydd wedi bod trwy fywyd a bod bywyd yn anodd achos fi'n credu os ti'n cael bywyd sy'n eitha' hapus a bod dim byd gwael yn digwydd, ma'r wells ti'n gallu cael gafael arnyn nhw fel actor ma' nhw'n eitha' shallow.

"Os ti 'di cael profiadau bywyd a ti wedi profi colled a ti 'di profi pethau, wel ma' hynny'n neud chdi'n actor gwell fi'n credu."

Arian gan Anthony Hopkins

Dywedodd nad oedd hi'n gallu fforddio mynd i goleg pan oedd hi'n iau ac felly fe aeth drwy lyfr Who's Who i wneud rhestr o bobl oedd hi'n eu hedmygu.

Ysgrifennodd at nifer o'r unigolion a mudiadau yn gofyn a fydden nhw'n gallu ei helpu yn ariannol i fynd i goleg drama.

"Felly ges i arian gan Anthony Hopkins, Peter's Pies a Julie Walters a'r British Medical Benevolent Fund a lot o bobl so roedd digon o arian 'da fi i neud y flwyddyn gynta' a dyna fe," meddai.

"Nawr, fel pob person sy'n mynd i'r brifysgol, ti sy'n cymryd y baich ariannol lan."

Mae cyfweliad Mali Harries i'w glywed yn rhifyn yr wythnos hon o Bore Sul ac yna ar BBC Sounds

Pynciau cysylltiedig