Targed rhaglen Taith sy'n 'newid bywydau' yn cael ei leihau 38%

Mae 9,838 o bobl wedi cymryd rhan yn rhaglen Taith
- Cyhoeddwyd
Mae'r targed ar gyfer rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu yn gostwng 38%.
Mae Taith, medd y llywodraeth, yn darparu profiadau sy'n "newid bywydau".
Costau teithio cynyddol yw un o'r rhesymau dros leihau'r targed o 25,000 o deithiau i 15,500 erbyn mis Medi 2027.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "Taith yn blaenoriaethu hyblygrwydd ac effaith dros nifer".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu'r gostyngiad hwn ond y byddent yn "mynd ymhellach ac yn dileu Taith yn gyfan gwbl ac yn canolbwyntio adnoddau ar godi'r safonau yn ein hysgolion."
Dywedodd Plaid Cymru "ar restrau aros, ar dlodi plant, a nawr ar raglen Taith, mae Llafur wedi cefnu ar ei thargedau yn gyson, a phobl Cymru sy'n talu'r pris".

Penderfynodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, ostwng y targed
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, wrth y Senedd ym mis Mehefin bod "straeon a phrofiadau gwirioneddol" pobl sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Taith yn "wirioneddol ysbrydoledig".
"Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed yn ddiweddar am brosiect sy'n dod â phobl ifanc a staff o Ysgol Greenhill [yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro] ynghyd â sefydliad hawliau plant, gwasanaeth ieuenctid lleol a phartner gwrth-drais ar lawr gwlad yn Seland Newydd," meddai.
"Roedd yn brosiect pwerus lle y gwnaeth cyfranogwyr archwilio ffyrdd o ymdrin â thrais ar sail rhywedd ac atgyfnerthu'r effaith y gall unigolion a sefydliadau ei chael wrth ymdrin ag ef.
"Gweithiodd myfyrwyr yn agos gyda'r gwasanaeth ieuenctid i ddatblygu pecyn cymorth digidol ar gyfer ymarferwyr, gan weithio gyda phobl ifanc ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb rhywedd."
Erbyn diwedd 2025, bydd bron i £30 miliwn o gyllid Taith wedi'i ddyfarnu ers ei lansio.
Brexit
Daeth cyfranogiad y DU yn rhaglen gyfnewid myfyrwyr Erasmus yr Undeb Ewropeaidd i ben ar ôl Brexit.
Lansiodd Llywodraeth Cymru Taith yn 2022, tra bod Llywodraeth y DU wedi creu cynllun Turing ar gyfer lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.
Roedd gwerthusiad o raglen Taith gan yr ymchwilwyr cymdeithasol ac economaidd Wavehill ym mis Mehefin 2025 yn ei raddio fel un sy'n cynnig gwerth da i ragorol am arian yn y rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad.
Creodd Wavehill fideo sy'n dangos barn rhai o'r bobl sydd wedi elwa o'r rhaglen, dolen allanol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Mae targed symudedd gwreiddiol Taith wedi'i ostwng oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys costau teithio cynyddol.
"Mae'r rhaglen hefyd yn parhau i gefnogi prosiectau cydweithredol, sydd â chost uwch fesul cyfranogwr ond sy'n darparu buddion ehangach, hirdymor.
"Mae Taith yn blaenoriaethu hyblygrwydd ac effaith dros nifer, gan sicrhau bod pob profiad symudedd a dysgu a ariennir yn ystyrlon ac wedi'i deilwra i anghenion cyfranogwyr."
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar AS, "gall teithio, astudio a gweithio dramor ddatgloi manteision a chyfleoedd mawr i unigolion, does dim gwadu hynny.
"Fodd bynnag, mae rhaglen gyfnewid myfyrwyr rhyngwladol eisoes ar waith gan Lywodraeth y DU.
"Felly mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r gostyngiad hwn, ond byddem yn mynd ymhellach ac yn cael gwared ar Taith yn gyfan gwbl ac yn canolbwyntio adnoddau ar godi'r safonau yn ein hysgolion."
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell AS, fod "symud y pyst gôl ar dargedau y maent ar fin eu methu wedi dod yn arfer annymunol gan Lafur yng Nghymru.
"Ar restrau aros, ar dlodi plant, a nawr ar raglen Taith, mae Llafur wedi cefnu ar ei thargedau yn gyson, a phobl Cymru sy'n talu'r pris."
Ychwanegodd bod angen gweld asesiad pellach o effaith y penderfyniad, "yn enwedig ar allu pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig i deithio am addysg yn Ewrop."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2024