Llacio cyfyngiadau'r Tafod Glas i anifeiliaid sydd wedi'u brechu

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod llai na 1% o'r wyth miliwn o ddefaid yng Nghymru wedi derbyn pigiad rhag y Tafod Glas
- Cyhoeddwyd
Mae defaid a gwartheg o Gymru sydd wedi'u brechu yn erbyn clefyd y tafod glas yn mynd i allu mynychu marchnadoedd yn Lloegr o fewn 20 cilomedr o'r ffin.
Mae newidiadau i gyfyngiadau llym ar symud anifeiliaid fferm wedi'u cyhoeddi er mwyn galluogi arwerthiannau pwysig o stoc bridio yn yr Hydref.
Mae symud da byw o Loegr i Gymru yn dal wedi'i gyfyngu heb brawf negyddol ar hyn o bryd, gyda chludo anifeiliaid o Gymru sydd heb eu brechu dros y ffin wedi'i gyfyngu hefyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhaid taro cydbwysedd "rhwng y gallu i fasnachu a'r risg uwch o ledaenu'r clefyd".
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
Daw'r newidiadau i rym o ddydd Llun18 Awst.
Bydd da byw o Gymru sydd wedi'u brechu yn gallu mynychu marchnadoedd yn Lloegr o fewn 20 cilomedr i'r ffin, gan gynnwys Bishops Castle, Henffordd, Ceintun, Llwydlo, Market Drayton, Croesoswallt, Rhosan ar Wy ac Amwythig.
Bydd yn rhaid i'r marchnadoedd yma gynnal "gwerthiant pwrpasol o dda byw wedi eu brechu o Gymru", a chadw at amodau penodol, meddai'r llywodraeth.
Bydd rhaid i anifeiliaid sy'n dychwelyd i Gymru wedi'r arwerthiannau gwblhau'r symudiad ar yr un diwrnod, gan gadw at amodau trwydded gyffredinol.
Mae addasiadau ychwanegol wrthi'n cael eu hystyried hefyd, gan gynnwys caniatáu arwerthiannau stoc bridio mewn 'Marchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy' yng Nghymru ar gyfer da byw o Gymru a Lloegr sydd wedi'u brechu, ychwanegodd y llywodraeth.
Byddai'r marchnadoedd yma'n gallu gwneud cais i gael eu cymeradwyo o ganol fis Medi.

Roedd y Sioe Frenhinol wedi gwahardd defaid a gwartheg o Loegr a'r Alban eleni, fel rhan o'r ymdrech i geisio cadw'r feirws allan o Gymru
Wedi'i ledu gan wybed mân, dyw'r tafod glas ddim yn bygwth diogelwch bwyd na iechyd y cyhoedd, ond gall ladd da byw, gan gynnwys defaid a gwartheg.
Ers mis Gorffennaf, mae symud da byw i Gymru wedi'i gyfyngu mewn ymgais i gadw'r clefyd allan o'r wlad am mor hir â phosib, tra'n rhoi cyfle i ffermwyr frechu.
Mae ffigyrau sydd wedi'u rhannu'n ddiweddar gyda BBC Cymru yn awgrymu bod llai na 1% o'r wyth miliwn o ddefaid yng Nghymru wedi derbyn pigiad hyd yma, a rhwng 5-10% o wartheg.
Ond mae'r diwydiant amaeth wedi rhybuddio bod goblygiadau cyflwyno cyfyngiadau llym ar symud anifeiliaid yn "drychinebus" o bosib i fasnachu ar hyd y ffin.
'Cydbwysedd rhwng buddion a'r risg'
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: "Mae'r tafod glas yn glefyd a allai fod yn ddinistriol, fel y gwelwyd yn anffodus mewn gwledydd eraill.
"Fel rhan o gadw ein hymrwymiad i adolygu polisi'r Tafod Glas, rydym wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid yn rheolaidd.
"Yn sgil y trafodaethau hyn, cytunwyd ar ddull fesul cam i hwyluso gwerthiannau'r Hydref sy'n taro cydbwysedd rhwng buddion i'r diwydiant a'r risg o ledaenu'r clefyd.