Prifysgolion yn gofyn am ddim mwy o newidiadau polisi sydyn

- Cyhoeddwyd
Mae prifysgolion yng Nghymru wedi apelio am ddiwedd ar newidiadau sydyn ym mholisïau llywodraeth, sydd wedi torri eu hincwm a'i gwneud hi'n anodd iddyn nhw gynllunio.
Wrth ymddangos gerbron ASau yn San Steffan, dywedodd is-gangellorion fod sawl ffactor wedi cael effaith.
Dywedon nhw fod y rheiny'n cynnwys methiant, tan yn ddiweddar, i godi ffioedd myfyrwyr ers 2012, cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, a newidiadau i reolau fisa gan leihau nifer y myfyrwyr tramor.
Mae cynlluniau ailstrwythuro, gan gynnwys cynlluniau diswyddo gwirfoddol, wedi'u cyhoeddi gan brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Abertawe, a Phrifysgol De Cymru.
Mae cynlluniau mwy cyfyngedig hefyd wedi'u cyhoeddi gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae angen "tirlun polisi sefydlog" meddai is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis, wrth y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan fod angen "tirlun polisi sefydlog" nawr i'w gwneud hi'n haws cynllunio at y dyfodol.
Ychwanegodd fod angen "mecanwaith addas at y diben" i roi addysg uwch yn y DU ar sail gynaliadwy.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke nad oedd gan Brifysgol Bangor "unrhyw ddewis" ond gwneud arbedion i "sicrhau sefydlogrwydd ariannol y sefydliad".
Ychwanegodd y byddai'r tîm gweithredol yn gwneud popeth posibl i osgoi diswyddiadau gorfodol, ond nad oedd yn gallu eu diystyru.
Rhybuddiodd hefyd na allai prifysgolion "fynd degawd arall" heb i ffioedd myfyrwyr godi yn unol â chwyddiant, a dylai sefydliadau weithio gyda llywodraethau'r DU a Chymru i "benderfynu ar sail ariannol gynaliadwy".
Angen i'r sector 'ailddyfeisio ei hun'
Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, fod yn rhaid i'r sector addysg uwch "ailddyfeisio ei hun" a byddai'n rhaid iddo ddod o hyd i "ffrydiau refeniw newydd".
Ychwanegodd ei bod yn cydnabod bod "llywodraethau'n cael eu herio" yn ariannol ond ei bod yn optimistaidd ynghylch dyfodol y sector prifysgolion.
Rhybuddiodd pennaeth y corff sy'n ariannu ac yn rheoleiddio prifysgolion yng Nghymru fis diwethaf eu bod yn wynebu heriau ariannol "enfawr", ond dywedodd nad oedd yr un ohonynt mewn perygl o fynd i'r wal yn y flwyddyn nesaf.
Dywedodd prif weithredwr Medr, Simon Pirotte, fod yr wyth sefydliad wedi cyrraedd cyfanswm diffyg o £77m ar gyfer 2023-24, o'i gymharu â gwarged o £21m y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd yr Athro Edmund Burke nad oedd gan Brifysgol Bangor "unrhyw ddewis" ond gwneud arbedion
Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd undebau addysg uwch wrth aelodau pwyllgor addysg Senedd Cymru fod rhai prifysgolion wedi ymateb i'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector yn well nag eraill.
Dywedodd Gareth Lloyd o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau: "Dydw i ddim yn derbyn bod [Prifysgol] Caerdydd wedi gwneud y peth iawn.
"Y perygl yw, os nad ydyn ni'n ofalus, y gallai hyn gael effaith andwyol iawn ar fyfyrwyr nad ydyn nhw [bellach] eisiau mynd yno, ac mae hynny'n fy mhoeni'n fawr iawn."
Honnodd swyddog Unsain, Dan Beard, fod uwch arweinwyr mewn prifysgolion eraill wedi "syfrdanu" at y ffordd yr oedd Caerdydd wedi ymdrin â'u cynigion i dorri swyddi a chyrsiau.
Fodd bynnag, dywedodd Jamie Insole o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau fod Prifysgol Wrecsam "mewn sefyllfa gadarn" a bod Prifysgol Aberystwyth wedi dangos "sut y gall prifysgol wrthsefyll storm ariannol" drwy weithio'n agos gyda staff.
Yn ddiweddarach, dywedodd Deio Owen, Llywydd NUS Cymru, wrth y pwyllgor: "Mae effaith wedi bod ar lesiant meddwl myfyrwyr a dysgwyr oherwydd y toriad arfaethedig a'r toriadau wedi'u cadarnhau yr ydym wedi'u clywed yn ystod y misoedd diwethaf.
"Mae gan yr ansicrwydd hwnnw effaith ddilynol.
"Rydych chi'n talu am wasanaeth nad ydych chi'n siŵr y byddwch chi'n ei gael."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
Mewn papur ar gyfer y pwyllgor addysg, rhybuddiodd Unsain y byddai cannoedd o golledion swyddi disgwyliedig mewn prifysgolion ledled Cymru yn cael "effaith drychinebus ar staff, sefydliadau, myfyrwyr, cymunedau ac economi Cymru".
Yn y ddogfen, anogodd yr undeb Lywodraeth Cymru i benderfynu beth yr oedd ei eisiau o addysg uwch, ac ariannu'r sector yn "briodol" i gyflawni'r gofynion hynny.
Rhaid i weinidogion Cymru "gynhyrchu strategaeth ddiwydiannol fanwl sy'n amlinellu'r sgiliau a nifer y graddedigion y mae eu hangen ar Gymru ar gyfer y dyfodol ar draws ystod o swyddi a sicrhau bod gan brifysgolion y gallu i hyfforddi'r bobl ifanc hyn", meddai Unsain.