Cynghrair y Cenhedloedd: Sweden 1-1 Cymru

Cymru'n dathlu ar ôl gôl Hannah Cain
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal oedd hi i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth, yn erbyn Sweden yn stadiwm Gamla Ullevi yn Gothenburg.
1-1 oedd y sgôr, yn dilyn goliau gan Magdalena Eriksson i Sweden a Hannah Cain i Gymru yn yr ail hanner.
Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yng ngrŵp 4, gyda'r Eidal, Denmarc a Sweden.
Fe fydd gêm nesaf Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd oddi cartref yn erbyn Denmarc ar 30 Mai, cyn croesawu'r Eidal i Gaerdydd ar 3 Mehefin.

Fe wnaeth Cymru golli eu gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal ac yn erbyn Denmarc nos Wener, ond mae dau pwynt gyda nhw wedi'r canlyniadau yn erbyn Sweden.
Tîm Sweden oedd gryfaf am fwyafrif yr hanner cyntaf, yn rhoi Cymru dan bwysau yn y munudau olaf yn enwedig.
Ond fe wnaeth tîm Rhian Wilkinson amddiffyn yn dda, gan roi ambell i wrthymosodiad at ei gilydd hefyd, i sicrhau fod y sgôr yn gyfartal ar yr hanner.
Sweden wnaeth sgorio gyntaf, yn yr ail hanner, gyda Magdalena Eriksson yn sgorio â'i phen o gic cornel.
Ond o fewn 10 munud, fe wnaeth Hannah Cain - a oedd newydd gamu ar y cae - fynd heibio'r golwr a gosod y bêl yn y gôl i wneud hi'n 1-1.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd4 Ebrill