Cost troseddau gwledig ar gynnydd yng Nghymru

Cafodd offer a giatiau eu dwyn o fferm Garry Williams
- Cyhoeddwyd
Mae cost troseddau gwledig wedi cynyddu yng Nghymru yn ôl adroddiad gan NFU Mutual.
Er i wledydd eraill y Deyrnas Unedig weld gostyngiad, fe gododd y gost 18% i £2.8m yng Nghymru yn 2024.
Mae undeb NFU Cymru yn galw ar Heddlu Dyfed Powys i greu rôl Arolygydd Troseddau Gwledig i fynd i'r afael â'r broblem yn yr ardal.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu wedi dweud y byddai'n annog y prif gwnstabl i greu'r rôl newydd.
'Gall rhywun gael dolur'
Mae Garry Williams, 55, yn ffermio yn Llangadog ac yn aelod o gyngor NFU Cymru.
"Ni wedi cael ambell i chainsaw wedi dwyn a phethe fel 'na.
"Ni wedi rhoi security camera mewn nawr a ni yn trial gwella o'r ochr security.
"Cafodd 4x4 ei ddwyn tua milltir lan yr hewl bythdi chwech wythnos yn ôl, oedd tua chwech o ddynion ar y clos ganol y nos.
"Mae'r bechgyn gyda fi yn 21 a 15, os bydden nhw'n dod mas yn y nos, ambell un mas yn checio defaid yn y nos. Beth sy'n digwydd os maen nhw ar y clos?"

Mae beiciau cwad yn un o'r prif dargedau i ladron yn ôl adroddiad NFU Mutual
Yn ôl adroddiad gan NFU Mutual fe wnaeth troseddau gwledig gostio tua £44.1 miliwn i'r DU yn 2024 - roedd y swm yn £52.8 miliwn yn 2023.
Cymru oedd yr unig wlad i weld cynnydd yn y gost o droseddau gwledig.
Dangosa'r adroddiad mai beiciau cwad a cherbydau pob tir (ATVs) oedd y targedau mwyaf poblogaidd i ladron, er gwaethaf gostyngiad mewn cost o 16% i oddeutu £2.7m ar draws y DU.
Parhaodd lladrad da byw yn uchel yn 2024 ar gost o tua £3.4m ledled y DU. Yn ôl NFU Mutual mae hyn wedi dilyn y duedd o ddwyn niferoedd uchel o dda byw mewn un tro.
Ychwanegodd bod lladradau fferm yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl amaethwyr.
Dywedodd 96% o ffermwyr a gafodd eu holi gan NFU Mutual ar draws y DU fod troseddau gwledig wedi cael effaith negyddol ar eu lles meddyliol.

Mae Aaron Jones wedi colli stoc oherwydd ymosodiadau gan gŵn
Mae Aaron Jones, 27 wedi gweld sawl ymosodiad gan gi ar ei ddefaid yn ardal Llangadog, Sir Gâr.
"Ni 'di gweld weithiau mae'r anifail yn stresso gymaint mae'r anifail yn marw.
"Yn amlwg mae'n mynd i effeithio arno chi'n feddyliol achos mae'n rhoi stress ar eich anifeiliaid chi a'ch hunan.
"Smo ni moyn gorfod delio â hyn, mae e fel colli'ch pet chi, yn amlwg mae'n mynd i effeithio chi'n feddyliol."
'Smo ni'n credu bod ni'n gofyn gormod'
Mae undeb NFU Cymru yn galw am gael Arolygydd Troseddau Gwledig yn ardal Dyfed Powys i fynd i'r afael â'r broblem.
Ar hyn o bryd mae swyddogion troseddau gwledig ar gael yn y llu ond yn ôl Garry Williams o NFU Cymru mae angen cydlynu'r ymateb i droseddau o'r fath yn fwy effeithlon.
"Smo ni'n credu bod ni'n gofyn gormod.
"Mae 32 o arolygwyr yn Dyfed Powys - un o'r regions fwyaf gwledig yng Nghymru a Lloegr.
"Ni'n gofyn am un arolygydd i ofalu ar ôl troseddau gwledig a chael swyddogion neu inspector sydd gyda phrofiad mewn amaeth."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu, Dafydd Llewelyn ei fod yn "gefnogol" i gael arolygydd troseddau gwledig.
"Wrth gwrs penderfyniad y prif gwnstabl fydd hynny.
"Mi fyddai'n gweithio gyda'r undebau amaethyddol a'r prif gwnstabl i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi i faes pwysig iawn mewn ardal wledig tebyg i Dyfed Powys."
Mewn ymateb fe ddywedodd y Prif Uwch-arolygydd Clark Jones-John ei fod yn "sylweddoli'r effaith sylweddol y mae troseddau gwledig yn ei gael ar y cyhoedd ac o fewn y cymunedau ffermio".
Ychwanegodd: "Rydym yn edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella ein gwasanaethau, rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach ag NFU Cymru ac asiantaethau eraill fel y gallwn gydweithio i amddiffyn y cyhoedd a busnesau yn effeithiol yn ardaloedd gwledig Dyfed a Phowys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023