Dur: 'Trin Cymru yn wahanol yn ddim llai na brad'

Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd 2,800 o bobl eu swyddi ar ôl i ffwrneisi chwyth Tata Steel gau ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o beidio ymladd yn gyfartal dros gymunedau Cymru ar ôl iddi ddod i'r amlwg eu bod yn ystyried gwladoli cwmni Dur Prydain.

Mae'r llywodraeth yn ystyried gwladoli'r cwmni wrth i ofnau gynyddu mai dim ond dyddiau sydd ar ôl i sicrhau deunyddiau crai ar gyfer ffwrneisi chwyth y cwmni yn Scunthorpe.

Cafodd ffwrneisi chwyth Tata Steel ym Mhort Talbot eu cau chwe mis yn ôl, gyda 2,800 o swyddi'n cael eu colli.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar fusnes a masnach, Llinos Medi AS: "[M]ae'r ffaith fod Llafur wedi derbyn yn dawel y cynllun Torïaidd a gostiodd 2,500 o swyddi ym Mhort Talbot yn ddim llai na brad.

"Bydd pobl Port Talbot yn gofyn pam nad oedd eu swyddi a'u cymuned yn werth ymladd amdanynt."

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Llinos Medi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Medi yn cyhuddo Llafur o "gefnu ar Bort Talbot tra'n ystyried gwladoli yn Scunthorpe"

Yn 2016, diystyrodd llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd wladoli ym Mhort Talbot, ac roedd y cytundeb £500m rhwng Tata a'r llywodraeth Lafur newydd y llynedd yn cyfateb i'r hyn a gafodd ei gynnig gan y weinyddiaeth a oedd yn gadael.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru yn y Senedd ar yr economi, Luke Fletcher AS, sydd hefyd yn cynrychioli de-orllewin Cymru, eu bod "wedi gofyn eto ac eto i wladoli gael ei ystyried" ym Mhort Talbot.

"Os yw'n ddigon da i Scunthorpe, pam nad oedd yn ddigon da i Bort Talbot?" meddai wrth y BBC.

Ond ddydd Iau cyhoeddodd Tata fod cam mawr wedi'i gymryd yn y newid tuag at ddulliau gwyrddach, gyda "llinell bicl flaengar" ym Mhort Talbot.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi llofnodi contractau gyda Clecim & ABB Limited i gyflenwi'r llinell bicl hon, sy'n faes prosesu arbenigol mewn gweithgynhyrchu metel, ac yn "gydran allweddol" mewn cynhyrchu dur.

gwaith dur traddodiadolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth gwaith dur traddodiadol i ben ym Mhort Talbot ym mis Medi'r llynedd pan gafodd gweddill y ffwrneisi chwyth eu cau

Dywedodd perchennog Chineaidd Dur Prydain, Jingye, nad oedd ei ffatri yn Scunthorpe yn gynaliadwy yn ariannol, gan honni ei fod yn colli £700,000 y dydd yn y ffwrneisi chwyth, lle mae 2,700 o bobl yn cael eu cyflogi.

Bydd trafodaethau yn ailddechrau ddydd Iau i geisio achub swyddi ar y safle, sydd bellach yn gartref i'r unig ffwrneisi chwyth sydd ar ôl yn y DU.

Mae'r BBC yn deall bod Llywodraeth y DU wedi cynnig prynu'r glo i gadw'r ffatri ar agor ac mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi dweud bod "pob opsiwn yn cael eu hystyried".