Ai gwastraff metal yw'r ateb i achub ein planhigion mwyaf prin?

Fe allai tomenni slag "newid y gêm" o ran diogelu planhigion prin, medd ecolegydd
- Cyhoeddwyd
Gellid defnyddio gwastraff metalaidd o'r diwydiant dur i achub rhai o blanhigion mwyaf prin Cymru, yn ôl ecolegydd.
Mae slag, sydd hefyd yn cael ei alw'n sorod, yn cael ei ystyried fel gwastraff, ond mae rhai yn dweud y gallai fod o fudd enfawr o ran hybu bioamrywiaeth.
Mae Barry Stewart, ecolegydd o Abertawe, wedi bod yn dyst i domenni slag sydd wedi hunan-hadu gyda phlanhigion sydd mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru.
Mae nawr yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin er mwyn creu gwely prawf, ble mae'n gobeithio tyfu planhigion fel llaethwyg (liquorice gwyllt) - planhigyn sydd mor brin, gellir ei ganfod mewn dau fan yn unig ledled Cymru.

Gobaith Barry Stewart ydy profi y gall tir slag fod yn gynefin i blanhigion prin
Mae tomen slag yn fryn neu'n ardal ar gyfer gwastraff o gloddfeydd neu safle ddiwydiannol arall.
Mae Mr Stewart wedi bod yn cofnodi planhigion ers 30 mlynedd, a dros amser mae wedi sylweddoli bod blodau gwyllt yn ffynnu pan fo slag ar y safle.
Safle yn ardal Baglan yng Nghastell-nedd Port Talbot wnaeth iddo sylweddoli gwerth slag.
Ar rhai adegau o'r flwyddyn mae caeau slag yno'n fôr o liw, meddai, gyda phlanhigion sydd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr yng Nghymru.

Mae llaethwyg (liquorice gwyllt) yn un o'r planhigion prin sy'n tyfu ar dir slag
"Mae fy narlithydd prifysgol a minnau wedi treulio nifer o oriau yn cofnodi planhigion ac yn dweud 'mae'r safle yma'n anhygoel', ond heb feddwl rhyw lawer am beth oedd o dan y planhigion," meddai.
"Ond y mwyaf y buon ni'n astudio'r peth, fe wnaethon ni sylweddoli ei fod yn ddeunydd anhygoel sy'n cefnogi'r casgliad gwych yma o blanhigion."
Dywedodd Mr Stewart eu bod wedi cofnodi mwy na 470 o rywogaethau ar y safle, gan gynnwys llaethwyg, gludlys gogwyddol (Nottingham catchfly) a sawl math o degeirianau (orchids).
"Mae'r rhestr yn tyfu o hyd," meddai.
'Gwell na chynefinoedd naturiol'
Dyw slag ddim yn ddeunydd naturiol, ond yn hytrach mae'n cael ei ffurfio fel rhan o'r broses o wneud dur, ac weithiau mae'n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu.
"Yn gemegol mae'n debyg i galchfaen," meddai Mr Stewart.
"Pan 'dych chi'n ychwanegu tywod ato, mae'n darparu ar gyfer planhigion y byddech chi fel arfer yn gweld ar dwyni tywod neu dir glaswellt calchaidd.
"Digwydd bod, dyma'r ddau gynefin mwyaf cyfoethog yn y Deyrnas Unedig o ran rhywogaethau.
"Felly mae'n gyfuniad hyfryd, sy'n golygu bod slag yn well o ran bioamrywiaeth na chynefinoedd naturiol."

Bydd y cynllun peilot yn digwydd ar safle oedd yn arfer bod yn rhan o waith dur yn Llanelli
Mae tomenni slag yn edrych fel lympiau o gerrig meddal, yn llawn tyllau bach.
Er nad yw'n ddeunydd naturiol, dywedodd Mr Stewart nad oes perygl o ran llygredd.
"Dyw e ddim yn toxic mewn unrhyw ffordd," meddai.
"Mae yn newid y pridd yn gemegol, a dyma pam bod ffermydd yn ei ddefnyddio i wella cyflwr eu caeau.
"Maen nhw'n torri'r slag i lawr i bowdwr, ac yn ei roi e ar y caeau i gynyddu faint o gnwd maen nhw'n ei gael o'u tir.
Dywedodd Mr Stewart mai'r unig le y byddai'n cynghori yn erbyn ei ddefnyddio fyddai "tir glaswellt asidig ble mae tipyn o rywogaethau", am ei fod yn cynyddu pH y tir.
'Newid y gêm'
Mae cynllun peilot Mr Stewart gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn digwydd ar safle oedd yn arfer bod yn rhan o waith dur Duport yn Llanelli.
Mae'n gobeithio profi bod gwasgaru slag a thywod yn annog blodau gwyllt yn ôl i ardal sydd ar hyn o bryd yn dir glaswellt.
A dyw prinder deunydd yn bendant ddim yn broblem, gydag amcangyfrif bod tua 500 miliwn tunnell o slag o amgylch safleoedd gwaith dur Cymru.
Gobaith Mr Stewart yw y bydd y gwaith yn "newid y gêm" pan ddaw at achub planhigion prin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024