Cymorth i farw: Aelodau Senedd Cymru i gael pleidlais

- Cyhoeddwyd
Bydd gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn cael pleidlais ynghylch a ddylai deddfwriaeth ddadleuol i gyfreithloni cymorth i farw fod yn gymwys yng Nghymru.
Fe fydd yn rhaid i aelodau o'r Senedd bleidleisio a ydyn nhw yn rhoi caniatád ai peidio i ddeddfwriaeth Kim Leadbeater fod yn berthnasol i Gymru.
Gallai gwelliannau a basiwyd ym mis Mawrth gan ASau yn San Steffan hefyd roi pleidlais i wleidyddion Senedd Cymru ynghylch pryd fyddai'r rhan fwyaf o'r gyfraith yn dod i rym.
Fis Hydref y llynedd pleidleisiodd aelodau o'r Senedd - gan gynnwys y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r gweinidog iechyd Jeremy Miles - yn erbyn yr egwyddor ehangach o gymorth i farw.
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
Byddai deddfwriaeth Ms Leadbeater yn ei gwneud yn gyfreithiol i bobl dros 18 oed sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod â'u bywyd i ben.
Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi aros yn niwtral.
Fe wnaeth ysgrifennydd iechyd Cymru, Jeremy Miles, a Ms Leadbeater gwrdd i drafod y mesur yn gynharach yr wythnos hon.
Ddydd Mercher fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfennaeth yn cadarnhau bod gweinidogion Llafur Cymru yn credu bod angen caniatâd Senedd Cymru ar gyfer y mesur.
Er ei bod yn diwygio'r gyfraith ynglŷn â hunanladdiad - rhywbeth y mae Senedd y DU yn gyfrifol amdano yng Nghymru - mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod rhannau o'r gyfraith yn ymwneud â materion y mae Senedd Cymru fel arfer yn gyfrifol amdanynt.
Mae'r prif swyddog meddygol wedi llunio canllawiau ar sut mae'r ddeddf yn gweithredu, ac am bwerau i weinidogion Cymru ddarparu gwasanaethau cymorth i farw.

Kim Leadbeater yw'r AS Llafur sy'n cynnig y mesur
Mae'n golygu bod angen i Senedd Cymru basio'r hyn a elwir yn gynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Pan gafodd y broses o gynnig cydsyniad deddfwriaetholeu ei ragweld gyntaf, nid oedd Senedd y DU fod i ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd Senedd Cymru drwy gyfrwng cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond nid yw'n rhwymo mewn cyfraith a gellir ei anwybyddu.
Mae pwyllgor o ASau yn San Steffan wedi bod yn diwygio'r mesur.
Ym mis Mawrth, fe gytunodd o drwch blewyn y dylai gweinidogion Cymru gael pwerau i gychwyn llawer o'r ddeddfwriaeth.
O dan y gwelliant, a gafodd ei gefnogi gan 12 pleidlais i 11, bydd yn rhaid i Senedd Cymru bleidleisio ar reoliadau i ddod â'r gyfraith i rym.
Cafodd ei wrthwynebu gan weinidogion Llafur y DU Stephen Kinnock a Sarah Sackman, yn ogystal â Ms Leadbeater ei hun.
Mae gan y mesur nifer o gamau i fynd yn Senedd y DU a gallai newid o hyd. Heb gefnogaeth y llywodraeth, nid yw ei daith trwy'r senedd yn sicr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn fater cymhleth gyda llawer o ystyriaethau moesol, gweithredol, cyfansoddiadol a chyfreithiol, ac fel Llywodraeth y DU rydym wedi mabwysiadu safbwynt niwtral."
'Pellgyrhaeddol'
Dywedodd yr Athro Emeritws o Brifysgol Aberystwyth Emyr Lewis, a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yn San Steffan, wrth BBC Cymru "os yw'r teimlad yng Nghymru yn parhau fel yr oedd pan bleidleisiwyd arno o'r blaen yna ni fydd y mesur moesol a chyfreithiol pellgyrhaeddol hwn yn dod i rym yng Nghymru os nad yw pobl Cymru ei eisiau."
"Fe allai gweinidogion Cymru ei rwystro ac felly hefyd y Senedd yng Nghymru."