Carcharu dyn am achosi marwolaeth mam a merch o Gaerffili

Firas ZeineddineFfynhonnell y llun, Heddlu Wiltshire
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffordd yr oedd Firas Zeineddine yn gyrru yn "gwbl anystyriol", meddai'r heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wnaeth gyfaddef lladd mam a merch mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yn 2023 wedi cael ei garcharu am flwyddyn.

Bu farw Cheryl Woods, 61, a'i merch Sarha Smith, 40, o Gaerffili, mewn gwrthdrawiad pum cerbyd yn Sir Wiltshire yn ne-orllewin Lloegr ar 20 Hydref 2023.

Roedd Firas Zeineddine, sy'n 46 oed ac o Keynsham ger Bryste, wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.

Mewn teyrnged wedi'r digwyddiad, dywedodd y teulu fod Cheryl Woods yn "fam ac yn fam-gu gariadus" ac yn "chwaer a ffrind annwyl".

Ychwanegon nhw fod marwolaeth Sarha Smith yn gadael "gwagle" ond y byddai ei chwe merch yn "cofio amdani am byth".

Pynciau cysylltiedig