Dim 'argyfwng' ariannu yn y celfyddydau, yn ôl gweinidog

Aelodau cast BranwenFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru ymhlith y gwledydd sy'n gwario lleiaf ar ddiwylliant drwy Ewrop, meddai adroddiad y pwyllgor diwylliant fis diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am ddiwylliant yng Nghymru wedi gwadu bod y sector yn wynebu argyfwng ariannu.

Mae pwyllgor yn y Senedd wedi codi "pryderon sylweddol" ynghylch a yw'r gweinidog Jack Sargeant yn "gwerthfawrogi'n llawn" y pwysau ar y celfyddydau.

Daw'r rhybudd cyn y ddadl gyntaf yn y Senedd ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd Llafur yn colli'r bleidlais ar ei chyllideb ddrafft oni bai bod aelod o'r gwrthbleidiau yn ei chefnogi.

Mewn adroddiad ar y gyllideb, cytunodd y pwyllgor diwylliant gyda Mr Sargeant fod cynyddu'r gyllideb ar gyfer y celfyddydau, chwaraeon a'r amgylchedd hanesyddol yn "gam i'r cyfeiriad cywir".

Ond ychwanegodd: "Fodd bynnag, gan ystyried y dystiolaeth a gawsom ynghylch dyfnder ac effaith y sefyllfa gyllido, a defnydd y sector ei hun o dermau fel 'argyfwng', mae gennym bryderon sylweddol ynghylch a yw'r gweinidog yn gwerthfawrogi'n llawn faint o bwysau sydd ar y sector."

Eluned Morgan and Jack SargeantFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jack Sargeant ei benodi gan Eluned Morgan yn 2024

Yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor fe wnaeth Mr Sargeant wadu bod 'na argyfwng ariannol – honiad a gafodd ei wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n dosbarthu arian cyhoeddus i grwpiau celfyddydol.

Mae'r llywodraeth wedi cadw rhai sefydliadau ar agor, meddai'r adroddiad, ond "clywsom lawer mwy o enghreifftiau trwy gydol ein hymchwiliad diweddar am sefydliadau a lleoliadau eraill sy'n ei chael hi'n anodd".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod y gweinidog wedi darparu cymorth ar frys i 60 o sefydliadau yn ystod ei chwe mis cyntaf yn y swydd.

Ychwanegodd: "Rydym hefyd wedi cyhoeddi'n ddiweddar cynnydd yng nghyllideb ddrafft y celfyddydau a diwylliant ar gyfer 2025-26."

cadeiriau mewn theatrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa ariannol yn "argyfyngus", yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae pwyllgorau ym mhob maes polisi wedi bod yn craffu ar y gyllideb cyn y bleidlais ddydd Mawrth.

Mae sawl un wedi rhybuddio am effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i godi cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr.

Mae arian ychwanegol wedi'i addo i helpu cyflogwyr yn y sector cyhoeddus i ymdopi â'r gost, ond ni fydd ar gael i fusnesau preifat sy'n darparu gwasanaethau, fel cwmnïau sy'n rhedeg cartrefi gofal.

Galwodd y pwyllgor diwylliant ar weinidogion i gadarnhau "fel mater o frys" a fydd sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth, gan gynnwys amgueddfeydd, yn cael eu hamddiffyn rhag cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mwy o bryderon gan bwyllgorau eraill

Dywedodd pwyllgor plant a phobl ifanc y Senedd ei fod yn "bryderus iawn" am effaith y newidiadau Yswiriant Gwladol ar elusennau, gan alw ar weinidogion i gyflymu eu gwaith i asesu a lleihau'r effaith.

Cododd gwestiynau hefyd am gyllid ar gyfer gofal plant, gan ddweud nad oedd yn glir a yw cynllun i ymestyn y gwasanaeth Dechrau'n Deg i bob plentyn dwy oed wedi'i ariannu'n llawn.

Dywedodd y pwyllgor llywodraeth leol fod cynghorau yn parhau i fod mewn "cyfnod heriol iawn" ac yn parhau i wynebu "pwysau cyllidebol sylweddol" sy'n debygol o arwain at godi'r dreth cyngor a thorri gwasanaethau.

Gofal plantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi codi cwestiynau am gyllid ar gyfer gofal plant

Heb fwyafrif yn y Senedd, mae Llywodraeth Cymru angen cefnogaeth o leiaf un aelod o wrthblaid i gymeradwyo ei chyllideb gwerth £26bn.

Yn dilyn beirniadaeth gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, mae'n ymddangos mai unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, sydd yn fwyaf tebygol o ddod i gytundeb.

Byddai colli'r bleidlais ddydd Mawrth ar y gyllideb ddrafft yn ergyd i'r llywodraeth, ond nid dyna ddiwedd y broses.

Gallai trafodaethau barhau i fis Mawrth pan fydd gweinidogion yn cyflwyno fersiwn terfynol o'u cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd Sam Rowlands, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr: "Heb fynd i'r afael â gwariant gwastraffus, ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru byth yn gallu blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd yn llawn a delio ag amseroedd aros sy'n dal i gynyddu i'r lefelau uchaf erioed, fis ar ôl mis."

Ychwanegodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan: "Nid yw cyllideb Llafur yn mynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r sectorau addysg neu ddiwylliant, ni fydd yn trwsio'r gwasnaeth iechyd, ac ni fydd yn golygu bod cynghorau yn gallu darparu'n briodol y gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae ein cymunedau'n dibynnu arnyn nhw."