Cymru i gyhoeddi carfan Euro 2025 ar gopa'r Wyddfa

Carfan CymruFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y garfan yn cael ei chyhoeddi fis nesaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd carfan Cymru ar gyfer pencampwriaeth Euro 2025 yn cael ei chyhoeddi ar gopa'r Wyddfa.

Fe fydd y prif hyfforddwr, Rhian Wilkinson ar gopa mynydd uchaf Cymru ar ddydd Iau, 19 Mehefin er mwyn cyhoeddi'r rhestr o chwaraewyr.

Yn dilyn y cyhoeddiad, bydd cyfres o weithgareddau'n cael eu cynnal yn ardal Gwynedd - gan gynnwys gŵyl bêl-droed ar gae newydd yn Nhalysarn, a noson holi ac ateb gyda cherddoriaeth fyw.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru gymryd rhan yn rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau, a'r mae'r cyhoeddiad fis nesaf yn cyd-fynd â slogan UEFA ar gyfer y bencampwriaeth yn y Swistir, 'the summit of emotions'.

Rhian WilkinsonFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhian Wilkinson yn cyhoeddi ei charfan ar 19 Mehefin

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Rhian Wilkinson: "Bydd cyhoeddi ein carfan ar gopa Cymru yn achlysur gwirioneddol arbennig.

"Mae'r ardal yn agos iawn at fy nghalon ar ôl ymweld â hi'n rheolaidd gyda fy nheulu pan o'n i'n tyfu fyny yng Nghymru, ac mae hefyd yn le arbennig iawn i sawl un o'n chwaraewyr.

"Rydym yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad ar y copa'n arddangos harddwch naturiol ein gwlad ac yn helpu i roi Cymru ar lwyfan fyd-eang yn ystod yr Euros dros yr haf."