Gwinllannoedd Cymru'n ffynnu wrth i'r hinsawdd greu 'cyfle a risg'

Gwen Davies o flaen gwinwydd
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Gwen Davies dyfu grawnwin yn Nyffryn Clwyd ar gyfer cynhyrchu gwin yn 2018

  • Cyhoeddwyd

Efallai bod gogledd Cymru yn edrych fel lle annhebygol i gynhyrchu gwin, ond mae nifer y gwinllannoedd yn yr ardal, ac ar draws Cymru, wedi cynyddu'n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Fe blannodd Gwen Davies a'i gŵr Rhys eu gwinwydden gyntaf ger Llandyrnog, Sir Ddinbych yn 2018.

Ers hynny, "mae wedi bod yn antur" meddai Gwen.

"Ro'n i'n 40 y flwyddyn wnaethom ni blannu am y tro cyntaf - roedd o'n midlife crisis!"

Gyda'r ddau yn dod o gefndir ffermio, maent bellach wedi plannu 8,000 o winwydd a gafodd eu dewis am eu gallu i ddelio gyda hinsawdd Cymru.

Yn dilyn haf poeth a sych yn Nyffryn Clwyd, maent yn disgwyl "cnwd swmpus" eleni.

Grawnwin coch
Disgrifiad o’r llun,

Mae newid hinsawdd yn cyflwyno cyfleoedd a risg i cynhrychwyr gwin yn Nghymru, yn ôl un arbenigwr

Dywedodd Dr Kate Gannon, sydd wedi ymchwilio i effaith newid hinsawdd ar win Prydeinig, bod cynnydd mewn tymheredd yn golygu bod Cymru wedi dod yn le "mwy addas ar gyfer rhai mathau o rawnwin".

Ond mae'n rhybuddio y gallai olygu sialensiau yn y dyfodol hefyd.

Mae sector gwin Cymru yn fach i'w gymharu ag un Lloegr, ac yn gyfuniad o gynhyrchwyr-micro gwahanol.

Ond mae'r diwydiant yn tyfu, gydag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn dweud bod 59 o winllannoedd ar draws y wlad wedi cofrestru gyda nhw erbyn diwedd Gorffennaf.

Dywedodd Gwen: "Mae gwinllannoedd yn cael eu sefydlu mewn rhannau o Gymru ble mae'r hinsawdd-micro yma a 'da ni'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r sector a chodi diddordeb."

Robb a Nicola Merchant o flaen grawnwin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robb a Nicola Merchant wedi ennill sawl gwobr ryngwladol am eu gwin

Mae twristiaeth ac ymwelwyr yn rhan fawr o'r busnes i sawl cynhyrchydd gwin yng Nghrymu, gyda chynnal teithiau a digwyddiadau blasu yn arwain at ganran uchel o werthiant wrth "ddrws y seler".

Draw yn Y Fenni, fe wnaeth Robb a Nicola Merchant blannu 4,000 o winwydd yn 2009 pan oedd "ond chwe" gwinllan yn y wlad.

Bellach mae 13,500 o winwydd ganddynt, ac maen nhw wedi ennill sawl gwobr gwin rhyngwladol, ac yn cyflenwi saith bwyty seren Michelin ar draws Prydain.

Dywedodd Robb: "'Da ni methu cynhyrchu digon.

"Ond y peth mae gwinllannoedd Cymreig angen canolbwyntio arno yw ansawdd, a pheidio cael eu hamsugno i mewn i'r juggernaut Seisnig."

Er bod cynhyrchwyr gwin Cymru yn profi llwyddiant, mae newid hinsawdd hefyd yn cyflwyno sialensiau.

Roedd haf 2025 wedi bod un un gyfeillgar i gynhyrchwyr, ond dywedodd Robb fod 2024 wedi bod yn "flwyddyn drychinebus" oherwydd y glaw.

Roedd hi'n stori debyg i Gwen, a gafodd "bron dim byd" y flwyddyn honno.

Ychwanegodd bod y cyfnodau da a drwg yma'n rhan o'r diwydiant, a bod rhaid "adeiladu gwytnwch i mewn i'r busnes".

Mae Dr Gannon yn credu bod cynhyrchwyr gwin Cymreig yn "hynod o arloesol" yn sut maen nhw'n ymdopi â risg newid hinsawdd, drwy arbrofi gyda grawnwin gwahanol a dulliau cynhyrchu gwahanol.

Dywedodd bod ymchwil yn awgrymu y gall mannau o Brydain gweld amodau tebyg i'r blynyddoedd gorau o ardal Burgundy yn Ffrainc o fewn ychydig ddegawdau.

Mae hynny'n cyflwyno cyfleoedd newydd i win Cymreig, wrth i rai ardaloedd tyfu gwin o amgylch y byd "fynd yn rhy boeth".

Er yn ymwybodol o'r risg gan newid hinsawdd, mae cynhyrchwyr gwin Cymreig fel Gwen yn teimlo'n addawol.

"Efallai bydd y mathau o rawnwin sydd yn addas newid yn ystod y 30 mlynedd nesaf, ond yn y tymor byr, 'da ni wedi cyrraedd sweet spot."

Pynciau cysylltiedig