Cerrig sarn 'o bwys cenedlaethol' wedi eu fandaleiddio

Carreg sarn gyda'r enw 'Patrick' wedi ei gerfio arniFfynhonnell y llun, Marc Hollyman
Disgrifiad o’r llun,

Yr enw Patrick wedi ei gerfio yn un o'r cerrig

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion pentref hanesyddol yn y de mewn sioc wedi i fandaliaid gerfio enwau ar gerrig sarn prin o'r Canol Oesoedd.

Mae'r 41 o gerrig ar draws Afon Ewenni ger Castell Ogwr, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, wedi eu cofnodi fel rhai "o bwys cenedlaethol".

Yn y dyddiau diwethaf, mae'r enwau "Patrick", "Lily" a "Liana" wedi ymddangos, wedi eu naddu'n ddwfn ar dair o'r cerrig, o bosib gyda rhyw fath o offer hogi heb gordyn.

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i'r difrod fel trosedd treftadaeth posib, gyda chymorth y corff sy'n gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru, Cadw.

Yn ôl Erica Staple, o ardal Merthyr Mawr, mae'r difrod "yn ddi-hid ac yn annerbyniol".

"Mae hwn yn le hollol brydferth," meddai. "Mae wedi cynhyrfu pawb yn y pentref.

"Maen nhw wedi bod yna am gannoedd o flynyddoedd ac maen nhw wedi cael eu hagru.

"Mae gyda ni grŵp WhatsApp lleol ac mae'r negeseuon yn mynd yn ôl ac ymlaen. I feddwl gallsi unrhyw un wneud hynny - mae'n ofnsdwy.

"Gofynnodd fy merch, 'oes posib eu hadfer?' A na, does dim byd fedrwn ni wneud, mewn gwirionedd."

'Rhaid trysori'r hyn sydd gyda ni'

Mae'n bryder gan Erica y gallai'r weithred annog eraill i wneud yr un peth.

Gan gyfeirio at achos torri coeden enwog yn Northumberland yn 2023, dywedodd: "Gyda choeden y Sycamore Gap, aeth pobol i'r carchar.

"Rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag a wnaeth hyn yn gorfod mynd i'r llys hefyd.

"Rhaid trysori'r hyn sydd gyda ni."

Llun cyfansawdd o ddau o'r cerrig-stepiau - mae'r enw Lily wedi ei naddu i'r un ar y chwith a'r enw Liana yn yr un ar y ddeFfynhonnell y llun, Marc Hollyman
Disgrifiad o’r llun,

Mae amheuaeth bod rhyw fath o offer hogi wedi ei ddefnyddio gan fod llinellau'r enwau mor syth

Er yr enwau ar y cerrig, dywedodd bod dim sicrwydd pwy allai fod wedi achosi'r difrod, a bod yna awgrym o gynllunio rhag blaen.

"Dydyn ni ddim yn gwybod a ydyn nhw'n bobol leol neu'n ymweld â'r ardal.

"Mae yna faes parcio bychan ac yn ddiweddar mae pobl wedi bod yn parcio faniau mawr yna dros nos ac yn chwarae miwsig ddydd a nos. Nid maes gwersylla yw e.

"Mae yna wahanol ddamcaniaethau. Ry'n ni'n gobeithio y bydd yr heddlu a CADW yn dod o hyd i'r gwir."

Mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol mae rhai wedi galw ar i'r troseddwyr fynd at yr awdurdodau.

Cerrig sarn yn Afon EwenniFfynhonnell y llun, Marc Hollyman
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib defnyddio'r cerrig i groesi Afon Ewenni

Yn rhestriad swyddogol y cerrig stepiau fel heneb, dywed Cadw eu bod, mwyaf tebyg, yn deillio o'r Canol Oesoedd gyda diwygio pellach.

"Mae'r heneb o bwys cenedlaethol oherwydd ei photensial i wella ein gwybodaeth am systemau trafnidiaeth cynnar," mae'n dweud.

"Mae'r heneb mewn cyflwr da ac yn oroesiad prin. Mae'n dal â photensial archaeolegol sylweddol, gyda phosibilrwydd cryf o bresenoldeb nodweddion a haenau archaeolegol.

"Mae arwyddocâd yr heneb yn cynyddu ymhellach oherwydd ei agosrwydd at Gastell Ogwr."