Achos llofruddiaeth: Teyrnged i fenyw 69 oed o'r Rhyl

Catherine Flynn Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Catherine Flynn ei disgrifio fel "mam, nain, hen nain, modryb a chwaer hyfryd"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu menyw 69 oed a fu farw yn Y Rhyl wedi rhoi teyrnged i "asgwrn cefn y teulu".

Bu farw Catherine Flynn ar ôl iddi gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ddiwedd mis Hydref.

Mae Dean Mark Albert Mears, 33, wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o'i llofruddio.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu fod "Cathy yn fam, nain, hen nain, modryb a chwaer hyfryd, ac yn ail fam ac yn ffrind da i nifer".

"Roedd yn caru ei theulu yn fwy na dim byd arall.

"Mae ei marwolaeth wedi gadael bwlch enfawr yn ein calonnau, a bydd pethau byth yr un peth hebddi.

"Nid yn unig yr ydym wedi colli ein mam a'n nain, ond rydym wedi colli ein ffrind gorau, ein lle saff, ein diogelwch, asgwrn cefn y teulu a'n goleuni dyddiol."

Pynciau cysylltiedig