Cleifion 'ar eu colled' heb newid system ariannu meddygon teulu

Canolfan Iechyd Radyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae meddyg mewn canolfan iechyd yn Radur yn poeni am allu meddygfeydd Cymru i ddenu staff newydd yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd y bydd mwy o feddygfeydd yn cau ac y bydd cleifion yn colli allan os nad oes yna newid i'r ffordd mae meddygon teulu yn cael eu hariannu.

Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA, mae dros 100 o feddygfeydd wedi cau ers 2012 ac mae nifer yn ei chael hi'n anodd ymdopi heb fwy o arian i ddarparu gwasanaethau na chyflogi rhagor o feddygon.

Mae BBC Cymru wedi siarad gydag un feddygfa yng Nghaerdydd sy'n dweud nad yw'r arian maen nhw'n ei dderbyn i ofalu am gleifion yn ddigon i gadw'r lle ar agor.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am edrych ar sawl elfen o'r cytundeb meddygon teulu gan gynnwys y fformiwla ariannu.

Dr Huw Thomas, meddyg teulu yn Radyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Huw Thomas yn Feddyg Teulu yn Radur ar gyrion Caerdydd

Mewn meddygfa yn Radur ar gyrion Caerdydd maen nhw wedi gorfod addasu'r ffordd maen nhw'n gweithio er mwyn cadw eu pennau uwchben y dŵr.

"Ni'n neud lot o ddysgu myfyrwyr... oni bai bod ni'n neud hwnna mae'n deg i ddweud bydden ni ddim yn gallu cario 'mlaen i fynd," meddai Dr Huw Thomas, un o'r meddygon ar y safle.

"Dyw'r arian ni'n ei dderbyn yn Radur i edrych ar ôl ein cleifion ni ddim yn ddigon i gadw'r lle i fynd.

"Mae 'da ni nawr 11,000 o gleifion ond ni'n cael ein talu am tua 9,000 neu lai."

Mae nifer o feddygon teulu yn anfodlon gyda fformiwla ariannu Carr-Hill.

Fe gafodd hi ei chyflwyno yn 2004 gyda'r bwriad o ddosbarthu arian lle'r oedd y galw ond mae'r drefn wedi arwain at wahaniaeth mawr mewn cyflogau meddygon teulu mewn gwahanol ardaloedd sy'n gwneud recriwtio yn anodd.

"Yn hanesyddol mae Caerdydd wastad wedi bod yn le ble mae hi 'di bod yn eithaf rhwydd i gael doctoriaid i ddod i weithio ond ry'n ni 'di gweld yn ddiweddar bod y nifer o geisiadau ry'n ni'n eu cael am unrhyw swydd wedi dirywio," ychwanegodd Dr Thomas.

"Yn amlwg mae e'n broblem ac yn rhywbeth ni'n poeni amdano fe.

"Odyn ni'n mynd i allu denu'r bobl yna i weithio fan hyn os y'n nhw'n gallu ennill dwywaith gymaint o arian rhywle arall, hanner awr o Gaerdydd?"

Dr Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth meddygfa Dr Llinos Roberts gau dros flwyddyn yn ôl

Roedd Dr Llinos Roberts yn bartner ym meddygfa Tymbl a Cross Hands.

Bu'n rhaid iddyn nhw gau dros flwyddyn yn ôl yn sgil methu â denu doctoriaid newydd i weithio yno.

Dyw fformiwla Carr-Hill ddim yn ystyried anghenion ardaloedd tlawd, ac mae Dr Roberts yn dweud nad yw hi erioed wedi bod yn addas i Gymru.

"Mae angen fformiwla sy'n benodol ar gyfer Cymru, sy'n edrych ar y sefyllfa yng Nghymru a'r ffaith bod anghenion cleifion Cymru yn wahanol i rai Lloegr," meddai.

"Mae angen fformiwla arnom ni sydd yn ateb hynny fel bod yr arian yn cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd lle mae'r mwyaf o'i angen.

"Mae'n cael effaith ar recriwtio, mae'n cael effaith ar faint o adnoddau maen nhw'n gallu prynu gyda'r incwm maen nhw'n ei gael a hefyd yn cael effaith ar y gofal mae'r cleifion yn ei gael o fewn y cymunedau ac unwaith eto da'n ni'n gweld anghydraddoldeb enfawr am fod pobl sydd angen mwy o ofal meddygol yn cael llai ohono fo."

System fel deintyddion yn y dyfodol?

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA wedi rhybuddio ers tro nad yw meddygon teulu yn cael eu hariannu'n deg.

Yn ôl y gymdeithas, mae 90% o'r cyswllt rhwng cleifion a'r gwasanaeth iechyd yn digwydd yn y feddygfa leol ond dim ond 6% o gyllideb y gwasanaeth iechyd maen nhw'n ei dderbyn.

Roedd hynny cyn uched â 9% 20 mlynedd yn ôl.

Dr Huw Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dydi'r system ariannu "ddim yn deg" ar hyn o bryd, yn ôl Dr Huw Thomas

Yn y cyfamser, mae meddygon fel Huw Thomas yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys i atal gwasanaethau meddygon teulu rhag wynebu argyfwng fel gwasanaethau deintyddol.

"Fi wedi bod yn feddyg teulu ers 25 mlynedd, dwi wastad wedi bod yn optimistig am y gwasanaeth iechyd," meddai.

"Ar y foment os nad oes yna newid i'r ffordd ni'n cael ein talu dwi ddim yn hyderus am y dyfodol.

"Alla' i weld sefyllfa ble mae meddygon teulu yn teimlo bod rhaid iddyn nhw edrych ar ffyrdd eraill o godi arian, mae'n bosibl alle hynna fynd ffordd debyg i beth sydd wedi digwydd gyda deintyddion.

"Dyw e ddim yn deg i ni, felly mae'n bendant yn hen bryd i ni feddwl am ffordd arall o wneud pethe."

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n edrych ar sawl elfen o'r cytundeb meddygon teulu gan gynnwys y fformiwla ariannu wrth iddyn nhw drafod y cytundeb blynyddol rhwng y llywodraeth, y gwasanaeth iechyd a Phwyllgor y Meddygon Teulu.

Pynciau cysylltiedig