Tri wedi marw ar ôl i yrrwr ifanc golli rheolaeth a tharo coeden - cwest
- Cyhoeddwyd
Bu farw tri pherson ifanc, gan gynnwys dau o Wrecsam, mewn gwrthdrawiad ar ôl i'r gyrrwr golli rheolaeth ar y car dros bont cyn taro coeden, mae cwest wedi clywed.
Bu farw gyrrwr y Ford Ka, Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Dan-y-fron, a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth a oedd yn y sedd flaen, yn y fan a'r lle ym mhentref Penkridge, Sir Stafford toc cyn hanner nos ar 25 Mai y llynedd.
Cafodd teithiwr yn y car, Sophie Bates, 17 o Stafford, ei chludo i'r ysbyty ond bu farw o'i hanafiadau dridiau yn ddiweddarach.
Cafodd merch arall oedd yn y car, Brooke Varley, 17 o Sir Amwythig, hefyd ei chludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd30 Mai 2024
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
Nid oedd y merched yng nghefn y car yn gwisgo gwregys diogelwch ac nid oedd Mr Jones yn gwisgo ei wregys yn gywir, clywodd y cwest, gyda Mr Craven-Jones yr unig un yn y car â'i wregys ymlaen yn gywir.
Clywodd y cwest yn Stafford fod Dafydd Craven-Jones wedi gyrru i Penkridge o Wrecsam i 'nôl ei ffrind Morgan Jones o barti tŷ.
Aeth Sophie Bates a Brooke Varley i mewn i'r car hefyd ac fe aeth y pedwar am dro i Cannock, cyn mynd yn ôl ar yr un ffordd i gyfeiriad Penkridge.
Dywedodd Sarjant Richard Moores wrth y cwest fod Brooke Varley wedi dweud bod Dafydd yn gyrru "bach yn gyflym" ar y ffordd yn ôl o Cannock a'i bod wedi gofyn iddo arafu.
Gofynnodd Ms Bates iddi a oedd hi'n iawn a dywedodd Ms Varley "nad oedd hi'n hoffi'r ffordd yr oedd y car yn cael ei yrru".
Aeth Sarjant Moores ymlaen i ddweud bod gan Ms Varley "deimlad rollercoaster" a'i bod hi'n gafael ar y gadair o'i blaen, yn teimlo'r car yn gwyro cyn colli ymwybyddiaeth.
Deffrodd i glywed rhywun ar y ffôn i'r gwasanaethau brys.
Roedd yr ap tracio Live 360 ar ffôn Ms Varley yn dangos bod y car wedi cyrraedd cyflymder o 85mya yn ystod y daith, ond dywedodd Sarjant Moores nad oedd yr ap yn ddibynadwy yn yr achos hwn.
Roedd fideo Snapchat o ffôn Ms Bates a gafodd ei dynnu'n gynharach y noson honno yn dangos Mr Craven-Jones yn dweud ei fod yn poeni am gael tocyn am yrru 90mya ar ffordd 70mya.
'Cyflymder amhriodol'
Clywodd y cwest hefyd fod gwasanaeth Priffyrdd Swydd Stafford wedi bod yn ystyried gwella'r arwyddion rhybudd ar gyfer y bont cyn y gwrthdrawiad.
Wrth nodi casgliad o farwolaeth o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd, dywedodd Crwner Cynorthwyol De Swydd Stafford Kelly Dixon, yn ôl pwysau tebygolrwydd, fod "cyflymder amhriodol" wedi arwain at y gwrthdrawiad.
Roedd Mr Craven-Jones yn yrrwr newydd, ar ôl pasio ei brawf ychydig fisoedd ynghynt ym mis Tachwedd 2023, meddai.
Ychwanegodd bod y ffaith nad oedd y rhai yng nghefn y car yn gwisgo eu gwregysau, a bod o leiaf un ohonyn nhw wedi gwrthdaro â Mr Craven-Jones, yn debygol o fod wedi cyfrannu at ei anafiadau.
Aeth Ms Dixon ymlaen i ddweud y byddai'n gwneud adroddiad atal marwolaethau i Briffyrdd Sirol Swydd Stafford ynghylch y marciau ffordd ac arwyddion rhybudd ar gyfer y bont, a oedd "dan ystyriaeth" ers Ionawr 2024, ond heb ddigwydd eto.
Mae tri gwrthdrawiad wedi digwydd ar y ffordd ers 2017 - dau o'r rheiny yn rhai angheuol.