Label newydd Fflach Cymunedol yn ceisio codi £50,000

ail symudiad mewn stiwdio recordioFfynhonnell y llun, Fflach Cymunedol
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau frawd, Wyn (ar y dde) a Richard Jones (canol), sefydlodd gwmni recordiau Fflach yn 1981

  • Cyhoeddwyd

Mae label recordiau Fflach Cymunedol, a gafodd ei sefydlu yn Aberteifi er mwyn parhau â gwaith y diweddar frodyr Richard a Wyn Jones, yn gwahodd pobl i brynu cyfranddaliadau yn y cwmni newydd.

Daeth y penderfyniad i sefydlu'r cwmni newydd yn dilyn marwolaethau'r ddau frawd yn 2021.

Mae Fflach Cymunedol bellach yn ceisio codi £50,000 er mwyn gallu "parhau ag ethos" Richard a Wyn, a sefydlu "cartref parhaol a stiwdio newydd" i'r cwmni.

Y gobaith yw symud y label a'r stiwdio o'r adeilad presennol i hen gapel Y Tabernacl yng nghanol tref Aberteifi.

Bu farw Wyn Jones o ganser ar ym Mehefin 2021, ac yna'i frawd, Richard, fis yn ddiweddarach yng Ngorffennaf.

Roedd y ddau frawd yn gerddorion ac yn gynhyrchwyr cerddoriaeth, wedi sefydlu'r grŵp Ail Symudiad yn 1978 - gyda Richard yn brif leisydd ac yn chwarae'r gitâr, a Wyn ar y gitâr fas a llais cefndir.

Fe wnaeth y brodyr hefyd sefydlu label recordiau annibynnol Fflach, a stiwdio recordio yn y dref.

Daeth nifer o wirfoddolwyr at ei gilydd ddechrau'r flwyddyn i drafod y syniad o drosglwyddo gwaddol cwmni Fflach i ofal cwmni cydweithredol a chymunedol newydd.

Ffynhonnell y llun, Fflach Cymunedol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gig yn Aberteifi ym mis Ionawr er mwyn codi arian ar gyfer yr ymgyrch

Mewn datganiad fore Llun, dywedodd Fflach Cymunedol mai nod y cwmni "yw i barhau ag ethos a gwaith Recordiau Fflach fel hwb Cymreig a chreadigol yn Aberteifi".

Ychwanegon nhw eu bod am roi cyfle i "gerddorion lleol o bob math allu parhau i recordio a rhyddhau cerddoriaeth".

"Bydd y cwmni newydd, Fflach Cymunedol yn torri tir newydd trwy radicaleiddio'r ffordd mae label a stiwdio yn gallu cael eu rhedeg, gyda'r gymuned yn ganolog, gan barhau ethos DIY Richard a Wyn Jones."

Ffynhonnell y llun, Fflach Cymunedol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fflach Cymunedol wedi derbyn nawdd gan Gronfa Her Fach ARFOR

Bwriad Fflach Cymunedol nawr yw ceisio codi £50,000 drwy werthu cyfranddaliadau er mwyn eu galluogi i fwrw 'mlaen â gwahanol gynlluniau.

Dros y tair blynedd nesaf maen nhw'n gobeithio symud y label a'r stiwdio o'r safle presennol i adeilad hen gapel Y Tabernacl yng nghanol Aberteifi.

Mae'r Tabernacl â chysylltiad agos â'r brodyr hefyd, gan mai yn festri'r capel hwnnw y gwnaethon nhw sefydlu label Fflach 40 mlynedd yn ôl.

Byddai symud y label i'r capel yn rhan o gynllun ehangach i ailddatblygu'r Tabernacl yn ganolfan ddiwylliannol a chelfyddydol newydd i'r dref, "gan gynnig cartref parhaol a stiwdio newydd o'r safon uchaf i Fflach Cymunedol".

'Gweithio ar ran y gymuned'

Dywedodd Ann Jones, gweddw Richard Jones: "Does dim gwell ffordd o gadw'r cwmni i fynd â pharhau ethos Richard a Wyn na thrio rhywbeth newydd fel hyn!

"Mae'n gyfle i holl ffrindiau Fflach, oedd mor agos at galonnau'r ddau, i fod yn rhan o'r stori.

"Mae'n ffurfioli beth oedd Fflach yn ei wneud mewn gwirionedd, sef gweithio ar ran y gymuned."

Dywedodd Nico Dafydd, un o swyddogion y cynllun: "Mae wedi bod yn bleser cyfarfod â chymaint o bobl sydd mor frwdfrydig...

"Mae'r gwaith o feithrin bandiau ifanc wedi dechrau'n barod, a chynlluniau i ryddhau senglau cyntaf Fflach Cymunedol yn y flwyddyn newydd."

Fe fydd y cyfranddaliadau ar werth o 16 Rhagfyr 2024 tan 17 Chwefror 2025.

Pynciau cysylltiedig