Galw am adnoddau i fynd i'r afael â throseddu cefn gwlad 'bygythiol'

Beic cwad
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffermwyr yn poeni bod gangiau yn targedu ardaloedd gan ddwyn nifer o feiciau cwad o fewn cyfnod byr

  • Cyhoeddwyd

Mewn cyfarfod ar faes y Sioe Frenhinol mae ffermwyr wedi disgrifio pa mor anniogel mae llawer yn teimlo ar eu heiddo eu hunain oherwydd y cynnydd mewn troseddau cefn gwlad.

Mae yna alw am fwy o flaenoriaeth ac adnoddau ar gyfer plismona troseddau fel dwyn peiriannau, beiciau cwad ac anifeiliaid, ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, a gweithgareddau gwrthgymdeithasol fel hela sgwarnogod.

Fe amlygodd adroddiad diweddar gan undeb NFU Cymru fod cost troseddu gwledig wedi cynyddu 18% yng Nghymru yn 2024, o £2.4m i £2.8m, tra bod gostyngiad o 16% yng ngwledydd eraill y DU.

Dywedodd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor, fod troseddau cefn gwlad "yn gallu bod yn fygythiol iawn" i ffermwyr a theuluoedd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell.

Un sy'n cyfri'r gost wedi lladradau yw llefarydd yr NFU ar droseddau cefn gwlad, Garry Williams, sy'n pori defaid mynydd yn ardal y Mynydd Du ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin.

"O'n ni'n casglu defaid at amser cneifio... o'n i 80 yn brin," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

"So chi jyst yn mynd mas a phrynu defaid yn eu lle nhw - ma' colled i bawb.

"Mae un o ffrindie gore fi wedi colli 120 o ddefaid dros y blynyddoedd diwethaf," ychwanegodd, gan egluro y byddai hynny'n golled ariannol o £24,000.

"Mae'n mynd yn waeth ac yn waeth."

Garry Williams o flaen adeilad ar ei fferm yn Llangadog mewn crys coch
Disgrifiad o’r llun,

Mae offer a giatiau hefyd wedi cael eu dwyn o fferm Garry Williams

"Chi'n siarad am droseddau cyfundrefnol. Ma'r gangs hyn yn symud mewn i'r ardal - falle bydd yn dawel am chwech, naw mis ond wedyn maen nhw'n dwyn.

"Quad bikes fel arfer ond chi'n siarad am am y 4x4s hefyd, so maen nhw'n symud trwyddo'r ardal a falle fydd 10, 12 o quad bikes yn gallu mynd yn eitha' cyflym gyda'i gilydd."

Mae'r sefyllfa, meddai, wedi codi "ofn" mewn ardaloedd cefn gwlad: "So ni mo'yn pobl yn dod ar y fferm yn y nos a falle bydd rhyw fath o anaf neu ymosod."

Mae Mr Williams newydd uwchraddio system CCTV ei fferm ei hun, ac mae'r undeb yn annog ffermwyr i osod teclynnau ar gerbydau er mwyn cadarnhau lle maen nhw.

Pwrpas cyfarfod ddydd Mawrth gyda chynrychiolwyr heddlu, meddai, oedd apelio am roi "mwy o flaenoriaeth" i droseddau cefn gwlad "a rhoi'r resources i mewn iddo sydd ishe".

"Ni mo'yn dal y bobl hyn sy'n 'neud y troseddau hyn. Ni wedi cael digon o' fe."

Llŷr Jones yn gwenu i'r camera o fewn stondin brysur NFU Cymru ar faes y Sioe Frenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ci defaid ei ddwyn o fferm Llŷr Jones ym mis Mehefin

Fe gafodd ci defaid ei ddwyn o glôs fferm Llŷr Jones yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Conwy fis diwethaf, ac er iddo lwyddo i'w gael yn ôl, roedd y profiad yn annifyr.

"Mae'n dipyn o hunllef bod rhywun yn dwyn ci fel 'na," meddai, "mae'n rhan o'n teulu, mae o'n gweithio efo ni bob dydd."

"'Dach chi'n ffonio'r heddlu a'r cwbl maen nhw'n rhoi i chi ydy'r crime referenece number er mwyn i chi fynd at y cwmni yswiriant... technoleg sy'n mynd i helpu ni allan, wrth roi CCTV a trackers ar y motorbeics a tractors a phethau fel yna."

John Griffiths yn edrych tua'r camera o fewn sied wartheg ar faes y Sioe FrenhinolFfynhonnell y llun, John Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Griffiths eisiau gweld mwy o fynd i'r afael â dwyn o ffermydd

Un arall sy'n teimlo'n anghysurus yw John Griffiths, yn dilyn sawl trosedd ar ei fferm yn Sir Fôn.

"Dw'i 'di cael tipyn o helbul yn y past efo pobl yn dwyn defaid a gwartheg a diesel a tŵls 'fyd," dywedodd.

