Croesawu cytundeb Scunthorpe ond pam ddim yr un telerau i Bort Talbot?

- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am eu safonau dwbl.
Yn ystod dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Sadwrn fe nododd Ms Saville Roberts nad oedd Llafur am weithredu i ddiogelu swyddi Port Talbot ond bod eu hagwedd at waith dur Scunthorpe yn hollol wahanol.
Ym mis Medi 2024, caeodd TATA Steel y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, gan gael gwared â 2,800 o swyddi.
Yn ôl un o weinidogion Llywodraeth y DU, dyw achos y ddau waith dur ddim yr un fath.
Dywedodd y Gweinidog Diwydiant, Sarah Jones, bod cwmni preifat yn barod i fuddsoddi ym Mhort Talbot ond nad oedd hynny yn wir yn achos gwaith dur British Steel yn Scunthorpe.
Wedi'r drafodaeth, fe wnaeth ASau bleidleisio i achub y safle yn Scunthorpe.
Dyma'r tro cyntaf ers 1982 i ASau gael eu galw nôl ar ddydd Sadwrn.
Bydd y ddeddf yn caniatáu i'r llywodraeth "gymryd rheolaeth" o'r safle yn Sir Lincoln ac atal y perchennog Tsieineaidd rhag cau y ffwrneisi chwyth.
Roedd Jingye, y perchennog, yn bwriadu cau'r ffwrneisi chwyth a newid i ffurf wyrddach o gynhyrchu dur.

Mae rhai ASau yn credu y dylai Port Talbot fod wedi derbyn yr un driniaeth â Scunthorpe
"Mae deddfwriaeth heddiw i'w chefnogi wrth gwrs," meddai Liz Saville Roberts.
"Ond yr hyn na all fy mhlaid ei gefnogi yw agwedd y llywodraeth hon at ddur yn y DU - agwedd sy'n ystyried bod gwaith dur yn Scunthorpe yn werth ei arbed, ond nid gwaith dur yng Nghymru.
"Mae heddiw yn ddiwrnod chwerw i bobl Port Talbot, lle mae'r ffwrneisi chwyth wedi'u diffodd.
"Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson am wladoli, ond gwrthododd prif weinidog Llafur Cymru ein galwadau ni.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth hon felly nodi faint o'r gronfa ddur o £2.5 biliwn fydd yn cael ei ddyrannu tuag at sicrhau Scunthorpe, a sut mae hyn yn cymharu â'r swm a roddir i gefnogi gweithwyr sydd wedi'u diswyddo yng Nghymru?
"Mae Plaid Cymru yn credu y dylai Port Talbot fod wedi derbyn yr un driniaeth.
"Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno gwelliant i gynnwys Cymru o dan delerau'r Bil hwn - sy'n amlygu y byddai'r mesurau yr ydym yn eu dadlau heddiw wedi gallu cael eu defnyddio i achub y ffwrneisi chwyth yn Tata Steel yng Nghymru."
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y DU am beidio ag ymyrryd i amddiffyn gwaith dur Port Talbot.
Dywedodd David Chadwick, llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan: "Ble'r oedd y raddfa hon o weithredu pan gyhoeddwyd bod miloedd o swyddi'n cael eu colli ym Mhort Talbot ychydig fisoedd yn ôl?
"Er bod camau i achub swyddi yn Scunthorpe i'w croesawu, pam bod y Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu ymladd dros gymunedau yn Lloegr a ddim dros gymunedau yng Nghymru?"
Ar ran y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi dywedodd yr Arglwydd Davies o Gŵyr "petai'r llywodraeth wedi gweithredu ynghynt, yna gellid fod wedi osgoi y methiant hwn yn llwyr".
Fe wnaeth hefyd amddiffyn arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi honiadau ei bod wedi methu negydu cytundeb i foderneiddio cynhyrchu dur.
Dywedodd fod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer ffwrnais drydan yng ngwaith Scunthorpe ac yn Teesside fis Ebrill y llynedd a bod hynny yn "£1.25bn o fuddsoddiad ar gyfer moderneiddio cynhyrchu dur".
'Y sefyllfa'n wahanol'
Dywedodd y Gweinidog Diwydiant, Sarah Jones, bod sefyllfa Port Talbot a Scunthorpe yn wahanol.
"Pan ddaethon i mewn i rym roedd eisoes bargen gyda Tata Steel ym Mhort Talbot," meddai.
"Fe wnaethon ni gytuno i fargen lawer gwell mewn 10 wythnos, ond roedd yna gwmni preifat a oedd yn fodlon buddsoddi.
"Rydym wedi cynnal 5,000 o swyddi ar y safle ac mae dyfodol i'r safle hwnnw gyda ffwrnais drydan.
"Does dim cytundeb o'r fath ar hyn o bryd yn Scunthorpe a dyna beth sy'n wahanol," ychwanegodd.