Pobl Llwynhendy yn teimlo'n 'anniogel heb wasanaethau iechyd digonol'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Llwynhendy yn Sir Gaerfyrddin yn teimlo eu bod “wedi cael eu hanghofio” o ran gwasanaethau iechyd yn yr ardal.
Daw eu sylwadau wrth i’r feddygfa leol ofyn i'w cleifion ysgrifennu at eu Haelod yn y Senedd i apelio am fwy o arian - fel rhan o ymgyrch ehangach gan Gymdeithas Feddygol Prydain.
Maen nhw’n dweud bod yr arian maen nhw’n ei dderbyn am bob claf yn ddyddiol yn “costio llai nag afal” sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu darparu rhai gwasanaethau.
Dywed Llywodraeth Cymru bod trafodaethau ar gyfer ariannu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn y flwyddyn ariannol nesaf yn parhau.
Dywed Yvonne Hogan, 76 ei bod yn teimlo'n "anniogel" yn byw yn Llwynhendy gan ei fod yn anodd gweld meddyg.
“Does neb yn gallu gweld doctor. Gallech chi ffonio ond chi ar y ffôn am dair neu bedair awr.”
Mae pobl leol yn pryderu y bydd datblygiad tai newydd o dros 200 o gartrefi a chartref gofal 84 gwely ar gyfer yr ardal yn golygu cynnydd yn nifer y cleifion.
Mae Faye Hayward yn 62 oed ac yn byw yn Nafen.
“Mae gennym ni dai yn cael eu hadeiladu o amgylch yr ardal. Does gennym ni ddim lle iddyn nhw. Does dim lle yn y feddygfa.”
Ychwanegodd: “Chi'n ffonio am 08:30 yn y bore ac rydych chi mewn ciw o 60 o bobl. Chi'n methu cael apwyntiad. Ond eto maen nhw'n mynd i adeiladu tai a dod â mwy o bobl i fewn.”
Ym mis Tachwedd eleni daeth yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip yn wasanaeth yn ystod y dydd yn unig am chwe mis, cynllun sy'n pryderu nifer.
Dywed Faye Hayward fod diffyg gwasanaethau yn yr ardal yn “ofnadwy”.
“Mae pobl wedi anghofio am Lanelli - does dim cefnogaeth o gwbl. Mae pawb yn grac.”
Dywed rheolwr practis Canolfan Iechyd Llwynhendy, Phillip Harrison, fod nifer cleifion y feddygfa wedi cynyddu o 8,000 i 11,500 yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Ychwanegodd fod datblygiadau newydd yn yr ardal yn "bryder" a bod y practis yn gweithio gyda'r cartref gofal i sicrhau na fyddant yn effeithio ar gleifion presennol.
'Llai na chost afal'
Fel rhan o ymgyrch gan Gymdeithas Feddygol Prydain, mae Canolfan Iechyd Llwynhendy yn gofyn i'w cleifion i ysgrifennu at eu haelod yn y Senedd i apelio am fuddsoddiad pellach.
Ar eu gwefan maen nhw’n dweud bod meddygon teulu ar draws Cymru yn wynebu “argyfwng” a “llwyth gwaith anghynaladwy".
Yn ôl y feddygfa maent yn derbyn £117.48 y flwyddyn am bob claf, sy’n cyfateb i 32c y dydd am bob claf sydd wedi’u cofrestru.
“Mae hyn yn llai na chost afal. Dyna pam mae cleifion yn cael trafferth gweld meddyg teulu,” medd llefarydd.
'Angen moderneiddio gwasanaethau'
Yn ôl Lee Waters, Aelod Llanelli yn y Senedd, er y “pwysau ofnadwy ar bob rhan o’r gwasanaeth iechyd”, dylai Canolfan Iechyd Llwynhendy edrych ar “foderneiddio” eu gwasanaethau.
“Does ganddyn nhw ddim ystod eang o broffesiynau er enghraifft. Rwy’n meddwl bod sgwrs i’w chael gyda’r bwrdd iechyd i weld sut y gellir eu cefnogi i gael mwy o amrywiaeth a chefnogaeth gyda’r adeilad.
“Mae rhaid i’r gwasanaeth iechyd, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru barhau i roi cefnogaeth iddyn nhw i roi’r gwasanaeth i’r bobl leol.”
'Trafodaethau yn parhau'
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain fod practisau cyffredinol yng Nghymru "mewn argyfwng o ganlyniad uniongyrchol i danfuddsoddi hirdymor, gyda'r gwasanaeth bellach yn derbyn dim ond 6.1% o gyllideb gyfan GIG Cymru".
Ychwanegon nhw er gwaethaf ymgyrch am becyn cymorth gan Lywodraeth Cymru eu bod "unwaith eto wedi dewis diystyru pryderon difrifol a chyfraniad gwerthfawr practis cyffredinol trwy gyflwyno cynnig annerbyniol arall fis diwethaf".
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae trafodaethau ar gyfer 2024-25 yn parhau. Darparwyd £650m o gyllid ar gyfer GMC [Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol] yn 2023/24.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd23 Hydref