"Mae 'na lawer i beth wedi mynd o'r ffarm dros y blynyddoedd. I ddweud y gwir, roedd o'n amser poenus iawn - yn enwedig os oes defaid a gwartheg yn mynd o'ch caeau chi, 'dach chi'n wyndro lle maen nhw'n mynd a phwy sy'n dwyn nhw."

"Dwi'n gweld ychydig iawn yn cael ei wneud amdano fo."

Elan Mair yn eistedd o flaen da byw mewn sied wartheg yn y Sioe Frenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy o flaenoriaeth i leihau troseddau cefn gwlad, medd Elan Mair

Galw am fwy o weithredu gan yr heddlu mae Elan Mair, sy'n ffermio yn Chwilog ger Pwllheli.

"Dwi'm yn meddwl bod o'n flaenoriaeth gyda nhw. Yn anffodus, ddylia fo fod yn cael blaenoriaeth er mwyn trio taclo a lleihau'r broblem. Mae'n bechod na fysa 'na fwy yn cael ei wneud yng nghefn gwlad."

Dywedodd Mathew Jones, sy'n cadw gwartheg gwynion Prydeinig yn Llanpumsaint, Sir Gâr:

"Mwy o gosb sydd eisiau. Os bydden nhw'n dala'r bobl a rhoi fwy o gosb, bydde fe'n stopo'r job."

Disgrifiad,

'Mae'n deimlad cas' - disgrifiad Mark Davies y llynedd wedi i ddau berson ddwyn beic cwad o'i fferm yng ngogledd Sir Benfro

Dywed Tom Rees sy'n ffermio ger Caerdydd bod sawl achos wedi codi yn lleol o hela sgwarnogod, gyda throseddwyr yn "chwalu giatiau ac yn styrbio'r da byw".

"Nid dal y sgwarnogod maen nhw, ond eu defnyddio i ymarfer y cŵn a thynnu fideos ohonyn nhw gan fwriadu gwerthu'r cŵn.

"Roedd cymydog yn y pick-up yn tecstio cymdogion eraill i ddweud bod y bobl hyn ar y fferm.

"Heb yn wybod iddo, daethon nhw tu ôl iddo a chwalu ffenestri'r pick-up. Mae'n frawychus, ac yn warthus, wir, nad ydyn nhw'n teimlo'n saff yn ein heiddo ein hunan."

Mae rhai ffermwyr "wedi eu brawychu", meddai Gail Jenkins o NFU Cymru yn Sir Gâr a Bro Morgannwg.

"Rhaid i holl heddluoedd Cymru weithio gyda'i gilydd, ond mae angen tîm troseddau gwledig yn ne Cymru i daclo hyn. Dyma'r unig lu yng Nghymru heb dîm troseddau gwledig."

Mae Heddlu De Cymru wedi cael cais am ymateb.

Ci tebyg i filgi'n cwrso sgwarnog lliw brown sy'n rhedeg tua'r camera ar gaeFfynhonnell y llun, Getty Images/MikeLane45
Disgrifiad o’r llun,

Mae hela sgwarnogod ar gynnydd yn ne Cymru - yn aml mae betio ynghlwm â'r gweithgaredd ac mae tresmasu'n gallu achosi niwed i dir ac eiddo

'Swyddogion cywir yn y lle cywir'

Yn dilyn cyfarfod gyda ffermwyr a chynrychiolwyr undeb ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth, dywedodd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor fod y sefyllfa'n destun pryder cynyddol.

"Gallai eich fferm fod cryn filltiroedd i ffwrdd o ymateb gan yr heddlu, a phe bai rhywun yn dod i'ch fferm, gall fod yn fygythiol iawn, iawn," dywedodd.

"Dyna pam mae mor bwysig i gael y swyddogion heddlu cywir yn y lle cywir i ymateb."

Rob Taylor mewn crys pinc ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd
Disgrifiad o’r llun,

Rob Taylor yw Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru

Mae'r cynnydd yn nhroseddau gwledig yn ne Cymru, meddai, yn ganlyniad ymgyrch Operation Galileo yr heddlu yn Lloegr i leihau hela sgwarnogod a photsio, ond mae ymgyrch debyg newydd ddechrau yn y de hefyd.

Cyfeiriodd at achosion o helwyr anghyfreithlon yn bygwth ffermwyr sy'n eu herio ac yn dychwelyd i'w tir gyda'r nos i achosi difrod.

"Mae'n drosedd fygythiol iawn... mae angen i bobl roi gwybod ar bob un achlysur, fel ein bod yn gwybod ble mae'n digwydd ac yn gallu ymateb iddyn nhw."

Dywedodd Heddlu De Cymru fod ganddynt swyddogion sy'n arbenigo mewn troseddau cefn gwlad ym mhob ardal ar draws y de a'u bod yn ymateb yn rhagweithiol wrth geisio mynd i'r afael â'r mater.