Cyfraith iechyd meddwl newydd yn 'tanseilio' datganoli

adeilad y SeneddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Senedd yn colli cyfle i graffu ar newid i bolisïau iechyd meddwl, meddai pwyllgor trawsbleidiol

  • Cyhoeddwyd

Mae newidiadau mawr i'r gyfraith iechyd meddwl yn San Steffan yn "tanseilio datganoli", meddai grŵp o wleidyddion.

Maen nhw'n dweud bod Senedd Cymru wedi cael ei "diystyru" gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddibynnu ar Senedd y Deyrnas Unedig.

Bydd yr heddlu yn colli'r hawl i gadw pobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl mewn celloedd dan gynlluniau Llywodraeth Lafur Prydain.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cryfhau hawliau cleifion yng Nghymru a Lloegr.

Mae datganoli yn rhoi pwerau i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddeddfu ar gyfer rhai polisïau, gan gynnwys iechyd, ond fe all Llywodraeth Cymru hefyd ofyn i San Steffan ddeddfu ar eu rhan.

Pan fod hynny'n digwydd, mae'n rhaid i ASau bleidleisio er mwyn rhoi caniatâd i San Steffan ymyrryd ar faes sydd wedi ei ddatganoli.

'Eithrio'r Senedd fel deddfwrfa'

Mae pleidleisiau ar yr hyn a alwyd yn gydsyniad deddfwriaethol yn digwydd ar ôl dadl yn y siambr, ond mae'r broses yn llawer cyflymach na'r misoedd mae'n ei gymryd i basio biliau a wnaed yng Nghymru.

Mae'r pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad yn dweud bod gadael i San Steffan ddeddfu ar iechyd meddwl yn golygu bod Senedd Cymru "yn cael ei diystyru fel deddfwrfa".

Mae'n dweud hefyd bod aelodau yn cael eu hatal "rhag cael cyfle i graffu ar ddeddfwriaeth a cheisio gwneud newidiadau, yn aml ar sail materion a godwyd gan eu hetholwyr neu ar sail profiadau eu hetholwyr".

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylai biliau San Steffan newid polisïau iechyd cyhoeddus datganoledig, meddai'r pwyllgor mewn adroddiad.

"Rydym o'r farn bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio bil gan Lywodraeth y DU i ddeddfu i Gymru mewn perthynas ag iechyd meddwl, sy'n eithrio'r Senedd fel deddfwrfa ac yn ei hatal rhag ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru, yn tanseilio datganoli," meddai.

Sarah MurphyFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau yn rhoi mwy o ddewis, hawliau a chefnogaeth i gleifion, meddai Sarah Murphy

Dywedodd y gweinidog iechyd meddwl a llesiant, Sarah Murphy, fod y diwygiadau yn "moderneiddio deddfwriaeth iechyd meddwl" i roi mwy o ddewis, hawliau a chefnogaeth i gleifion.

"Ceir llawer iawn o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael ei ddarparu ar y ddwy ochr i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr," meddai.

"Byddai peidio â gwneud darpariaethau yn y Bil hwn yn creu risg o fwy o wahaniaethau rhwng y gwasanaethau sydd ar gael yn y ddwy wlad."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn yr adroddiad a'u bod yn "ystyried ei gynnwys cyn ymateb maes o law".

Mewn adroddiad ar wahân, mae pwyllgor iechyd y Senedd yn dweud bod cyfle ASau i graffu ar y Bil Iechyd Meddwl wedi ei gyfyngu, ond doedden nhw ddim yn gweld rheswm i bleidleisio yn erbyn.

Mae pleidleisiau ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn symbolaidd i raddau helaeth oherwydd nid ydynt yn clymu dwylo senedd San Steffan yn gyfreithiol.

Yn ôl confensiwn, ni fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn deddfu mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd y Senedd.

Ond mae'r pwyllgor deddfwriaeth trawsbleidiol wedi cwyno dro ar ôl tro am ddeddfwriaeth sy'n osgoi'r Senedd, gan ddweud bod dibynnu ar filiau'r DU yn creu "diffyg democrataidd".

Daeth cadarnhad ddydd Mercher y bydd y Senedd yn wynebu pleidlais ar fesur i gyfreithloni cymorth i farw.