Pan gollodd Cymru i Leyton Orient
- Cyhoeddwyd
Ar 26 Mai 1996, fe chwaraeodd tîm cenedlaethol Cymru yn erbyn Leyton Orient ar gae Brisbane Road. Yn rhyfeddol fe gollodd Cymru 2-1.
“Bydden i 'di licio bod yna,” meddai’r digrifwr Elis James wrth drafod un o’r dyddiau tywyllaf yn hanes pêl-droed Cymru.
“Fi’n rili difaru bo fi heb mynd nôl yn 1996 – rwy’n genfigennus o rheiny oedd ‘na.”
Mae yna agwedd arteithiol, o hunan-boen, i fod yn gefnogwr pêl-droed. Ac yn aml mae’r cefnogwr mwya’ selog yn rhamantu am y dyddiau duon, neu yng nghyd-destun y cyfnod yma, y dyddiau gwallgof.
Cyfnod hesb Gould
I ddeall yr anesboniadwy yn aml mae’n haws edrych ar y cyd-destun. Ac o astudio cyfnod y rheolwr Bobby Gould 'da’r tîm cenedlaethol mae’n deg dweud nad yw’n syndod i Gymru chwarae a cholli i un o dimau gwaethaf adran isaf cynghreiriau Lloegr.
Daeth Bobby Gould i’r llyw yn dilyn methiant Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 1994. Yn gyn-reolwr ar 'Crazy Gang' Wimbledon, roedd ei gymeriad a’i weithredoedd yn anghonfensiynol i ddweud y lleiaf.
Chwaraeodd y tîm gêm gyfeillgar yn erbyn Cwmbrân gyda Gould, a oedd yn Sais hanner cant oed, yn dewis ei hun ac yn sgorio.
“Oedd lot o’r pethau od ‘ma yn digwydd yng nghyfnod Gould,” meddai James. “Ymarfer mewn carchar, newid y tîm i wynebu’r Almaen oherwydd y ffordd natho nhw chwarae yn erbyn y wasg.”
Ffeit gyda Hartson
O bosib mae’r stori mwya’ bizarre o gyfnod Gould yn ymwneud â’r ymosodwr John Hartson.
Eglurodd Elis James: “Roedd Hartson yn grac gan bod e ddim yn y tîm a Bobby Gould yn dweud wrtho ‘pam na gewn ni ffeit de, dyna sut ma sortio pethau mas’. Felly yn sydyn reit mae’r rheolwr a un o’i chwaraewyr gorau yn ffeitio gyda'r chwaraewyr yn gwneud cylch o’u hamgylch.”
Y gêm fawr
Trefnwyd y gêm yn erbyn Leyton Orient yn bennaf er mwyn paratoi ar gyfer gêm rhagbrofol yn erbyn San Marino. Mae gemau paratoadol i’w gweld hyd heddiw, ond fel arfer maent yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeëdig. Cafodd hon ei chwarae ar brynhawn ddydd Sul o flaen 5,000 o gefnogwyr.
Roedd tîm Cymru yn cynnwys sêr megis Neville Southall, Gary Speed a Ryan Giggs.
“Y peth yw, oedd enw ‘da Ryan Giggs fel rhywun oedd ddim yn chwarae gemau cyfeillgar,” meddai James. “Fe oedd un o’r chwaraewyr gorau ym Mhrydain ar y pryd, bownd o fod odd e’n meddwl ‘beth yw’r pwynt, os ni'n colli i Leyton Orient ar brynhawn dydd Sul!’”
Seren y gêm
Roedd Orient newydd orffen pedwar safle o waelod y bedwaredd adran ac yn cynnwys nifer o chwaraewyr ar brawf. Cafodd y gôl fuddugol ei sgorio gan Peter Garland, ymosodwr a aeth ymlaen i chwarae dros glybiau megis Dulwich Hamlet a Greenwich Borough.
“Fi’n cofio darllen am y canlyniad yn y Western Mail a meddwl bod misprint wedi bod,” meddai James. “Dyw e ddim fel rygbi ble mae yna ddiwylliant o glybiau yn chwarae timoedd rhyngwladol.”
Nadir y gêm yng Nghymru
Mae modd dadlau mai colli i Leyton Orient oedd canlyniad gwaethaf erioed i'r tîm cenedlaethol. Ond mae Elis James yn dadlau bod yna ganlyniadau wnaeth friwio yn ddyfnach.
“Fi’n credu mae’r nadir oedd colli 7-1 yn erbyn yr Iseldiroedd yn Eindhoven, a Neville Southall oedd seren y gêm. Gôl geidwad yn cael seren y gêm mewn gêm ni’n colli 7-1!”
Angof yw’r prynhawn hwnnw yn Brisbane Road i’r mwyafrif o gefnogwyr pêl-droed Cymru, ond y tro nesaf mae’r tîm cenedlaethol yn baglu, cofiwch allai pethau fod lawer gwaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Chwefror