Ffilm newydd Tom Hardy i ddenu mwy o gwmnïau cynhyrchu i Gymru?

Havoc yw'r ffilm nodwedd fwyaf erioed i gael ei ffilmio'n gyfan gwbl yng Nghymru, yn ôl Netflix a Cymru Greadigol
- Cyhoeddwyd
Mi fydd mwy o gwmnïau yn ystyried creu cynnwys yng Nghymru yn y dyfodol yn sgil rhyddhau 'Havoc', yn ôl un o gynhyrchwyr y ffilm newydd.
Er bod y ffilm - sydd â Tom Hardy a Forest Whittaker yn serennu - wedi ei gosod mewn dinas ffuglennol Americanaidd, cafodd pob golygfa ei ffilmio yn ne Cymru.
Dywedodd y cynhyrchydd Aram Tertzakian, y bydd y "diwydiant ffilmiau yn gweld Cymru fel opsiwn mwy credadwy ar ôl gwylio'r ffilm yma".
Yn ôl Netflix a Cymru Greadigol, Havoc yw'r ffilm nodwedd fwyaf erioed i gael ei ffilmio'n gyfan gwbl yng Nghymru.

Roedd sicrhau fod de Cymru yn teimlo fel dinas Americanaidd yn "heriol" meddai cyfarwyddwr y ffilm, y Cymro Gareth Evans
Mae Tom Hardy yn chwarae rhan ditectif yn y ffilm, ochr yn ochr â sêr byd-enwog eraill fel Forest Whitaker, Luis Guzmán, Jessica Mei Li a Timothy Olyphant.
Dechreuodd y prosiect diolch i weledigaeth y cyfarwyddwr o Gymru, Gareth Evans.
"Roedd gen i ryw un syniad, sef golygfa gyda phlismon llwgr ar safle ble mae ymgais i werthu cyffuriau wedi mynd o'i le, ac am ba bynnag reswm mae'r plismon yn gwthio cyffuriau i mewn i gwpan coffi," meddai Mr Evans.
"Fe ddatblygodd y syniad o'r pwynt hwnnw wedyn."

Mae Tom Hardy yn un o'r sêr byd enwog fydd yn ymddangos yn y ffilm
Dywedodd Evans, sy'n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo ffilm 'The Raid' a'r gyfres 'Gangs of London', fod cael Tom Hardy yn rhan o'r prosiect i chwarae'r brif ran, ac fel cynhyrchydd, yn "anhygoel".
"Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n hyderus yn gwneud ffilmiau cyffrous, ond mae Tom yn arbenigo mewn creu cymeriadau cymhleth - ac felly roedd modd i ni gyfuno dwy arddull gyda'i gilydd."
Mae Evans, a gafodd ei fagu yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, yn dal i fyw yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Evans fod ail-greu'r Unol Daleithiau yn ne Cymru wedi bod yn "heriol" ond ei fod yn benderfynol i ddod â gwaith i Gymru.
"Dechreuais i fynd o gwmpas ardaloedd fel Abertawe, Port Talbot, Caerdydd a Chasnewydd yn chwilio am unrhyw enghreifftiau o bensaernïaeth fyddai'n gallu edrych ychydig yn Americanaidd," meddai.
Mae Neuadd Brangwyn yn Abertawe yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf heddlu Americanaidd yn y ffilm, tra bod nifer o olygfeydd ar y stryd wedi cal eu ffilmio ar gampws Prifysgol Bae Abertawe.
Rhoi Cymru 'ar y map'
Fe gydweithiodd y cwmni cynhyrchu Americanaidd XYZ Films â chwmni o Gaerdydd, Severn Studios, i greu'r ffilm.
Dywedodd un o gynhyrchwyr XYZ Films, Aram Tertzakian: "Daeth Gareth i Gymru ar gyfer y prosiect hwn oherwydd ei fod yn wladgarwr ac eisiau darganfod sut mae gwneud ffilmiau yng Nghymru."
Ar ôl i bobl wylio Havoc, mae'n credu y bydd nifer o bobl o fewn y diwydiant yn "canolbwyntio llawer mwy ar y ffaith bod Cymru ar y map".
"Dwi'n meddwl bod Cymru bob amser wedi cael ei gweld fel opsiwn ond pan fydd pobl yn gwylio Havoc, a'r hyn lwyddon ni ei gyflawni, bydd pobl methu â chredu'r peth. Bydd Cymru yn opsiwn mwy realistig i lawer o bobl [yn y diwydiant]."
Aeth ymlaen i ddweud bod ei gwmni'n ffilmio ar draws y byd a'u bod wedi gweld "y da, y drwg a'r amhleserus" ond fod "Cymru'n un o'r rhai da".
"Mae gennych chi griwiau sy'n gweithio'n galed iawn, a llawer o ymroddiad a chariad tuag at y diwydiant yn hytrach na gweld e fel swydd yn unig."

Bydd Havoc ar gael i'w wylio ar wasanaeth ffrydio Netflix
Yn ôl Pennaeth Gweithgareddau cwmni Severn Screen, Mathew Talfan "doedd dim cwestiwn bo' ni am wneud y ffilm yma yng Nghymru".
"Mae'r ffaith bod gan Netflix y ffydd i gomisiynu prosiect mor enfawr a bo' ni'n gallu dod â thalent fel hyn i Gymru'n grêt" a "maen nhw wir wedi mwynhau'r profiad o fod yma," meddai.
Dywedodd fod y celfyddydau'n "rhan annatod o ddiwylliant ac economi Cymru" a bod buddsoddi mewn prosiectau fel hyn yn "hollbwysig".
Mae Netlflix wedi dweud bod eu cynyrchiadau yng Nghymru wedi cyfrannu mwy na £200 miliwn at economi'r Deyrnas Unedig ers 2020.
Mae Gweinidog Diwylliant Cymru, Jack Sargeant, wedi dweud bod prosiect fel Havoc yn cynnig "manteision sylweddol yn economaidd ac o ran enw da".
"Rydym yn falch iawn o'n diwydiannau creadigol yng Nghymru - sy'n cyflogi mwy na 35,000 o unigolion talentog - a'n seilwaith o'r radd flaenaf i gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2024